Skip page header and navigation

Dathlodd ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar o bob rhan o Gastell-nedd Port Talbot gwblhau Prosiect Ymchwil Blynyddoedd Cynnar a ddarparwyd gan y Tîm Allgymorth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn rhan o Strategaeth Ehangu Mynediad a Chynllun Ffioedd a Mynediad y brifysgol.

A large group of people dressed in cap and gowns celebrating by throwing their hats into the air.

Daeth y prosiect 12 awr â pherchnogion, rheolwyr, nyrsys meithrinfa ac ymarferwyr Dechrau’n Deg ynghyd i archwilio pynciau gan gynnwys amgylcheddau galluogi, dysgu awyr agored, a dulliau Blynyddoedd Cynnar rhyngwladol megis Reggio Emilia a Montessori.

Y darlithwyr Glenda Tinney a Natasha Morgans yn PCYDDS a ddarparodd y rhaglen, a oedd hefyd yn cynnwys sesiwn Ysgol Goedwig ym Mharc Singleton yn Abertawe, gan roi syniadau ymarferol i ymarferwyr i fynd yn ôl â nhw i’w lleoliadau eu hunain.

Daeth y prosiect i ben a chyfranogwyr yn cyflwyno eu dysgu ac yn cymryd rhan mewn seremoni raddio fach i ddathlu eu cyflawniadau.

Meddai Glenda Tinney, Uwch Ddarlithydd yn PCYDDS: “Mae’r prosiect wedi bod yn gyfle gwych i weithio gydag ymarferwyr Dechrau’n Deg. Roedd yr ymarfer arloesol dan arweiniad plant a drafodwyd gan y cyfranogwyr  a sut mae hyn o fudd i fywydau plant, yn rhyfeddod i ni.”

Ychwanegodd Natasha Morgans, Darlithydd Blynyddoedd Cynnar: “Roeddwn i’n hollol wrth fy modd yn cefnogi gweithdai Dechrau’n Deg. Mae wedi bod yn braf gwylio ymarferwyr yn ailgysylltu â’u plentyn mewnol, o’r wreichionen i’r agwedd chwareus, a’r chwilfrydedd sy’n fyw iawn o hyd. 

“Maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel, ac mae clywed am yr arfer cadarnhaol sy’n digwydd bob dydd yn ein hatgoffa ni fel academyddion pa mor bwysig yw cadw mewn cysylltiad â’r byd go iawn o’n cwmpas ni. Mae’r gweithdai hyn wedi helpu i atgoffa pawb mai’r pethau syml sydd bwysicaf, a hyfryd o beth oedd eu cefnogi nhw i ailddarganfod hynny.”

Meddai Donna Williams, Uwch Swyddog Ehangu Mynediad yn PCYDDS: “Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar angerddol yn dod at ei gilydd i rannu syniadau, datblygu sgiliau newydd a magu hyder yn eu teithiau dysgu proffesiynol eu hunain.”

Meddai Gemma Williams, Perchennog Meithrinfa Dechrau’n Deg: “Beth roddodd y mwynhad mwyaf i mi oedd adfyfyrio ar ein blaenoriaethau ein hunain a ble y gallwn ni dyfu o fewn y feithrinfa a’n practis. Ces i syniadau, sgiliau a dulliau newydd, yn enwedig o Ysgol Goedwig, Montessori, a Reggio Emilia.

“Roedd y sesiynau’n fuddiol iawn ac yn rhoi llawer o syniadau i mi fynd â nhw yn ôl i’r lleoliad ar gyfer plant o bob oedran, gan sbarduno brwdfrydedd a chyffro i weithredu’r dysgu newydd. Mae cymryd rhan yn y prosiect hwn hefyd wedi fy annog i ystyried y Brifysgol.”

Ychwanegodd Sarah Walters, Cynghorydd Blynyddoedd Cynnar (Hyfforddiant) yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae Prosiect Ymchwil Blynyddoedd Cynnar PCYDDS wedi bod yn brofiad gwerthfawr i’n hymarferwyr Dechrau’n Deg. Mae wedi rhoi cyfleoedd iddyn nhw gysylltu eu hymarfer â theori’r Blynyddoedd Cynnar a chael blas ar fywyd prifysgol.”

A large group sat in a circle in a woodland.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon