Y Drindod Dewi Sant yn dathlu Dosbarth 2026 yn seremonïau graddio Abertawe
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn croesawu graddedigion, eu teuluoedd a’u ffrindiau wrth i Ddosbarth 2026 baratoi i ddathlu graddio yn Neuadd Brangwyn heddiw (14 Gorffennaf) ac yfory (15 Gorffennaf).
Mae’r seremonïau hyn yn deyrnged i waith caled ac ymroddiad y myfyrwyr, gan roi cyfle i gymuned gyfan y Brifysgol anrhydeddu eu cyflawniadau nodedig.
Mynegodd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-ganghellor PCYDDS, arwyddocâd yr achlysur: “Mae graddio yn rhoi’r cyfle i ni ddod at ein gilydd fel cymuned academaidd i ddathlu llwyddiant ein graddedigion ac i rannu’r llwyddiant hwnnw gyda theulu. Mae eich addysg wedi bod yn fwy na pharatoad ar gyfer gyrfa; mae’n sylfaen ar gyfer dysgu gydol oes ac yn ymrwymiad i wneud gwahaniaeth. Mae gennych chi’r potensial i ddefnyddio popeth rydych chi wedi’i ddysgu i gael effaith gadarnhaol ar les ein cymdeithas yn y dyfodol ac ar fywydau pobl eraill. Gallwch fod yn falch iawn o’ch cyflawniadau heddiw. Rydych chi wedi dangos bod gennych chi’r penderfyniad, yr ymrwymiad, a’r gwytnwch i lwyddo.”
Cynhelir pedair seremoni dros y ddau ddiwrnod, am 11.15am a 3.00pm ar y 14eg a’r 15fed o Orffennaf, gan ddod â graddedigion, eu teuluoedd, eu ffrindiau a staff ynghyd i nodi’r garreg filltir bwysig hon.
I’r rhai na allant fod yn bresennol yn bersonol, bydd y brifysgol yn ffrydio pob seremoni yn fyw:
- Graddio Abertawe – Seremoni 1 (11.15am, 14 Gorffennaf)
- Graddio Abertawe – Seremoni 2 (3.00pm, 14 Gorffennaf)
- Graddio Abertawe – Seremoni 3 (11.15am, 15 Gorffennaf)
- Graddio Abertawe – Seremoni 4 (3.00pm, 15 Gorffennaf)
Llongyfarchiadau i Ddosbarth 2026!
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076