Un o raddedigion PCYDDS, yn troi angerdd am yr awyr agored yn yrfa y tu ôl i'r camera
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dathlu camp ei graddedigion diweddaraf, gan gynnwys y myfyriwr aeddfed rhan-amser Dan Phillips, sydd wedi graddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o’r radd BA Gwneud Ffilmiau Antur ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin.
Dros y chwe blynedd ddiwethaf, mae Dan wedi cyfuno ei angerdd am yr awyr agored â gwneud ffilmiau, gan ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i recordio straeon o rai o’r amgylcheddau mwyaf heriol. Mae ei daith drwy’r cwrs wedi mynd ag e o ffilmio ar hyd arfordir Cymru i gynhyrchu gwaith a ysbrydolwyd gan y tirweddau, y bywyd gwyllt a’r anturiaethau o’i gwmpas.
Trwy ddewis astudio’n rhan-amser roedd modd i Dan gwblhau ei radd wrth gydbwyso ymrwymiadau eraill, gan olygu bod y cwrs yn cydblethu’n berffaith â’i ddyheadau a’i ffordd o fyw. Yn ystod ei amser yn PCYDDS, datblygodd ddealltwriaeth gref o wneud ffilmiau, o weithredu camera a golygu, i gynllunio cynyrchiadau, rheoli risg, a gweithio’n effeithiol dan amodau awyr agored heriol.
Mae’r radd BA Gwneud Ffilmiau yn annog myfyrwyr i fynd â’u gwaith creadigol y tu hwnt i’r stiwdio, gan gyfuno adrodd straeon â phrofiad awyr agored ymarferol. Datblygodd Dan enw da yn fuan am fod yn wneuthurwr ffilmiau ymroddgar a galluog, gan ddangos y gwytnwch a’r sylw i fanylion sydd eu hangen wrth weithio mewn amgylcheddau anrhagweladwy.
Meddai Rheolwr y Rhaglen, Dr Brett Aggersberg:
“Mae Dan yn enghraifft o’r agweddau gorau ar y rhaglen hon. Nid mater o ffilmio golygfa brydferth yn unig yw Gwneud Ffilmiau Antur; mae’n golygu gwytnwch, parch at yr amgylchedd, a’r gallu i adrodd stori afaelgar o dan bwysau. Mae gan Dan helaethrwydd o’r holl rinweddau hynny.”
Trwy gydol ei astudiaethau, mae Dan wedi adeiladu portffolio trawiadol o waith ac wedi ennill profiad gwerthfawr yn y diwydiant trwy gydweithredu â chwmnïau a sefydliadau. Mae’r cyfleoedd hyn wedi ei helpu i greu rhwydwaith yn y sector creadigol a pharatoi ar gyfer cam nesaf ei yrfa.
Gyda’i gyfuniad o wybodaeth awyr agored, ei allu i wneud ffilmiau technegol, a phrofiad o adrodd straeon, mae Dan yn edrych ymlaen at ddilyn cyfleoedd ar draws gwneud ffilmiau dogfen, masnachol ac antur.
Wrth ystyried ei seremoni raddio, meddai Dan:
“Rwy’n ddiolchgar iawn fy mod i’n graddio ar raglen Gwneud Ffilmiau Antur PCYDDS gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. I mi, astudio’n rhan-amser mewn prifysgol leol oedd yr unig ffordd y gallwn i fod wedi cwblhau gradd, felly roedd hwn yn gwrs perffaith i mi.
“Wrth adael mae gen i ddealltwriaeth fwy cyflawn o lawer o greu ar gyfryngau a llawer mwy o hyder ynof fi fy hun a’m galluoedd. Alla i ddim â diolch yn ddigon i’r staff, ar y cyrsiau Gwneud Ffilmiau Antur ac Addysg Antur Awyr Agored am eu cymorth, eu hanogaeth, ac am greu amgylchedd dysgu anhygoel.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476