Chwiorydd yn graddio gyda'i gilydd o Goleg Celf Abertawe
Mae graddio bob amser yn garreg filltir, ond i’r chwiorydd Carys Bristowe-Davies a Sarah Davies o Abertawe, mae’r seremoni eleni yng Ngholeg Celf Abertawe y Drindod Dewi Sant, hyd yn oed yn fwy arbennig. Mae’n nodi cyflawniad a rennir sydd wedi’i adeiladu ar waith caled, wrth iddynt raddio ochr yn ochr â’i gilydd a chymryd eu camau nesaf i’r diwydiannau creadigol.
Carys: Dal emosiwn trwy ffotograffiaeth
Mae Carys, sy’n graddio mewn BA Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau, wastad wedi cael ei denu at y grym sydd gan ddelweddau i adrodd straeon.
Ar ôl astudio Ffotograffiaeth a Chelf Gain ar gyfer Safon Uwch, cymerodd Carys amser i adfyfyrio ar y trywydd yr oedd hi’n ei ddilyn, gan barhau i arbrofi gyda phrosesau newydd cyn dewis Y Drindod Dewi Sant, wedi’i hysbrydoli gan enw da’r Brifysgol a gwaith ei graddedigion.
Roedd ganddi ddiddordeb ers yn ifanc mewn albymau o luniau teuluol a’r syniad o ddal eiliadau mewn amser, ac mae ei gwaith bellach yn archwilio’r cof, emosiwn a bydoedd dychmygol, breuddwydiol.
Yn ystod ei gradd, chwaraeodd mynediad at gyfleusterau arbenigol ran allweddol wrth gefnogi’r datblygiad hwn.
Meddai Carys
“Roedd yr ystafell dywyll a’r cyfleusterau prosesu ffilm yn anhygoel, gan fy ngalluogi i arbrofi gyda phrosesau traddodiadol ac amgen sydd yn rhan annatod o fy ngwaith, ac mae’r staff mor gefnogol a phob amser yn barod i gynnig arweiniad.”
Cafodd cyflawniadau Carys eu cydnabod yn y Sioeau Graddio Haf lle cyflwynwyd Gwobr Sarah Tierney iddi a fydd yn cefnogi dilyniant Carys ar ôl iddi raddio, gyda mynediad parhaus i gyfleusterau’r Brifysgol er mwyn datblygu ei harfer ymhellach, gan arwain at arddangosfa unigol.
Mae Carys bellach yn gobeithio dod yn ffotograffydd clinigol wrth barhau i adeiladu ei phortffolio creadigol.
Sarah: Dychwelyd at freuddwyd greadigol
Dychwelodd Sarah, sy’n graddio gyda BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau, i astudio ar ôl seibiant o 18 mlynedd, gan ddewis dilyn diddordeb creadigol hirdymor, wedi’i hysgogi gan awydd i herio ei hun ac i ddatblygu sgiliau newydd.
Rhan allweddol o’i phrofiad oedd gweithio ar friffiau diwydiant byw, gan gydweithio â brandiau gan gynnwys Monki, Anglepoise a Laura Ashley. Roedd y prosiectau hyn yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i sut beth yw gweithio i ddisgwyliadau proffesiynol ac i friffiau o’r byd go iawn.
Enillodd ei gwaith gydnabyddiaeth pan enillodd friff byw Laura Ashley, gan arwain at fentoriaeth gan y brand a gwahoddiad i’w swyddfa yn Llundain. Sicrhaodd interniaeth hefyd gyda’r brand annibynnol Elsie & Marj, gan ennill profiad ymarferol yn y diwydiant a hyder wrth weithio’n fwy annibynnol.
Meddai Sarah
“Mae gweithio ar friffiau byw, yn enwedig gyda Laura Ashley, wedi fy helpu i ddeall beth sy’n ddisgwyliedig mewn rôl ddylunio broffesiynol, ac mae ennill y math hwnnw o brofiad yn y diwydiant wedi magu fy hyder.”
Cafodd Sarah hefyd ei dewis, ochr yn ochr â’i chwaer Carys, i arddangos ei gwaith yn New Designers yn Llundain, prif arddangosfa’r DU ar gyfer talent dylunio sy’n dod i’r amlwg. Yn ystod yr arddangosfa, derbyniodd ganmoliaeth Sanderson Loves a chafodd ei chydnabod gan Ashley Wilde Group a Hovia. Fe’i henwyd hefyd yn un o ‘Top 10 to Watch in 2026’ AVA Academy.
Mae’r cyfleoedd hyn wedi cryfhau ei huchelgais i adeiladu gyrfa fel dylunydd llawrydd.
Blog Sarah
Mae Sarah yn rhannu rhagor am ei phrofiadau o ddychwelyd i addysg ac astudio BA Patrymau Arwyneb a Thecstiliau mewn blog.
Graddio gyda’i gilydd
Mae graddio gyda’i gilydd yn ychwanegu dimensiwn ychwanegol i’r foment, i’r ddwy chwaer, nid yn unig yn nodi diwedd eu hastudiaethau, ond hefyd y profiad a rennir wedi’i lunio dros yr un tair blynedd. Er mai cyd-ddigwyddiad ydoedd eu bod wedi dechrau ar eu cyrsiau ar yr un pryd, a hynny’n gyd-ddigwyddiad anarferol, o ystyried y bwlch oedran sydd rhyngddynt, mae wedi dod yn rhan ystyrlon o’u profiad.
Meddai Carys
“Rwy’n falch iawn ohoni ac yn ddiolchgar ein bod ni’n cael rhannu graddio gyda’n gilydd. Mae’n teimlo’n arbennig iawn i gyrraedd y pwynt hwn ar yr un pryd, ac mae’n rhywbeth y gallwn ni ddathlu’n iawn ar ôl i’r ddwy ohonom weithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf.”
Sarah said
“It’s been lovely to go through it together and cheer each other on. I remember our first day walking in together - and though we didn’t see each other much, it was always nice knowing we were both there. I’m immensely proud of Carys and I can’t wait to celebrate with her.”
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996