Cyn-fyfyrwraig sy’n gweithio ym myd cerddoriaeth yn lansio ap hyfforddi lleisiol newydd
Mae Juliet Russell, arbenigwr llais blaenllaw a chyn-fyfyriwr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi lansio ap hyfforddiant lleisiol arloesol, ‘Do Your Sing,’ sydd wedi’i gynllunio i arfogi cantorion cyfoes gyda thechnegau sy’n seiliedig ar dystiolaeth trwy ymarferion hygyrch a diddorol.
Astudiodd Juliet YMA mewn Ymarfer Proffesiynol (Addysgeg Llais) gyda PCYDDS a Chanolfan Astudio’r Llais trwy ddysgu o bell, profiad y mae’n cydnabod iddo fod yn un hollbwysig wrth lunio ei dull o hyfforddi a datblygu apiau.
Meddai: “Mae cwblhau’r YMA wedi canolbwyntio fy sgiliau ymchwil ac yn uwchraddio fy ngwybodaeth am wyddoniaeth llais gyfoes. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi creu Do Your Sing hebddo.”
Mae gyrfa Juliet yn un eclectig ac wedi’i gwreiddio yn ei phrofiad yn gantores, a hynny wedi ei lunio gan ei diddordeb ym mhŵer y llais i gysylltu pobl. Mae ei gwaith perfformio wedi mynd â hi o ysgrifennu a recordio ym Mumbai gyda’r cyfansoddwr Bollywood Aadesh Shrivastava i ganu yn Glastonbury ac ymddangos ar y llwyfan gydag artist sydd wedi ennill Gwobr Grammy yn Las Vegas.
Heddiw, mae hi’n dod â’r profiad byw hwnnw i hyfforddi a chyfarwyddyd creadigol proffil uchel, gan wasanaethu’n hyfforddwr lleisiol ar sioeau BAFTA gan gynnwys The Voice UK a Michael McIntyre’s Big Show, yn ogystal â Building The Band Netflix. Mae hi wedi gweithio gydag artistiaid sydd wedi ennill Gwobr BRIT, Grammy, Gwobr Mercury, MOBO ac MTV Europe, ac mae’n angerddol am ddatblygu artistiaid - cefnogi cantorion i ddod o hyd i’w llais unigryw wrth adeiladu hyder a sgiliau perfformio cynaliadwy.
Tyfodd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ‘Do Your Sing’ o ymrwymiad hirdymor Juliet i rannu hyfforddiant ymarferol ar-lein trwy ei “Tuesday Tutorials” poblogaidd ar Instagram. Wedi’u creu i gynnig arweiniad rheolaidd, ystyrlon i gantorion, mae’r sesiynau byr hyn yn adlewyrchu ei chred mewn defnyddio llwyfannau digidol i rannu gwybodaeth. Mae’r dull hwnnw’n llywio’r ap yn uniongyrchol, sy’n darparu pecyn cymorth lleisiol creadigol ar gyfer cantorion ac artistiaid cyfoes.
Tyfodd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ‘Do Your Sing’ o ymrwymiad hirdymor Juliet i rannu hyfforddiant ymarferol ar-lein trwy ei “Tuesday Tutorials” poblogaidd ar Instagram. Wedi’u creu i gynnig arweiniad rheolaidd, ystyrlon i gantorion, mae’r sesiynau byr hyn yn adlewyrchu ei chred mewn defnyddio llwyfannau digidol i rannu gwybodaeth. Mae’r dull hwnnw’n llywio’r ap yn uniongyrchol, sy’n darparu pecyn cymorth lleisiol creadigol ar gyfer cantorion ac artistiaid cyfoes.
Mae ‘Do Your Sing’ yn cyfuno profiad helaeth Juliet yn y diwydiant â gwyddoniaeth llais sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan arwain defnyddwyr trwy bedwar cam perfformiad lleisiol: cynhesu, ymarferion, effeithiau lleisiol a sesiynau ymlacio. Caiff pob ymarfer gymorth gan diwtorial hyfforddi drwy fideo, sy’n helpu cantorion i ddeall nid yn unig beth i’w ganu, ond sut i’w ganu a pham mae’n bwysig.
Mae Juliet yn gweld technoleg yn ffordd bwerus o ehangu mynediad at hyfforddiant lleisiol o ansawdd uchel.
Meddai: “Gall hyfforddi fod yn ddrud, felly mae’r ap hwn yn cynnig hyfforddiant creadigol, gwyddonol am bris mwy hygyrch.” Er na all technoleg ddisodli hyfforddiant un-i-un pwrpasol, mae Juliet yn credu y gall wella cysylltiad a dysgu, gan drefnu bod technegau proffesiynol ar gael i gantorion ble bynnag y maen nhw.
Wrth i Juliet barhau i arloesi mewn addysgeg leisiol, rydym yn falch iawn o dathlu ei chyflawniadau ac effaith ei gwaith ar y gymuned gerddoriaeth fyd-eang.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996