Yr Artist o Dde Cymru, Andrew T. Gardner, wedi'i ddewis ar gyfer Cymrodoriaeth Cychwyn Gyrfa i Artistiaid, PCYDDS 2026/27
Mae’r artist rhyngddisgyblaethol Andrew T. Gardner wedi’i ddewis ar gyfer Cymrodoriaeth Cychwyn Gyrfa i Artistiaid gan Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) 2026/27. Mae’r Gymrodoriaeth yn rhan o’r rhaglen Cronfa Dyfodol Artistiaid (Artists Futures Fund) sy’n cefnogi ymarferwyr creadigol datblygol sy’n dod i’r amlwg.
Wedi’i leoli yn Ne Cymru, mae Andrew yn gweithio ar draws y meysydd paentio, gwneud ffilmiau, perfformio a ffotograffiaeth. Graddiodd yn ddiweddar o’r rhaglen MA Deialogau Cyfoes yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS, lle enillodd ragoriaeth, mae hefyd yn ddarlithydd rhan-amser mewn Celf a Ffotograffiaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Mae arfer cyfoes Andrew yn archwilio canfyddiad, cyfryngu a’r ffyrdd y mae delweddau’n cael eu llunio a’u profi. Trwy’r Gymrodoriaeth, bydd yn ymchwilio i sut y gall paentio weithredu o fewn y systemau ehangach o gofnodi, trosglwyddo ac arddangos, gan gyfuno prosesau analog a digidol i archwilio sut mae technoleg yn siapio ein dealltwriaeth o realiti.
Bydd y Gymrodoriaeth yn darparu mynediad at gyfleusterau, offer a mentora arbenigol, gan alluogi Gardner i ehangu cwmpas cysyniadol a thechnegol ei waith trwy arbrofi a myfyrio beirniadol parhaus yn y stiwdio.
Meddai Andrew: “Byddai’r Gymrodoriaeth yn gyfle pwysig i ddatblygu agweddau cysyniadol, technegol a phroffesiynol fy arfer. Bydd mynediad at gyfleusterau arbenigol, offer ac arweiniad mentoriaid profiadol yn fy ngalluogi i archwilio fy arfer ymhellach, gan ganiatáu i mi brofi syniadau ar raddfa a lefel o gymhlethdod a fyddai fel arall yn anodd eu cyflawni.”
Meddai’r Athro Sue Williams, Rheolwr y Rhaglen Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun: “Mae’n fraint cydweithio unwaith eto â’r rhaglen Cronfa Dyfodol Artistiaid trwy’r Gymrodoriaeth Cychwyn Gyrfa i Artistiaid. Rydym ni, fel Tîm Celf Gain, yn croesawu Cymrodyr dethol i ddod yn rhan annatod o’n cymuned greadigol. Mae’n rhoi cyfle i ni gefnogi darpar artist arall, mewn byd sydd angen llais yr artistiaid yn fwy nag erioed.Rydym yn llongyfarch Andrew ar gael ei ddewis fel ein Cymrawd newydd ac edrychwn ymlaen at y flwyddyn i ddod.”
Dechreuodd taith artistig Andrew gyda chwrs Celf Sylfaen yng Ngholeg Celf Abertawe cyn cwblhau gradd mewn Celf Gain yng Ngholeg Polytechnig Caerlŷr. Datblygodd ei arfer ymhellach trwy astudio yn Academie van Beeldende Kunsten yn Rotterdam, Academie Willem de Kooning bellach, lle bu’n archwilio gwneud ffilmiau 16mm a thechnegau paentio Ffleminaidd, sylfeini sy’n parhau i lywio ei waith heddiw.
Mae’r Gymrodoriaeth Cychwyn Gyrfa i Artistiaid yn cydnabod talent greadigol sydd â’r potensial i wneud cyfraniad sylweddol i arfer artistig cyfoes ac yn darparu llwyfan i artistiaid ddatblygu gwaith newydd uchelgeisiol.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071