O Wlad Pwyl i Lundain: Un o raddedigion y Drindod Dewi Sant yn gwireddu breuddwyd o yrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae myfyrwraig a symudodd o Wlad Pwyl i Lundain i chwilio am gyfleoedd newydd yn dathlu graddio o gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llundain ar ôl disgrifio ei gradd fel un o’r penderfyniadau gorau y mae hi wedi’i wneud erioed.
Graddiodd Emilia Milewska mewn BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol, wedi’i hysbrydoli gan angerdd gydol oes dros gefnogi iechyd a lles eraill a phenderfyniad i droi heriau bywyd yn ddyfodol cadarnhaol.
Dywedodd Emilia mai ei phrofiadau personol a’i harweiniodd i addysg uwch ac yn y pen draw i’r Drindod Dewi Sant.
Dywedodd: “Dewisais astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol oherwydd gofalu am iechyd a lles pobl oedd fy mlaenoriaeth erioed. Mae’r cwrs hwn wedi cryfhau fy nghred fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir. Mae wedi rhoi gwybodaeth werthfawr i mi, wedi fy helpu i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol, ac wedi cynnig llawer mwy i mi nag y gallwn erioed fod wedi’i ddychmygu. Mae’n un o’r penderfyniadau gorau rydw i wedi’i wneud erioed.”
Yn ystod ei hastudiaethau, cofleidiodd Emilia y cyfle i ddysgu ochr yn ochr â myfyrwyr o bob cwr o’r byd wrth elwa o gefnogaeth staff academaidd a phroffesiynol y Drindod Dewi Sant.
Dywedodd: “Mae gan y brifysgol dîm anhygoel o staff ac mae’n cynnig awyrgylch cynnes a chroesawgar. Yma, cefais y cyfle i gwrdd â llawer o bobl ysbrydoledig o bob cwr o’r byd. Hoffwn ddiolch i’r holl ddarlithwyr am eu gwaith caled, eu hymroddiad, a’r wybodaeth a rannwyd ganddynt gyda ni, yn ogystal â staff y brifysgol am eu caredigrwydd, eu hanogaeth a’u cred ynof trwy gydol fy nhaith.”
Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, dywed Emilia y bydd hi’n cario’r hyder, y sgiliau a’r cyfeillgarwch a enillodd yn ystod ei hamser yn y Drindod Dewi Sant.
Ychwanegodd: “Nid dyma’r diwedd – dim ond dechrau pennod newydd a chyffrous ydyw. Mewn bywyd, nid yw byth yn rhy hwyr i dri pheth: cariad, dysgu a chyflawni breuddwydion.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071