Skip page header and navigation

Mae Sanwar Ahmed o Gaerdydd ar fin lansio gêm pêl-droed retro ac mae wedi cychwyn ei gwmni meddalwedd ei hun, Pitchwork Studios tra’n dal i astudio gradd Gyfrifiadura  ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

The Gaffer - Retro Football manager game launched by UWTSD student Sanwar Ahmed

Mae The Gaffer, yn ôl Sanwar, yn ffurf symlach o hapchwarae sy’n nodweddiadol o’r 1980au. Datblygodd y gêm lle mae chwaraewyr yn gweithredu fel rheolwr pêl-droed at ei ddefnydd personol ei hun gan nad oedd yn gallu dod o hyd i unrhyw beth tebyg ar y farchnad heddiw ond yn fuan gwelodd y potensial i’w lansio i gynulleidfa ehangach.

Mae Sanwar wedi derbyn cefnogaeth gan y Brifysgol gan gynnwys gan y Tîm Menter i ddatblygu ei gysyniad yn fusnes. Mae’n esbonio:

“Fe wnes i gysylltu â’r Tîm Menter yn ystod mis Awst eleni, oherwyd bod gen i’r gêm hon ond roedd angen cyngor proffesiynol arnaf. Cwrddais â Dylan Williams-Evans ac roeddwn i’n ddigon ffodus i siarad ag ef yn hir a chael gwybodaeth adeiladol a defnyddiol iawn ar y ffordd orau o fwrw ati â fy syniad. Cefais lawer o anogaeth hefyd gan James Williams, y gwnaeth ei ddarlith fy ysbrydoli i ddechrau’r gêm pan oeddwn yn ei ddosbarth. Cefais gefnogaeth wych gan y darlithydd, Adam Head hefyd.”

Mae’r cyn-gynghorydd morgeisi wedi trawsnewid ei ragolygon gyrfa ers astudio Tystysgrif mewn Addysg Uwch mewn Sgiliau Busnes a gynigir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ei dref enedigol, Caerdydd. Yna fe wnaeth y cwrs ei alluogi i symud ymlaen i’r BSc mewn Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch) ar gampws y Brifysgol yn Abertawe.

Meddai Sanwar: “Yn ystod Covid, roeddwn i’n frocer morgeisi hunangyflogedig ac roeddwn i’n chwilio am gyfleoedd i astudio a des i ar draws cwrs dysgu oedolion i ddatblygu sgiliau ar gyfer y gweithle. Gan fod hyn ar-lein yn bennaf gyda rhai dosbarthiadau wyneb-yn-wyneb yng Nghaerdydd, roeddwn i’n teimlo mai dyma’r hyn yr oeddwn ei angen i wella fy sgiliau, a byddai hefyd yn ategu fy nghymhwyster Tystysgrif mewn Cyngor ac Ymarfer Morgeisi (CeMap). 

“Rhoddodd y cwrs yr hyder i mi wneud cais i’r brifysgol yn llawn amser a dilyn fy angerdd am bopeth sy’n gysylltiedig â thechnoleg, yn enwedig cyfrifiaduron”, meddai. 

Mae’r hyder newydd hwn wedi arwain Sanwar i ddilyn ei freuddwydion a dechrau ei fenter ei hun.

“Fyth ers i mi fod yn ifanc, roeddwn i eisiau astudio a dilyn gyrfa mewn cyfrifiaduron, yn enwedig rhaglennu ond oherwydd dyslecsia roeddwn i bob amser yn cael trafferth,” meddai. “Ar y pryd, doeddwn i ddim yn gwybod bod gen i ddyslecsia nag anawsterau, ac roeddwn i’n tybio bod hyn yn normal a bod rhaglennu yn anodd, ond roeddwn i bob amser yn cadw i fyny â datblygiadau mewn technoleg, rhaglennu a gemau”. 

Fel llawer o ddysgwyr sy’n oedolion, nid oedd taith Sanwar yn ôl i addysg yn uniongyrchol. Er ei fod wedi ceisio dychwelyd i addysg o’r blaen, mae’n dweud bod gwaith a bywyd teuluol wedi cymryd drosodd: “Wnes I ddim yn dda yn fy arholiadau TGAU ac fe wnaeth hyn aros gyda mi ac roeddwn i eisiau mynd yn ôl i astudiaethau. Ceisiais ail-wneud TGAU yn fy arddegau hwyr, ond oherwydd llwyth gwaith doedd dim modd dilyn hyn, yn anffodus, wedyn, cymerodd bywyd teuluol drosodd.”

Fodd bynnag, mae’n dweud bod hyn yn fendith mewn cuddwisg ac yn ei alluogi i ennill profiadau bywyd y mae wedi’u defnyddio wrth ddatblygu’r gêm.

