Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr sy’n astudio BA (Anrh) Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cael eu hannog i fod yn uchelgeisiol, i fanteisio ar gyfleoedd, ac i ennill profiad y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Gyda lleoliadau a phrosiectau sy’n canolbwyntio ar y diwydiant wedi’u hymgorffori yn y cwrs, mae graddedigion yn gadael gyda llawer mwy na chymhwyster - maent yn gadael gyda hyder, profiad a chyfeiriad.

Un o’r myfyrwyr hynny yw Scott De Lloyd, a raddiodd yn 2025. Yn y darn hwn, mae Scott yn adfyfyrio ar ei daith o’r brifysgol i letygarwch moethus, gan rannu sut y gwnaeth lleoliadau, cyfleoedd proffesiynol a chefnogaeth academaidd helpu i lunio ei uchelgeisiau a’i yrfa gynnar.

A man standing behind a reception desk smiling

Pan ddechreuais yn y Drindod Dewi Sant, roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau gyrfa yn y diwydiant teithio a thwristiaeth, a dyna pam y dewisais astudio’r pwnc ar lefel gradd, ar ôl cwblhau astudiaethau blaenorol yng Ngrŵp Colegau NPTC. Ond ni allwn fyth fod wedi dychmygu faint o ddrysau a chyfleoedd fyddai’n agor i mi.

Un o’r rhannau mwyaf cofiadwy o fy ngradd oedd cael y cyfle i gamu’n syth i’r diwydiant tra’r oeddwn yn dal i fod yn fyfyriwr. Yn ail flwyddyn fy BA (Anrh) Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol, cwblheais Brosiect Lleoliad Proffesiynol a Menter, profiad a fyddai’n llunio llawer mwy ar fy ngyrfa nag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl. 

Es i ymlaen i dreulio pedwar mis yn byw ac yn gweithio yn Highlands, Gogledd Carolina, gan gwblhau lleoliad yn yr Old Edwards Inn and Spa, sy’n eiddo i Relais and Chateaux. Daeth y cyfle hwn wedi i mi wirfoddoli yng Nghynhadledd ITT Future You yn 2024, digwyddiad gyrfaoedd a diwydiant mawr sy’n dod â myfyrwyr, graddedigion a chyflogwyr ynghyd o bob rhan o’r sector teithio, twristiaeth a lletygarwch. Yno, cefais fy nghyflwyno i Yummy Jobs gan Jacqui Jones, fy nghyfarwyddwr rhaglen, sef cwmni sy’n cefnogi myfyrwyr a graddedigion i ddod o hyd i leoliadau lletygarwch rhyngwladol - cysylltiad a arweiniodd yn uniongyrchol at y profiad lleoliad anhygoel hwn. 

Yn ystod fy lleoliad, gweithiais yn yr Adran Ystafelloedd, gan ennill profiad ar draws gweithrediadau’r ddesg flaen, gwasanaethau gwesteion, a chadw tŷ. Rhoddodd y profiad ymarferol hwn fewnwelediad amhrisiadwy i mi i letygarwch moethus a phwysigrwydd darparu profiad i westeion sydd o ansawdd uchel yn gyson.

Cyn dod i’r Drindod Dewi Sant, nid oedd gen i’r hyder i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd oedd ar gael i mi. Fe wnaeth y gefnogaeth gan fy narlithwyr, Jacqui Jones a Debbie Jenkins, fy helpu i fagu’r hyder hwnnw a f’annog i gamu ymlaen a chymryd pob cyfle a ddaeth i’m rhan. Pan dderbyniais fy lleoliad yn Old Edwards Inn and Spa, doeddwn i ddim yn gallu credu pa mor ffodus yr oeddwn i gael cyfle o’r fath fel rhan o’m gradd, na’r hyn fyddai’n dod i olygu i’m dyfodol.

A man standing in front of an entrance with sign above his head reading 'Old Edwards Inn'

Fe wnaeth y profiad o fyw a gweithio dramor fy nysgu nid yn unig am y diwydiant, ond hefyd amdanaf fy hun. Dangosodd i mi fy mod i’n gallu gwneud llawer mwy nag yr oeddwn unwaith yn ei gredu ac fe wnaeth fy helpu i ddod yn fwy annibynnol, gwydn ac agored i brofiadau newydd. Un o’r prif wersi rydw i wedi’i dysgu yw bod twf yn aml yn dod o roi eich hun mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd ac ymddiried yn eich hun i ymateb i’r gofynion. 

Ar ôl cwblhau fy lleoliad, dychwelais i’r Drindod Dewi Sant i orffen fy mlwyddyn olaf. Yn ystod y cyfnod hwn, roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn rhan o’r tîm a helpodd i drefnu a chyflwyno Cynhadledd ITT Future You Cymru 2025. Roedd bod yn rhan o ddigwyddiad o’r raddfa honno, gyda dros 600 o gynrychiolwyr ac arddangoswyr, yn brofiad anhygoel ac roedd wedi helpu i fagu fy hyder, i ddatblygu fy sgiliau arweinyddiaeth, ac i gryfhau fy ngallu i weithio fel rhan o dîm proffesiynol.

Ar ôl graddio yn 2025, roeddwn wrth fy modd i gael cynnig interniaeth blwyddyn Rheolwr mewn Hyfforddiant (M.I.T) yn ôl yn Old Edwards Inn and Spa, gan ddechrau ym mis Medi 2025. Roedd sicrhau cyfle o’r fath mor fuan ar ôl graddio yn teimlo’n hynod werthfawr ac yn rhoi cyfle i mi barhau i feithrin fy mhrofiad ym myd lletygarwch moethus.

Yr hyn sy’n fy nghyffroi am weithio ym maes lletygarwch yw ei fod yn ddiwydiant sydd wedi’i adeiladu o amgylch pobl, profiadau, a chreu atgofion bythgofiadwy. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael teithio’r byd gyda fy nheulu ers yn ifanc, gan greu atgofion o bob cwr o’r byd. Fe wnaeth y profiadau hynny sbarduno f’awydd i fod yn rhan o ddiwydiant sy’n medru cael effaith mor gadarnhaol ar fywydau pobl.

Wrth edrych i’r dyfodol, rwy’n awyddus i barhau i ddysgu a thyfu yn y diwydiant. Mae dychwelyd i Old Edwards Inn yn rhoi cyfle i mi adeiladu ar fy mhrofiad blaenorol, cymryd mwy o gyfrifoldeb, a pharhau i ddatblygu fel gweithiwr proffesiynol ifanc.

Fy nghyngor i fyfyrwyr presennol neu ddarpar fyfyrwyr fyddai i wneud yn fawr o bob cyfle sydd ar gael i chi. Cymerwch ran, mynychwch ddigwyddiadau, adeiladwch gysylltiadau, a pheidiwch â bod ofn camu y tu hwnt i’r ffiniau sy’n gyfforddus i chi. Roedd yr hyn a wnes i y tu hwnt i’r darlithoedd ymhlith y rhannau mwyaf gwerthfawr o fy mhrofiad prifysgol.

Byddwn i’n dweud wrth unrhyw un sy’n ystyried llwybr tebyg, i fynd amdani. Gall y diwydiant teithio, twristiaeth a lletygarwch fynd â chi i gymaint o wahanol gyfeiriadau ac mae’n cynnig cyfleoedd anhygoel ar gyfer twf personol a phroffesiynol.

Fel y byddai Debbie, fy narlithydd, yn dweud ar ddechrau pob darlith, “Unleash your inner lion” a phwy a ŵyr ble yn y byd y gallai hynny fynd â chi.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon