Skip page header and navigation

Mae Kevin Hughes, cyn-fyfyriwr Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol o 2012, wedi teithio llwybr rhyfeddol trwy fyd lletygarwch. O’i swydd gyntaf yn 14 oed i arwain tri gwesty yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol heddiw, mae wedi gweithio ledled y DU, Iwerddon ac UDA gan fagu mewnwelediad i bob cornel o’r diwydiant. 

Yn ddiweddar, siaradodd Kevin â myfyrwyr yn nigwyddiad ITT Future You Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gan rannu ei fewnwelediadau a’i straeon.

A man standing behind a podium and microphone on a stage, smiling
Kevin Hughes yn siarad yn nigwyddiad ITT Future You 2026

Cynhadledd a drefnir a chyflwynir gan fyfyrwyr Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau y Brifysgol yw ITT Future You, ar gyfer rheiny sy’n meddwl ymuno â’r diwydiant, gan eu cysylltu â chyn-fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol y sector.

Yma, mae Kevin yn myfyrio ar ei daith, y profiadau a’i siapiodd, a’r cyngor y mae bellach am rannu gyda’r genhedlaeth nesaf sy’n mynd i mewn i’r diwydiant Teithio, Twristiaeth a Lletygarwch.

Roedd yn teimlo’n eithaf swreal i ddychwelyd i Abertawe yn ddiweddar i siarad yn nigwyddiad ITT Future You oherwydd nid yw’n teimlo mor bell yn ôl ers imi fyw yno, yn astudio, yn darganfod bywyd, ac yn ceisio dychmygu sut fyddai’r dyfodol imi. Un peth roeddwn i’n ei wybod, hyd yn oed bryd hynny, oedd fy mod i wrth fy modd â lletygarwch.

Ni chafodd  fy llwybr i’r diwydiant hwn ei arwain gan ryw gynllun mawr. Dechreuodd mewn gwirionedd ar wyliau teuluol ar draws Ewrop. Roedd y rhan fwyaf o blant yn gyffrous am draethau, sleidiau neu barciau thema;  ond fi, cefais i fy swyno gan yr ystafelloedd bwyta, yr awyrgylch, y gwasanaeth a’r ffordd roedd popeth yn gweithio gyda’i gilydd fel perfformiad wedi’i ymarfer yn dda. 

Dyna oedd y sbardun - hyd yn oed os nad oeddwn i’n sylweddoli hynny ar y pryd.

Daeth fy ngham cyntaf i fyd lletygarwch yn 14 oed, pan wnaeth fy mamgu erfyn  ar The Saracen’s Head yn Symonds Yat i roi swydd i mi. Yn y pen draw, fe wnaethon nhw gytuno - mae’n debyg dim ond i’w chadw’n hapus - ac fe newidiodd y swydd honno bopeth i mi. Roedd yn swnllyd, anhrefnus, llawn cymeriadau… ac roeddwn i wrth fy modd. 

Gofynnodd un gwestai i mi unwaith a oedd y cyw iâr yn  gynnyrch maes. Atebais i: “Dylai fod - fe redodd i ffwrdd ddwywaith heddi.”

Fe wnaethon nhw chwerthin, a dysgais rywbeth yn gynnar: mae lletygarwch yn ymwneud â phobl, cysylltiad, a’r eiliadau bach dynol hynny sy’n aros gyda chi.

Aeth fy angerdd â mi i astudio Twristiaeth yn y coleg, ac yna yma, i gampws Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe ar gyfer y cwrs Rheoli Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol.

Cefais amser mor dda yma. Dysgais gymaint - theori wirioneddol ddefnyddiol a roddodd ddealltwriaeth gref i mi o’r diwydiant roeddwn i’n ei garu. Roedd y darlithwyr yn wych: cefnogol, gwybodus, ac angerddol am yr hyn yr oeddynt yn ei ddysgu. Fe wnaethon nhw ein gwthio, ein hysbrydoli, a gwneud i’r cynnwys deimlo’n real.

Ond nid yr ochr academaidd yn unig oedd hi.

Roedd byw yma, adeiladu cyfeillgarwch, tyfu i fyny ychydig, a darganfod pwy oeddwn i a beth oeddwn i eisiau. Ac yna, wrth gwrs, roedd y lleoliadau - y rhan o fy ngradd a luniodd fy ngyrfa yn fwy nag unrhyw beth arall.

Fy lleoliad cyntaf oedd yng Nghastell Lough Eske - gwesty Capella pum seren hardd yn Donegal. Daeth Scott, y Rheolwr Bwyd a Diod yn ddylanwad enfawr arnaf. Helpodd ei hiwmor, ei garedigrwydd, ei safonau a’i arweinyddiaeth i lunio fy llwybr mewn ffyrdd nad oeddwn i’n eu deall yn llawn ar y pryd.

Dyma hefyd fy eiliad “byd bach” cyntaf ym maes lletygarwch. Flynyddoedd yn ddiweddarach fe wnes i weithio gyda Scott eto yn The Founders Inn yn Virginia Beachac yna eto yn Rosewood Llundain. Dyna pryd  sylweddolais  mewn gwirionedd bod  lletygarwch yn fyd bach. Mae eich enw da yn teithio’n gyflymach nag y gwnewch chi. Mae perthnasoedd yn bwysig - hyd yn oed y rhai rydych chi’n eu ffurfio fel myfyriwr.