Newidiodd ei ragolygon pan ddarganfyddodd y cwrs a gynigir gan y Drindod Dewi Sant yng Nghaerdydd sydd wedi agor y drws iddo i’r ail gyfle yr oedd yn dyheu amdano.   

Dywedodd: “Oherwydd fy oedran, roeddwn i’n hynod bryderus, ond diolch byth, doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun. Cwrddais â chydweithwyr a darlithwyr gwych, ac mae’n teimlo fel cartref.

“Mae yna rai dyddiau hir oherwydd fy mod i’n teithio o Gaerdydd, ond rwy’n gwybod fy mod wedi gwneud y dewis cywir, a gobeithio y byddaf yn graddio y flwyddyn nesaf.

“Mae wedi fy ngalluogi i gyflawni uchelgais rydw i wedi’i gael ers pan oeddwn i’n ifanc. Doeddwn i fyth yn credu y byddai gen i’r potensial i raddio”.

Dywedodd y darlithydd Cyfrifiadura, James Williams, “Cefais y pleser o addysgu Sanwar yn ein modiwl Creadigrwydd ac Arloesi yn yr ail flwyddyn. Ers hynny, mae wedi dangos creadigrwydd, ffocws, ymrwymiad ac entrepreneuriaeth wych. Mae Sanwar wedi dangos ymroddiad rhyfeddol wrth ddatblygu ‘The Gaffer’, gêm rheoli pêl-droed retro trawiadol sy’n cyfuno ac yn dangos dyfnder, nodweddion cyfoethog, hapchwarae diddorol, a defnydd arloesol o ddeallusrwydd artiffisial. Mae’r prosiect yn arddangos nid yn unig gallu technegol cryf, ond hefyd ymwybyddiaeth fasnachol rhagorol, sgiliau rheoli prosiectau, a dealltwriaeth glir o sut i greu gêm a phrofiad defnyddiwr pleserus. 

“Yr hyn sy’n gwneud y cyflawniad hwn yn arbennig o drawiadol yw’r angerdd, dyfalbarhad a phroffesiynoldeb y mae Sanwar wedi’i ddangos a’u defnyddio yn y datblygiad.  Maw The Gaffer yn gêm hynod ddifyr a phleserus y byddai cefnogwyr pêl-droed yn mwynhau ei chwarae. Mae Sanwar wedi dangos ei fod yn berson disglair ac mae ganddo lawer o sgiliau a rhinweddau cadarnhaol, ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddo gyda’r gêm a’i yrfa yn y dyfodol.” 

Ychwanega Dylan Williams-Evans, Rheolwr Menter y Drindod Dewi Sant: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Sanwar a gweld yr angerdd, y creadigrwydd a’r penderfyniad y mae wedi’u cyflwyno i ddatblygu The Gaffer a sefydlu Pitchwork Studios. Yr hyn sy’n gwneud ei daith yn arbennig o ysbrydoledig yw ei fod wedi cymryd syniad a anwyd o’i ddiddordeb ei hun mewn gemau retro a’i droi’n fenter entrepreneuraidd gyffrous ochr yn ochr â’i astudiaethau prifysgol.

“Mae Sanwar yn enghraifft wych o sut y gall y brifysgol ddarparu’r hyder, y wybodaeth a’r gefnogaeth i helpu myfyrwyr i droi eu syniadau yn realiti. Trwy’r Tîm Menter, ein nod yw helpu myfyrwyr i gydnabod eu potensial, archwilio cyfleoedd a chymryd camau ymarferol tuag at adeiladu eu busnesau eu hunain. Mae Sanwar wedi dangos beth y gellir ei gyflawni pan fyddwch chi’n cyfuno angerdd am rywbeth â pharodrwydd i ddysgu, ceisio cyngor a chymryd y cam cyntaf pwysig hwnnw. Edrychaf ymlaen at weld sut mae’n datblygu Pitchwork Studios Limited a ble mae ei daith entrepreneuraidd yn mynd ag ef nesaf.”

Dywed Sanwar fod y cyrsiau y mae wedi’u hastudio yn y Drindod Dewi Sant wedi bod o fudd iddo mewn cymaint o ffyrdd ac wedi cyfrannu at ei hyder a’i sgiliau. Dywedodd: “Efallai na fyddwn wedi creu’r gêm hon heb y brifysgol. Mae tair blynedd o aseiniadau ac arholiadau wedi cynyddu fy ngallu addysgol. Rwy’n teimlo fel person academaidd, er nad wyf wedi graddio eto. Mae’r Brifysgol a’r gêm yn cyd-fynd yn berffaith a bydd y Brifysgol yn rhoi sylfaen gadarn i mi fynd â fy stiwdio feddalwedd hyd yn oed ymhellach.”

Mae gan Sanwar wefan Pitchwork Studios a  bydd The Gaffer yn cael ei ryddhau ar Steam 30ain o Hydref.

Sanwar Ahmed graduating from the Cert HE in Business Skills

Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon