Skip page header and navigation

Mae Kimberley Skeels, un o raddedigion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn dathlu gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol, gan nodi diwedd taith a yrrwyd gan greadigrwydd, angerdd a chariad at ffilm a ffotograffiaeth.

Image of Kimberley Skeels in her cap and gown

Mae camp Kimberley yn tynnu sylw at lwyddiant rhaglen Cynhyrchu Cyfryngau Digidol PCYDDS, sy’n cyfuno astudiaeth academaidd â phrofiad ymarferol yn y diwydiant, gan roi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau creadigol a thechnegol sydd eu hangen i ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiant cyfryngau.

Mae’r cwrs wedi’i leoli ar gampws Caerfyrddin PCYDDS, gan elwa o’i leoliad mewn cymuned greadigol ffyniannus, ochr yn ochr â Chanolfan S4C Yr Egin, cartref darlledwr cenedlaethol Cymru, yn ogystal â nifer o gwmnïau cynhyrchu annibynnol a busnesau creadigol.

Mae gan fyfyrwyr fynediad at gyfleusterau proffesiynol gan gynnwys ystafell sgrinio ymdrochol Samsung, stiwdios sgrin werdd, ac ystafelloedd golygu Apple Mac manylder uchel, sy’n caniatáu iddyn nhw ennill profiad o ddefnyddio offer o safon diwydiant trwy gydol eu hastudiaethau.

Meddai Rheolwr y Rhaglen, Dr Brett Aggersberg:

“Mae pob man yn ystafell ddosbarth yn ein cymuned greadigol. Ein nod ni yw datblygu gweithlu creadigol a chyflogadwy trwy roi cyfleoedd i fyfyrwyr ddefnyddio beth maen nhw’n ei ddysgu mewn sefyllfaoedd go iawn. Mae graddedigion fel Kimberley yn ein gadael ni, nid yn unig gyda gradd, ond hefyd gyda phrofiad gwerthfawr a phortffolio proffesiynol cryf.”

I Kimberley, dechreuodd y daith i’r cyfryngau digidol gyda chariad gydol ei hoes at greadigrwydd.

“Ers pan oeddwn i’n ifanc, rwyf bob amser wedi mwynhau bod yn greadigol. Mae’r angerdd hwnnw wedi mynd â mi ar daith lle rydw i wedi archwilio llawer o wahanol allfeydd creadigol, a minnau wedi mwynhau pob un ohonyn nhw’n fawr iawn, gan fy arwain, yn y pen draw, i ddarganfod fy angerdd am ffilm a ffotograffiaeth.”

Dewisodd Kimberley astudio Cynhyrchu Cyfryngau Digidol oherwydd ei fod yn cynnig cyfle i archwilio gwahanol feysydd creadigrwydd wrth adeiladu sgiliau ymarferol ar draws gwneud ffilmiau, ffotograffiaeth a chynhyrchu digidol.

Trwy gydol ei thair blynedd yn PCYDDS, manteisiodd Kimberley ar bob cyfle i ennill profiad yn y diwydiant. Un o uchafbwyntiau ei hastudiaethau oedd teithio i Ganada i helpu i greu rhaglen ddogfen, lle datblygodd dechnegau newydd o ran gwneud ffilmiau wrth brofi gwahanol ddiwylliannau a gweithio mewn amgylchedd newydd.

Cafodd y profiad effaith barhaol ar ei phrosiect annibynnol blwyddyn olaf, lle creodd raglen ddogfen a oedd yn archwilio nofio mewn dŵr oer a’i effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a llesiant.

Gweithiodd Kimberley hefyd gyda Gŵyl Ryngwladol Cyfryngau Cymru a Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin, gan greu cynnwys hyrwyddo a thynnu lluniau o’r digwyddiadau. Un o’i heiliadau mwyaf balch oedd gweld ffilm yr oedd hi wedi gweithio arni yn cael ei dewis i’w dangos yn y ddwy ŵyl.

Wrth fyfyrio ar ei hamser yn PCYDDS, meddai Kimberley:

“Mae’r cwrs hwn, ynghyd â’r staff anhygoel, wedi rhoi cymorth, anogaeth a chyfleoedd diddiwedd i mi sydd wir wedi helpu i droi fy mreuddwyd i’n realiti.

“Mae’n anrhydedd i mi orffen y bennod hon gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Dydw i erioed wedi ystyried fy hun yn arbennig o academaidd. Ces i drafferth ar adegau am fy mod i’n ddyslecsig, felly mae cyflawni hyn yn rhywbeth rwy’n hynod falch ohono.”

Canmolodd Dr Brett Aggersberg ymroddiad a chreadigrwydd Kimberley:

“Mae Kimberley wedi dangos sgiliau technegol rhagorol, dawn greadigol, ac ymdrech broffesiynol. Mae ei llwyddiant yn dyst i’w gwaith caled a’r cyfleoedd sydd ar gael drwy ein dull ni yma yng Nghaerfyrddin a’i ffocws ar y diwydiant. Rydyn ni’n falch dros ben o beth mae hi wedi’i gyflawni ac yn edrych ymlaen at weld ble bydd ei gyrfa yn mynd â hi nesaf.”

Wrth symud ymlaen, mae Kimberley yn eiddgar i barhau i ddatblygu ei sgiliau a gweithio ar brosiectau creadigol yn y dyfodol.

“Rwy’n awchu mynd â phopeth rydw i wedi’i ddysgu a’i ddatblygu i’m prosiectau yn y dyfodol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ble bydd y daith hon yn mynd â mi nesaf.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon