Skip page header and navigation

A hithau wedi’i gyrru gan angerdd dros wella canlyniadau iechyd y tu hwnt i ofal cleifion unigol, mae Yashvi Sharma yn graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) Birmingham gydag MSc Iechyd y Cyhoedd a Gofal Cymdeithasol ar Waith. 

A proud, happy smiling graduate holding a bouquet of yellow sunflowers.

Mae’r  gweithiwr gofal iechyd proffesiynol 26 oed o India wedi croesawu’r heriau o astudio dramor, gan ennill profiad rhyngwladol gwerthfawr a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gael effaith barhaol ar draws gwasanaethau gofal iechyd a chymunedau.

Dewisodd Yashvi Sharma, 25, sy’n wreiddiol o Vapi, India, astudio yn PCYDDS Birmingham ar ôl cwblhau gradd Baglor mewn Ffisiotherapi a datblygu diddordeb cryf mewn iechyd y cyhoedd. Wedi’i hysbrydoli gan ei mam i fynd ar drywydd cyfleoedd y tu hwnt i’r ffiniau oedd yn gyfforddus iddi, symudodd Yashvi i Birmingham i ennill profiad rhyngwladol ac ehangu ei dealltwriaeth o systemau gofal iechyd.

“Roedd y rhaglen MSc Iechyd y Cyhoedd a Gofal Cymdeithasol yn sefyll allan i mi oherwydd y dull amlddisgyblaethol a’r ffocws ar iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol,” meddai Yashvi. “Mae wedi fy helpu i ddeall gofal iechyd o safbwynt poblogaeth a pholisi ehangach, y tu hwnt i ofal cleifion unigol.”

Yn ystod ei hastudiaethau, datblygodd Yashvi sgiliau ymchwil, arwain a dadansoddi uwch wrth ddysgu ochr yn ochr â myfyrwyr o ystod o gefndiroedd diwylliannol a phroffesiynol. 

Un o uchafbwyntiau ei gradd oedd cynnal ymchwil i wella ansawdd adsefydlu wedi strôc, gan archwilio rôl ffisiotherapyddion mewn  timau Rhyddhau’n Gynnar â Chymorth a’u heffaith ar ganlyniadau cleifion.

Daeth astudio dramor â’i heriau, gan gynnwys addasu i ddiwylliant newydd, byw’n annibynnol a chydbwyso ymrwymiadau academaidd. Mae Yashvi yn cydnabod cefnogaeth ddiwyro ei theulu, yn enwedig ei mam a’i brawd, am ei helpu i lwyddo.

A hithau bellach yn Ffisiotherapydd cofrestredig gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), mae Yashvi’n gobeithio adeiladu ei gyrfa yn y GIG a’r sector gofal iechyd ehangach, gan gyfuno ei harbenigedd clinigol â’i gwybodaeth o ran iechyd y cyhoedd i gyfrannu at wasanaethau adsefydlu, rhaglenni gofal iechyd cymunedol a mentrau gwella gofal iechyd.

“Mae astudio yn PCYDDS” meddai “wedi bod yn brofiad sy’n newid bywyd. Mae wedi fy helpu i dyfu’n broffesiynol ac yn bersonol, wedi ehangu fy nealltwriaeth o ofal iechyd, a’m paratoi ar gyfer cam nesaf fy ngyrfa. Rwy’n ddiolchgar i’m teulu, yn enwedig fy mam, am fy annog i ddilyn fy mreuddwydion, ac edrychaf ymlaen at ddefnyddio fy ngwybodaeth a’m sgiliau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon