Skip page header and navigation

Mae’r Brifysgol yn falch o rannu bod  Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi enwi’r Athro Elwen Evans, CB, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ymhlith ei Chymrodyr newydd.

Professor Elwen Evans, KC, Vice-Chancellor of UWTSD

Cafodd yr Athro Evans ei henwebu gan Yr Athro Densil Morgan, am ei gwasanaethau i’r gyfraith a diwygio cyfreithiol yng Nghymru.

Mae’r Athro Evans wedi mwynhau gyfra gyfreithiol nodedig, wedi cyfrannu at ddiwygio cyfiawnder yng Nghymru ac wedi dal swyddi uwch ym maes addysg uwch Cymru.  Mae ei gwaith wedi siapio ymarfer, polisi ac addysg gyfreithiol ledled Cymru a thu hwnt. Mae’n aelod o Orsedd y Beirdd ac mae’n cael eu hadnabod am ei chyfraniadau diwylliannol a dinesig.

Mae’r Athro Evans ymhlith y 44 o Gymrodyr newydd, a gyhoeddodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru i ddathlu amrywiaeth ymchwil, arloesedd, arweinyddiaeth a chreadigrwydd Cymru.

Mae dros hanner (52%) o’r Cymrodyr newydd yn fenywod. Dywed y Gymdeithas ei bod yn gweithio’n weithredol tuag at greu Cymrodoriaeth sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru, ac mae’n hapus dros ben i gyrraedd y garreg filltir o ethol y gyfran uchaf o fenywod yn ei hanes.

“Mae croesawu ein Cymrodyr newydd i’r Gymdeithas bob amser yn un o brif uchafbwyntiau blwyddyn y Gymdeithas,” meddai Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

 “Hoffwn eu llongyfarch nhw ar y gydnabyddiaeth hon o ragoriaeth a phwysigrwydd eu gwaith a’u cyfraniadau i fywyd yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio eu profiad a’u gwybodaeth yn ein gwaith ar bolisi a datblygiad ymchwilwyr.

 “Rwyf yn gyffrous dros ben hefyd bod ein gwaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn dechrau gweld y Gymrodoriaeth yn cynnwys nifer mwy o fenywod. Mewn tair allan o’r pum mlynedd diwethaf, mae menywod wedi ffurfio bron neu ychydig dros 50% o’r Cymrodyr newydd.

 “Mae hyn wedi bod yn ganlyniad ein hymdrechion i gynnwys ein hymrwymiad mewn perthynas â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar bob cam, i wneud y broses enwebu’n fwy hygyrch, ac i gynnal cyfres o ddigwyddiadau sydd yn benodol yn targedu menywod academaidd ac arweinwyr dinesig a allai fod â diddordeb mewn ymuno â’r Gymdeithas.”

Fel Academi Genedlaethol Cymru, mae’r Gymdeithas yn harneisio arbenigedd, profiad a chysylltiadau amlddisgyblaethol ei Chymrodoriaeth i hyrwyddo a datblygu cymuned ymchwil ac arloesi Cymru, a chefnogi’r defnydd o ymchwil ragorol ac amrywiol i ddatrys yr heriau o flaen Cymru ac o flaen y byd.


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon