Skip page header and navigation

Mae tri ar ddeg o ymarferwyr yn y blynyddoedd cynnar o bob cwr o Gastell-nedd Port Talbot wedi cymryd rhan mewn rhaglen datblygiad proffesiynol a ddarperir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot. Fe’i hariannwyd gan Ymgyrraedd yn Ehangach, sef menter Cymru gyfan sy’n anelu at godi dyheadau addysgol a chael gwared ar rwystrau i addysg uwch, dangosodd y prosiect sut y gall y brifysgol gynnig cyfleoedd dysgu gwerthfawr i bobl ar bob cyfnod yn eu gyrfaoedd.

cohort in their cap and gown in immersive room

Daeth y rhaglen â hyfforddwyr, rheolwyr meithrin a gweithwyr gofal plant at ei gilydd i archwilio dulliau newydd o ddysgu, datblygu eu sgiliau a darganfod cyfleoedd ar gyfer astudiaethau pellach.

Cafodd y cyfranogwyr brofiad o ystafell ymdrochol PCYDDS, gan archwilio dulliau creadigol o adrodd straeon, ac ymweld ag Ysgol Goedwig y brifysgol ym Mae Caswell. Yma, dyma nhw’n darganfod strategaethau, gweithgareddau a gemau newydd i fynd â nhw yn ôl i’w lleoliadau eu hunain i gefnogi dysgu a datblygiad plant yn eu gofal.

Daeth y rhaglen i ben gyda dathliad graddio, gan roi blas ar fywyd prifysgol i gyfranogwyr a chyfle i gydnabod eu cyflawniadau.

Mae sawl cyfranogwr bellach yn bwriadu cofrestru ar gyrsiau yn PCYDDS yn 2027, gan ddangos yr effaith y gall y cyfleoedd hyn ei chael wrth ysbrydoli pobl i gymryd eu camau nesaf i addysg uwch.

Meddai Glenda Tinney, Darlithydd yn PCYDDS, a gyflwynodd y sesiynau:

“Cawson ni ychydig o ddyddiau anhygoel yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y blynyddoedd cynnar. Roedd y sesiynau’n gyfle arbennig i rannu syniadau, dysgu oddi wrth ein gilydd ac archwilio sut y gall cyfleusterau fel yr ystafell ymdrochol gefnogi dysgu creadigol. Rwy’n gobeithio y gallwn ni ddatblygu rhagor o brofiadau fel hyn yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Donna Williams, Uwch Swyddog Ehangu Mynediad yn PCYDDS, a gydlynodd y rhaglen mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot:

“Nid dim ond ar gyfer pobl sy’n gadael yr ysgol y mae’r Brifysgol. Mae’n cynnig cyfle i bobl ym mhob cam o’u gyrfaoedd fagu hyder, datblygu sgiliau newydd a darganfod cyfleoedd nad ydynt efallai erioed wedi eu hystyried. Mae’r ffaith fod tri chyfranogwr bellach yn bwriadu astudio gyda ni yn 2027 yn dangos effaith gadarnhaol y prosiect hwn, gan ysbrydoli astudiaethau pellach wrth roi i weithwyr proffesiynol syniadau newydd i fynd â nhw yn ôl i’w gweithleoedd.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon