Tîm Digwyddiadau Myfyrwyr yn Darparu Digwyddiad Ysbrydoledig TEDxAbertawe
Mae Tîm Digwyddiadau Myfyrwyr Lefel 5 o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi llwyddo i gynllunio a chynnal digwyddiad TEDxAbertawe llawn ysbrydoliaeth ac effaith yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe, gan arddangos talent, proffesiynoldeb a chreadigrwydd eithriadol.
Dychwelodd TEDxAbertawe ar 21 Mawrth gyda’i thema bwerus, ‘Dechrau NEWYDD’, gan ddarparu rhaglen ysbrydoledig o 12 sgwrs sy’n canolbwyntio ar drawsnewid, arweinyddiaeth, arloesi a chyfrifoldeb byd-eang.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys rhestr nodedig o siaradwyr, gan gynnwys yr Athro Terry Stevens, sylfaenydd rhaglen Rheoli Twristiaeth a Digwyddiadau PCYDDS sy’n mynd ers 30 mlynedd Dewi Sant. Yn ymgynghorydd ac awdur twristiaeth ryngwladol sydd wedi ennill nifer o wobrau, mae’r Athro Stevens wedi cyfrannu i’r gwaith o ddatblygu cyrchfannau mewn mwy na phumdeg pump o wledydd ledled y byd.
O dan arweiniad Curadur TEDxAbertawe, Mark Davies, a’r darlithydd Twristiaeth a Digwyddiadau, Debbie Jenkins, cymerodd y myfyrwyr Caitlin Bollard, Tamara Crookes, Charlie, a Susie-May gyfrifoldeb gweithredol llawn am y digwyddiad byw. O logisteg a chysylltiad â siaradwyr i farchnata, profiad y gynulleidfa a chynhyrchu ar y dydd, defnyddiodd myfyrwyr theori academaidd yn llwyddiannus mewn amgylchedd proffil uchel, yn y byd go iawn.
Dywedodd trefnydd y myfyrwyr, Caitlin Bollard: “Ces i’r cyfle anhygoel i fod yn rhan o gynnal digwyddiad TEDxAbertawe yn rhan o fy modiwl Digwyddiadau Byw yn y brifysgol, ac am brofiad ysbrydoledig! O helpu i reoli ac addurno’r mannau ymylol i gyfarfod a chyfarch noddwyr, roedd pob manylyn yn bwysig. Roedd y diwrnod yn llawn syniadau pwerus a sgyrsiau ystyrlon, a chafodd fy angerdd am y diwydiant Twristiaeth a Digwyddiadau ei atgyfnerthu. Rwy’n ddiolchgar am bopeth a ddysgais i ac edrychaf ymlaen at ragor o gyfleoedd fel hyn.”
Mae’r dull profiadol hwn yn adlewyrchu ymrwymiad PCYDDS i ddysgu dan arweiniad y diwydiant, gan roi i raddedigion yr hyder, yr ystwythder a’r cymhwysedd proffesiynol y mae’r sector twristiaeth a digwyddiadau modern yn galw amdanyn nhw.
Meddai Debbie Jenkins: “Trwy gynnal llwyfan fel TEDx a gydnabyddir yn fyd-eang, cafodd myfyrwyr brofiad ymarferol o reoli digwyddiad, sgiliau arwain a chydlynu tîm, cysylltiad â rhwydweithiau entrepreneuraidd, ymwneud yn uniongyrchol ag arloeswyr busnes a datrys problemau amser go iawn mewn amgylchedd digwyddiad byw.”
Ychwanegodd Mark Davies: “Roedd ‘Dechreuad NEWYDD’ yn ymateb i awydd byd-eang am dwf, adnewyddu ac arweinyddiaeth bwrpasol. Roedd rhestr y siaradwyr a ddewiswyd yn ofalus, yn archwilio straeon am newid, gwytnwch ac arloesi, themâu sy’n atseinio’n gryf gyda’r cenedlaethau newydd sy’n paratoi i lunio’r dyfodol.”
Roedd dylunio a chynnal digwyddiad ar y raddfa hon yn galluogi myfyrwyr i ennill profiad ymarferol amhrisiadwy, gan ddefnyddio eu gwybodaeth am gynllunio a rheoli digwyddiadau mewn lleoliad go iawn. O gydlynu rhanddeiliaid, lleoliadau, a thimau cynhyrchu i reoli marchnata, y cyfryngau cymdeithasol, cyllid a logisteg, cymerodd y myfyrwyr berchnogaeth lawn ar y gwaith o gynnal y digwyddiad.
Mae’r rhaglen yn PCYDDS wedi’i strwythuro’n ofalus i fagu hyder a datblygu sgiliau proffesiynol trwy ystod eang o gyfleoedd digwyddiadau byw. Mae myfyrwyr yn ennill profiad hanfodol o weithio gyda noddwyr, siaradwyr, a gweithwyr proffesiynol y diwydiant, gan roi iddyn nhw sgiliau trosglwyddadwy sy’n eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant digwyddiadau byd-eang.
Trwy gydol eu hastudiaethau, mae myfyrwyr yn symud ymlaen trwy brosiectau cynyddol gymhleth. Ar Lefel 4, maen nhw’n cydweithio ag Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe i gyflwyno Parti Tŷ Abertawe. Ar Lefel 5, maen nhw’n defnyddio Canolfan Ddigwyddiadau Dylan Thomas yn SA1 Glannau Abertawe i gysyniadoli a gweithredu eu digwyddiadau byw eu hunain. Erbyn Lefel 6, mae myfyrwyr wedi’u paratoi’n llwyr i arwain prosiectau mawr megis Cynhadledd ac Arddangosfa Gyrfaoedd arobryn ITT Future You Wales.
Meddai’r Athro Gareth Davies, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd y brifysgol: “Mae’r digwyddiad hwn yn enghraifft o’r gorau o ddysgu cymhwysol yn PCYDDS. Mae ein myfyrwyr wedi dangos proffesiynoldeb, creadigrwydd ac arweinyddiaeth eithriadol wrth gynnal digwyddiad o arwyddocâd go iawn. Mae profiadau megis TEDxAbertawe nid yn unig yn gwella eu taith academaidd ond hefyd yn sicrhau eu bod nhw’n tyfu gyda’r sgiliau ymarferol, yr hyder a’r canfyddiad i’r diwydiant sydd eu hangen i ffynnu mewn amgylchedd byd-eang cystadleuol.”
Bellach mae’r myfyrwyr Lefel 5 yn paratoi ar gyfer eu Prosiect Digwyddiad Byw olaf, sef Dawns Fasgiau i’w chynnal yng Nghanolfan Dylan Thomas.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071