Ymchwil newydd yn amlygu cyfleoedd i ymgorffori cyfranogiad plant mewn addysg athrawon yng Nghymru
Mae ymchwilwyr o’r Prosiect Cyfranogiad Plant mewn Ysgolion, menter gydweithredol a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), wedi cyhoeddi canfyddiadau Cam 3 eu hastudiaeth genedlaethol, gan ddatgelu, er bod Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru yn cefnogi’n gryf hawliau cyfranogol plant yn gryf, y gallai rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ymgorffori cyfranogiad yn gyson mewn arferion dosbarth bob dydd.
Mae’r prosiect yn dod ag arbenigedd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Prifysgol Gorllewin Lloegr (UWE), Prifysgol Abertawe, a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd ynghyd. Ei brif ffocws yw archwilio a hyrwyddo hawliau cyfranogi plant ifanc o fewn lleoliadau addysg gynradd is yng Nghymru (3-7 oed).
Roedd Cam 3 y prosiect yn canolbwyntio’n benodol ar ddarpariaeth AGA yng Nghymru ac yn dilyn ymlaen o arolwg cenedlaethol o ddarparwyr AGA cynt y prosiect. Dros gyfnod o 12 mis, gweithiodd ymchwilwyr yn agos â myfyrwyr AGA ac addysgwyr athrawon trwy raglen o grwpiau ffocws a gweithdai seiliedig ar ymholiadau i archwilio sut mae hawliau cyfranogol plant yn cael eu deall a’u gweithredu mewn addysg athrawon. .
Mae’r canfyddiadau newydd yn amlygu, er bod y Cwricwlwm i Gymru yn disgwyl i ddisgyblion ddysgu ‘am’, ‘trwy’ ac ‘ar gyfer’ hawliau dynol, bod myfyrwyr AGA gan amlaf yn dod ar draws cyfranogiad trwy fodelau ffurfiol fel cynghorau ysgol ac eco-bwyllgorau, yn hytrach na thrwy addysgeg gyfranogol sydd wedi’u hymgorffori mewn penderfyniadau bob dydd yn yr ystafell ddosbarth.
Nododd ymchwilwyr hefyd gyfleoedd i fyfyrwyr AGA a disgyblion ysgol ddatblygu a phrofi cyfranogiad dilys.
Meddai Dr Jane Waters-Davies PCYDDS:
“Mae’n destun cyffro i ni allu tynnu sylw at ganfyddiadau cam 3 y Prosiect Cyfranogiad Plant mewn Ysgolion, sy’n canolbwyntio ar Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru. Yn dilyn ein harolwg cenedlaethol cynharach o ddarparwyr AGA treuliasom flwyddyn yn cymryd rhan mewn ymchwil seiliedig ar ymholiadau i ddarpariaeth AGA a sut y gall gefnogi cyfranogiad plant yn yr ystafell ddosbarth. Gwelsom, er y gellir anwybyddu’r agwedd hon ar addysgeg yn y ddarpariaeth AGA, bod llawer o gyfleoedd i ymgorffori cyfranogiad mewn elfennau yn y brifysgol ac mewn ysgolion o’r rhaglenni.
“Mae goblygiadau dysgu proffesiynol i addysgwyr athrawon sy’n gynhenid wrth optimeiddio cyfleoedd o’r fath. Gan fod cyfranogiad plant wrth wraidd y weledigaeth sydd wedi’i hymgorffori yn y Cwricwlwm i Gymru, rydym yn gobeithio y gellir defnyddio’r ymchwil hwn i gefnogi gwireddu’r cwricwlwm yn effeithiol lle mae hawliau cyfranogol plant wedi’u hymgorffori’n rheolaidd mewn ymarfer addysgegol cyfranogol.”
Mae’r briff polisi Cam 3, Addysg Gychwynnol Athrawon a Chyfranogiad Plant: Cyfleoedd a gollwyd, yr hyn [nad[ ydym yn ei ddweud wrth ein darpar athrawon, yn adeiladu ar gyfnodau cynharach y prosiect, a oedd yn archwilio cyfranogiad plant ar draws ysgolion yng Nghymru yn ehangach. Mae hefyd yn nodi cyfres o argymhellion gyda’r nod o gryfhau addysgeg gyfranogol ar draws AGA gan gynnwys galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dysgu proffesiynol a chanllawiau ar gael i ddarparwyr AGA i ategu a/neu ail-fframio cwricwla rhaglenni AGA er mwyn gwneud y gorau o gyfranogiad plant yn yr ystafell ddosbarth.
Mae ymchwilwyr yn gobeithio y bydd y canfyddiadau yn sail i ddatblygiad rhaglenni AGA, dysgu proffesiynol ar gyfer addysgwyr athrawon, a thrafodaethau polisi ynghylch hawliau plant a chyfranogiad democrataidd mewn addysg yn y dyfodol.
Mae’r briff polisi Cam 3 llawn ar gael yma:
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076