Yna daeth Colorado - Telluride. Byd hollol wahanol: mynyddoedd, eira, hetiau cowboi, a diwylliant gwasanaeth hollol wahanol. Teithiais gyda ffrindiau o fy nosbarth. Fe wnaethon ni wersylla mewn parciau cenedlaethol, gan gynnwys y Grand Canyon. Fe wnes i gysgu yn y car. Roedd eirth yno - eirth go iawn! Fe wnaethon ni hyd yn oed daith i Las Vegas - cymerodd oriau ac oriau mewn car.

Ni chawsom lawer o ddiwrnodau i ffwrdd… Felly gwnaethon ni’r mwyaf ohonyn nhw.

Ac eto - eiliad tro cylch  arall. Roedd Richard yn Rheolwr Cyffredinol gwesty cyfagos yn Telluride, a daeth yn rheolydd arna i flynyddoedd yn ddiweddarach yn Ystâd Raithwaite yng Ngogledd Swydd Efrog. Ar y pryd doedd gen i ddim syniad. Ond dyna fe yn fy nghyfweld.

Dyna letygarwch i chi: tro cylch llawn, bob tro.

Dyma lle rwy’n pwysleisio rhywbeth pwysig:

Gwnewch y gorau o’ch lleoliadau.

Gweithiwch mewn cymaint o adrannau ag y gallwch. Teithio. Archwilio. Profi popeth.

Fe wnaeth lleoliadau siapio fy ngyrfa yn fwy nag y gallaf ei esbonio.

Graddiais yn 2012 gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf - balch, ac yn hollol sicr mai gweithio mewn gwestai oedd lle roeddwn i eisiau bod.

Raithwaite oedd lle gwelais dwf go iawn a daeth pethau’n real. Dysgais sut i reoli tîm, hyfforddi pobl, gosod safonau - a blasu gwin yn iawn. Llai hudolus pan fyddwch chi’n ei wneud am 7 y bore, ond yn hanfodol!

The Founders Inn yn Virginia Beach oedd fy swydd gyntaf yn yr Unol Daleithiau. Nid lleoliad oedd hwn - dyma oedd fy swydd gyntaf yn yr Unol Daleithiau, a Scott oedd y Cyfarwyddwr Bwyd a Diod eto. Dysgais sut i ysgrifennu rhestrau gwin, cynllunio bwydlenni, a chynnal digwyddiadau ar gyfer mwy na 900 o westeion. Anhrefnus, prysur, ac yn hwyl anhygoel. Cadarnhaodd fy nghariad at arweinyddiaeth a gweithrediadau.

Yn ôl yn y DU, cefais fy mhenodi’n  Rheolwr Bwyty yn Hand Picked Hotels. Roedd y ddwy flynedd hynny yn –waith caled go iawn. Cyflogres, rheoli elw gros, staffio, rheoli costau… yr holl hanfodion gweithredol. Gwaith caled, ond fe wnaeth fy siapio i.

Yna galwodd Scott eto.

Ymunais ag ef yn Rosewood Llundain - gwesty hynod o foethus, ciniawa cain, a gwesteion enwog iawn bob dydd. Yma dysgais  “ffordd Llundain”: manwl, cyflymder, safonau, disgresiwn… a sut i weithredu ar y lefel uchaf.

Nesaf daeth Hartwell House. Ymunais fel Rheolwr Bwyty, symudais i fod yn Rheolydd Bwyd a Diod, ac yn 2021  yn Rheolwr Cyffredinol gwesty rhestredig pum seren, Gradd I.

Mae adeiladau Gradd I yn hudolus… ac yn oriog.

Dywedodd Cynnal a Chadw wrtha if unwtro na fyddai ffenestr un o’r gwesteion  yn agor oherwydd:

“Mae’n hŷn nag America, Kevin, a heddiw nid yw yn ei hwyliau.”

Dyna letygarwch treftadaeth ichi - ac roeddwn i wrth fy modd.

Ym mis Ionawr 2024, cefais fy  mhenodi’n  Gyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer:

  • Tŷ Hartwell
  • Neuadd Middlethorpe
  • Neuadd Bodysgallen

Mae Historic House Hotels yn unigryw: rhan o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rhan o PoB Hotels, a rhan o Condé Nast Johansens. Gwestai gwledig Prydain go iawn- a does dim llawer ar ôl. Mae’n fraint helpu i arwain y lleoedd rhyfeddol hyn.

Nid oes angen i chi wybod yn union ble rydych chi’n mynd eto. Yr hyn sy’n bwysig yw eich bodchi’n:

  • chwilfrydig
  • agored
  • manteisio ar gyfleoedd
  • teithio
  • adeiladu perthnasoedd
  • gweithio’n galed
  • parhau’n ostyngedig
  • dweud gwnaf

Oherwydd un diwrnod, byddwch chi’n edrych yn ôl ac yn sylweddoli bod pob shifft, pob lleoliad, bob noson hwyr a bore cynnar yn eich siapio ar gyfer rhywbeth mwy.

O fod yn 14 oed gyda’m Nain yn erfyn i mi gael swydd… i fod yn fyfyriwr yma yn Abertawe… i arwain gweithrediadau ar gyfer tair gwesty’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Os gallaf i adeiladu gyrfa rwy’n ei charu, gan ddechrau lle dechreuais i — gallwch chi hefyd.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon