Tîm Pêl-rwyd PCYDDS yn Dathlu Tymor Llwyddiannus a Datblygiad Cryf y Tîm.
Mae Tîm Pêl-rwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dathlu tymor llwyddiannus, llawn cynnydd, wedi’i nodweddu gan berfformiadau cryf, cyflawniadau unigol, a datblygiad trawiadol gan y tîm ar ôl dyrchafiad i adran uwch.
Gan gystadlu mewn cynghrair fwy heriol y tymor hwn, croesawodd y garfan sawl chwaraewr newydd ac yn fuan iawn sefydlodd ddiwylliant tîm cryf ar ac oddi ar y cwrt. Trwy ymroddiad, gwaith tîm, a hyfforddi cyson, datblygodd y tîm gysylltiadau cryf a esgorodd ar berfformiadau rhagorol trwy gydol yr ymgyrch.
Er gwaethaf y lefel uwch o gystadleuaeth, dangosodd y chwaraewyr wytnwch a phenderfyniad ym mhob gornest, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gystadleuol trwy gydol y tymor. Gwobrwywyd eu gwaith wrth iddynt orffen yn y trydydd safle yn Adran 5 y Gorllewin, tipyn o gamp, a hynny’n adlewyrchu ymrwymiad a gallu’r garfan i berfformio dan bwysau.
Parhaodd presenoldeb yn y sesiynau hyfforddi yn gyson uchel trwy gydol y flwyddyn, gyda chwaraewyr yn dangos gwelliant sylweddol wythnos ar ôl wythnos. Fe wnaeth cyflwyno sesiynau cryfder a chyflyru ychwanegol, dan arweiniad yr hyfforddwr Steven Tonkiss, myfyriwr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, wella perfformiad a lefelau ffitrwydd cyffredinol y tîm ymhellach.
Yn ystod y tymor gwelwyd hefyd nifer o gyflawniadau unigol nodedig. Mae Emily Hopkins wedi’i dewis ar gyfer treial Tîm Pêl-rwyd Prifysgolion Cymru, sy’n gyfle gwych ac yn gydnabyddiaeth o’i hymroddiad a’i gallu.
Cafodd nifer o chwaraewyr eu cydnabod am eu perfformiadau rhagorol trwy dderbyn gwobrau Chwaraewr y Gêm drwy gydol y tymor, gan gynnwys Maddie Williams, Leah Rowlands, Lara Curtis, Lauren Evans, a Bria Rees. Rhaid rhoi cydnabyddiaeth arbennig hefyd i Medi Thomas, a gafodd ei phleidleisio gan dimau’r gwrthwynebwyr fel y chwaraewr mwyaf heriol iddynt gystadlu yn ei erbyn yn ystod y tymor.
Wrth adfyfyrio ar gyflawniadau’r tîm, dywedodd Hannah Poole, Pennaeth Pêl-rwyd PCYDDS:
“Mae’r merched wedi gweithio’n eithriadol o galed trwy’r flwyddyn, gan gefnogi ei gilydd a gwella bob wythnos. Mae gorffen yn drydydd yn gyflawniad gwych, yn enwedig o ystyried yr heriau yr oeddem yn eu hwynebu, ac rwy’n falch iawn o’r ffordd y daethon nhw at ei gilydd fel tîm.”
I gael rhagor o wybodaeth am Bêl-rwyd yn PCYDDS, ewch i Pêl-rwyd PCYDDS @ Undeb Myfyrwyr PCYDDS, neu cysylltwch â Hannah Poole h.poole@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476