Skip page header and navigation

Yn y darn meddwl hwn, mae Laura Hutchings, Arweinydd Digidol yr Athrofa:  Addysg a’r Dyniaethau yn PCYDDS, yn adfyfyrio ar y drafodaeth ddiweddar ynghylch gwaharddiad ar gymdeithasau cyfryngol arfaethedig Llywodraeth y DU i bobl ifanc o dan 16. Mae’n ystyried pam y dylai llythrennedd digidol fod ochr yn ochr ag atebolrwydd ac addysg wrth i ni baratoi pobl ifanc am ddyfodol cynyddol ddigidol.   

Digital aps on a bright blue background

Mae paratoi pobl ifanc ar gyfer y dyfodol erioed wedi bod yn un o gyfrifoldebau mwyaf addysg.  Wrth i gymdeithas esblygu, bydd rhaid i’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau rydym yn helpu pobl ifanc i’w datblygu esblygu hefyd.  Heddiw, mae’r dyfodol hwnnw wedi’i lywio’n gynyddol gan dechnolegau digidol, deallusrwydd artiffisial a chymunedau ar-lein, gan wneud llythrennedd digidol yn rhan hanfodol o addysg yn hytrach nag ychwanegiad dewisol. 

Mae gwaharddiad arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfryngau cymdeithasol i bobl ifanc o dan 16, ochr yn ochr â chyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru am ganllawiau statudol ar gyfyngu’r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion, wedi ysgogi sgwrs bwysig am y berthynas rhwng pobl ifanc a thechnoleg.  Mae’r ddwy fenter yn adlewyrchu uchelgais a rennir i wella llesiant plant a chreu amgylcheddau mwy diogel ar gyfer dysgu a thyfu i fyny mewn byd digidol. 

Er bod y ffocws wedi bod ar ddiogelu pobl ifanc rhag niwed ar-lein, mae’r ddadl yn rhoi cyfle i feddwl y tu hwnt i gyfyngiadau hefyd.  Os yw mynediad at gyfryngau cymdeithasol yn gyfyngedig tan fydd person ifanc yn 16 oed, sut ydyn ni’n sicrhau bod y pobl ifanc yn meddu ar yr wybodaeth, y farn a’r hyder i lywio’r platfformau hyn pan na fydd y cyfyngiadau hynny’n berthnasol mwyach?

Yn aml, mae llythrennedd digidol yn cael ei gysylltu â dysgu sut i ddefnyddio technoleg, ond, mae ei bwysigrwydd yn ymestyn llawer ymhellach.  Mae’n cynnwys sut mae algorithmau’n dylanwadu ar yr hyn rydym yn ei weld, cydnabod cam-wybodaeth a chynnwys a gynhyrchir gan AI, diogelu data personol, gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol a gwneud dewisiadau gwybodus ar-lein.  Mae’r galluoedd hyn yn tanategu nid yn unig cyfranogiad mewn gofodau digidol, ond dysgu gydol oes, cyflogadwyedd a dinasyddiaeth weithredol. 

Wrth i ddeallusrwydd artiffisial gael ei ymgorffori fwyfwy mewn addysg, gwaith a bywyd bob dydd, bydd helpu pobl ifanc i feddwl yn feirniadol am dechnolegau digidol yr un mor bwysig a’u helpu i ddefnyddio’r technolegau hynny’n effeithiol.  Mae’r galluoedd hyn yn datblygu dros amser a ni ellir disgwyl iddynt ymddangos pan fydd person ifanc yn cyrraedd oedran penodol. 

Yn ogystal, mae’n bwysig cydnabod nad dim ond lleoedd lle mae pobl yn defnyddio cynnwys yw platfformau digidol. Yn fwyfwy, maen nhw’n llefydd lle maen nhw’n dysgu, yn creu ac yn cydweithio.  Mae platfformau fel YouTube wedi dod yn adnoddau dysgu gwerthfawr, gan gefnogi popeth o adolygu a sgiliau ymarferol i fynegiant creadigol.  Mae llawer o bobl ifanc yn datblygu hyder a sgiliau digidol trwy greu cynnwys, rhannu syniadau ac ymgysylltu â chymunedau sy’n adlewyrchu eu diddordebau. 

Gall platfformau digidol ddarparu ffyrdd hygyrch i rai dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ymgysylltu â dysgu a chysylltu ag eraill sy’n rhannu profiadau tebyg.  Er bod rhaid sicrhau bod diogelu bob amser yn ganolog, mae’r un mor bwysig bod trafodaethau o gwmpas diogelwch ar-lein yn cydnabod y cyfleoedd y gall technolegau digidol eu darparu pan gaiff eu defnyddio’r gadarnhaol ac yn gyfrifol. 

Nid yw dim o hyn yn lleihau’r angen am amddiffyniadau cryfach.  Rhaid i gwmnïau technoleg fod yn atebol am yr amgylcheddau maen nhw’n eu creu.  Mae dylunio platfformau, algorithmau sy’n gwneud argymhellion a modelau masnachol yn llunio sut mae pobl ifanc yn profi’r byd ar-lein, ac ni all y cyfrifoldeb dros greu mannau digidol ddibynnu ar addysgwyr, teuluoedd neu gymunedau yn unig.  Mae gan y rhain sy’n dylunio a gweithredu’r platfformau hyn rôl hanfodol i’w chwarae hefyd. 

Fodd bynnag, mae gan addysg gyfrifoldeb sydd yr un mor bwysig.  Mae ysgolion, colegau a phrifysgolion nid yn unig yn paratoi dysgwyr am gymwysterau a chyflogaeth; maen nhw’n helpu i ddatblygu dinasyddion meddylgar, moesegol ac addasadwy.  Mewn byd lle mae technolegau digidol yn parhau i esblygu’n gyflym, mae llythrennedd digidol yn datblygu i fod yr un mor sylfaenol â llythrennedd a rhifedd. 

Ni ddylid ystyried sgwrs ynghylch y gwaharddiad arfaethedig ar gyfryngau cymdeithasol fel dewis rhwng rheoleiddio ac addysg.  Mae diogelu pobl ifanc ar-lein yn hanfodol, ond mae eu paratoi ar gyfer y byd maen nhw’n tyfu i fyny ynddo yn hanfodol hefyd.  Os yw’r ddadl bresennol yn annog mwy o fuddsoddi yn y maes llythrennedd digidol ochr yn ochr ag atebolrwydd cryfach gan gwmnïau technoleg, mae ganddi’r botensial i gyflawni rhywbeth llawer mwy arwyddocaol na newid deddfwriaethol yn unig.  Gall helpu i greu cenhedlaeth o bobl ifanc sydd nid yn unig yn fwy diogel ar-lein, ond sydd wedi’u paratoi’n well i gymryd rhan yn hyderus, yn feirniadol ac yn gyfrifol mewn cymdeithas gynyddol ddigidol. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon