Un o raddedigion PCYDDS yn helpu i ddod ag arddangosfa celfyddydau cyfoes i Abertawe
Helpodd un o raddedigion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) i ddod â rhaglen gyffrous o gelf gyfoes i Abertawe drwy ei gwaith gyda chydweithfa guradurol yn Llundain.
Mae Hannah Henson, a raddiodd o’r rhaglen BA (Anrh) Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yn PCYDDS, yn aelod o Sediment Collective, cydweithfa guradurol sy’n cael ei rhedeg gan artistiaid yn Llundain ac sy’n hyrwyddo celf gyfoes mewn mannau anghonfensiynol.
Cyflwynodd y gydweithfa yr arddangosfa Convergence yn Down by Here, y lleoliad celfyddydol sydd newydd agor yn hen Oriel Elysium ar Stryd Fawr Abertawe. Roedd y digwyddiad yn cynnwys noson o berfformiadau yn rhychwantu cerddoriaeth, sain, barddoniaeth a chelf gysyniadol, ynghyd ag arddangosfa yn seiliedig ar olau y gallai cynulleidfaoedd ei harchwilio trwy gydol y noson.
Mae’r teitl Convergence yn adlewyrchu’r modd mae artistiaid o Abertawe, Caerdydd, Llundain, Birmingham, Maryland, a Prague wedi dod ynghyd, gan dynnu sylw at gydweithio ar draws ffiniau daearyddol a disgyblaethau artistig.
Roedd yr arddangosfa hefyd yn dathlu cyflawniadau cyn-fyfyrwyr PCYDDS, gyda nifer o raddedigion o raglenni Celf Gain a Ffotograffiaeth y Brifysgol yn arddangos eu gwaith, gan gynnwys Beff, Pamella Gomes, Niamh O’Dobhain, Heidi Lucca-Redcliffe, Hannah Henson, Zee Ahmed, Amelie Warner, a Dione Jones.
Ers graddio o PCYDDS, mae Hannah wedi parhau i ddatblygu ei harfer artistig a churadurol, gan gwblhau MA mewn Arfer Celf Gyfoes yn y Coleg Celf Brenhinol yn ddiweddar.
Meddai Hannah Henson: “Mae Sediment Collective yn angerddol am greu cyfleoedd i artistiaid gyflwyno gwaith uchelgeisiol mewn gofodau sy’n annog arbrofi, cydweithredu a sgwrs. Roedd dod â Convergence i Abertawe yn deimlad arbennig iawn oherwydd ei fod yn cysylltu artistiaid o bob cwr o’r DU ac yn rhyngwladol wrth ddathlu cymuned greadigol fywiog y ddinas. Roedd hefyd yn wych dychwelyd gyda phrosiect sy’n cynnwys cynifer o raddedigion talentog PCYDDS y mae eu harferion yn parhau i esblygu mewn ffyrdd cyffrous.”
Dywedodd Alexander Duncan, Uwch Ddarlithydd mewn Celf Gain yn PCYDDS: “Mae Hannah bob amser wedi dangos ymagwedd feddylgar a chydweithredol at ei harfer, ac mae’n wych ei gweld yn adeiladu ar hynny trwy Sediment Collective. Mae ei hymrwymiad i greu cyfleoedd i artistiaid a chynulleidfaoedd ymgysylltu â chelf gyfoes mewn ffyrdd newydd yn adlewyrchu’r gwerthoedd yr ydym yn eu hannog yn ein rhaglen Celf Gain. Rydym yn hynod falch o weld Hannah, ynghyd â chynifer o’n graddedigion, yn cyfrannu at dirwedd ddiwylliannol ffyniannus Abertawe.”
Mae Sediment Collective, sy’n cynnwys Hannah Henson, Pelencar, Ross Deeley, James Falls a Femmexy, yn gydweithfa guradurol wedi’i lleoli yn Llundain sy’n cael ei rhedeg gan artistiaid, ac sy’n canolbwyntio ar ddod â chelf i fannau anghonfensiynol a dathlu gwead, gwaith arbrofi ac amrywiaeth arfer creadigol cyfoes. Trwy Convergence, mae’r gydweithfa yn dwyn ynghyd artistiaid sy’n gweithio ar draws perfformio, gosodiadau, sain a chelf weledol i greu noson drochol o ddiwylliant cyfoes yng nghanol Abertawe.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071