Un o raddedigion Llundain yn dathlu llwyddiant MBA gydag Anrhydedd a dyheadau byd-eang
Mae gweithiwr proffesiynol ym maes marchnata digidol sydd â mwy na degawd o brofiad yn y diwydiant yn dathlu ei raddio heddiw gyda MBA mewn Busnes Rhyngwladol gydag Anrhydedd o gampws Llundain Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Yn wreiddiol o Cumilla ym Mangladesh, dewisodd Khizir Ahamed, 31 oed, astudio yn y Drindod Dewi Sant er mwyn adeiladu ar ei brofiad helaeth mewn marchnata digidol, optimeiddio peiriannau chwilio (SEO), datblygu busnes ar-lein ac entrepreneuriaeth, tra hefyd yn datblygu’r sgiliau arwain strategol sydd eu hangen i lwyddo mewn busnes rhyngwladol.
Dywedodd Khizir: “Roeddwn yn gweld yr MBA fel mwy na chymhwyster. Roedd yn gyfle i drawsnewid fy mhrofiad proffesiynol yn arweinyddiaeth fusnes fyd-eang ac i baratoi ar gyfer cam nesaf fy ngyrfa.”
Drwy gydol y rhaglen, datblygodd Khizir arbenigedd mewn rheolaeth strategol, marchnata rhyngwladol, rheolaeth ariannol a rheolaeth cyfalaf dynol, gan gydweithio â chyd-fyfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd diwylliannol.
Mae’n rhoi clod i’r cwrs am gryfhau ei sgiliau arwain, cyfathrebu a gwneud penderfyniadau, yn ogystal â rhoi’r hyder iddo arwain sefydliadau mewn amgylchedd busnes sy’n gynyddol fyd-eang ac yn cael ei yrru gan dechnoleg.
“Roedd y darlithwyr yn cysylltu theori academaidd â sefyllfaoedd busnes go iawn, ac roedd hynny’n gwneud y dysgu yn arbennig o werthfawr,” meddai. “Mae cwblhau’r MBA gydag Anrhydedd yn un o’r cyflawniadau yr wyf fwyaf balch ohono.”
Ochr yn ochr â’i astudiaethau, parhaodd Khizir i archwilio rôl gynyddol deallusrwydd artiffisial mewn marchnata digidol, arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau busnes, gan adlewyrchu ei ymrwymiad i arloesi a dysgu gydol oes.
Daeth astudio dramor â’i heriau ei hun, gan gynnwys addasu i wlad newydd a system academaidd newydd, ond dywed Khizir mai ei wydnwch, ei allu i reoli amser yn effeithiol, a’r gefnogaeth a gafodd gan staff y Brifysgol a’i galluogodd i lwyddo.
Byddai’n annog eraill sy’n ystyried astudiaethau ôl-raddedig i ddewis rhaglen MBA (Busnes Rhyngwladol).
“Mae’r cwrs yn arfogi myfyrwyr â gwybodaeth ymarferol, meddwl strategol a safbwyntiau byd-eang sy’n hanfodol yn amgylchedd busnes cystadleuol heddiw. Mae’r darlithwyr yn wirioneddol ymroddedig i lwyddiant y myfyrwyr, ac mae’r rhaglen yn paratoi graddedigion i fod yn arweinwyr effeithiol.”
Yn dilyn graddio, mae Khizir yn bwriadu parhau i ddatblygu ei yrfa ym maes busnes rhyngwladol tra’n dilyn ei uchelgeisiau entrepreneuraidd drwy ddatblygu atebion busnes sy’n cael eu gyrru gan dechnoleg ac sy’n manteisio ar ddeallusrwydd artiffisial a thechnolegau newydd. Ei nod hirdymor yw adeiladu busnesau sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, sy’n creu cyfleoedd cyflogaeth, yn sbarduno trawsnewid digidol, ac yn cefnogi entrepreneuriaid y dyfodol drwy arweinyddiaeth foesegol ac arloesedd.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071