Skip page header and navigation

Yn ddiweddar, cymerodd myfyrwyr ar draws rhaglenni Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ran mewn digwyddiad Straeon Graddedigion – sydd bellach yn nodwedd flynyddol sefydledig o’r cwrs – gan ddod â chyn-fyfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol ynghyd i rannu eu profiadau y tu hwnt i’r brifysgol.

A smiling girl sitting with teddy bears on desk in front of her

Wedi’i gynnal ar-lein gan staff academaidd, rhoddodd y digwyddiad gyfle i fyfyrwyr glywed adfyfyrdodau gonest ar fywyd ar ôl graddio – o fagu hyder mewn rolau seiliedig ar arfer i lywio newidiadau gyrfa, astudiaeth bellach a chyfleoedd arweinyddiaeth. Er bod pob taith yn wahanol, roedd y graddedigion yn rhannu ymrwymiad clir i weithio gyda phlant, teuluoedd a chymunedau mewn ffyrdd ystyrlon.

Yn hytrach na dilyn un glasbrint gyrfa, dangosodd y siaradwyr sut y gall graddau Blynyddoedd Cynnar PCYDDS agor drysau i rolau amrywiol ac esblygol ar draws addysg, gofal, lles a gwasanaethau cymorth.

Ennill profiad ochr yn ochr ag astudio

Siaradodd Lisa Evans, un o’r graddedigion, am gwblhau’r radd BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg tra’n gweithio fel gweinyddes feithrin yn Aberystwyth. Roedd astudio’n llawn amser wrth ennill profiad ymarferol yn caniatáu iddi weithio ar draws ystod o leoliadau blynyddoedd cynnar, gan gynnwys darpariaeth meithrin, ysgol goedwig a gofal y tu allan i’r ysgol.

Disgrifiodd Lisa sut y gwnaeth cysylltu theori ag arfer dyddiol ei helpu i fagu hyder a dealltwriaeth ddyfnach o ddatblygiad plant. Mae hi bellach yn gweithio fel Darlithydd ar raglenni Gofal Plant yng Ngholeg Ceredigion, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr Blynyddoedd Cynnar. Mae ei thaith yn amlygu gwerth cyfuno astudio â phrofiad ymarferol ac yn dangos sut y gall graddedigion Blynyddoedd Cynnar symud i rolau hyfforddi, asesu a rolau cymorth ehangach yn y sector.

Cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd

Afyfyriodd nifer o raddedigion ar yrfaoedd sy’n canolbwyntio ar gefnogi plant a theuluoedd y tu hwnt i leoliadau gofal plant traddodiadol.

Rhannodd Lauren Thomas, sydd bellach yn gweithio fel Gweithiwr Ieuenctid mewn ysgol, ei thaith yrfa amrywiol ers graddio. Ar ôl gweithio yn y blynyddoedd cynnar, fel darlithydd ac mewn rolau cymorth i deuluoedd arbenigol, siaradodd am bwysigrwydd gwytnwch, hunan-ofal a dysgu parhaus wrth gefnogi pobl ifanc sy’n wynebu heriau cymhleth.

Dangosodd ei phrofiadau sut y gall gyrfaoedd ddatblygu dros amser, gyda sgiliau a ddatblygwyd yn ystod gradd Blynyddoedd Cynnar yn trosglwyddo ar draws gwahanol rolau a lleoliadau. Tynnodd sylw at sut mae dealltwriaeth gref o ddatblygiad plant a deinameg teuluol yn parhau i fod yn sail i’w gwaith.

Rhannodd cyn-fyfyrwraig arall fewnwelediad i weithio fel gweithiwr cymdeithasol, gan dynnu sylw at natur amrywiol ac yn aml gymhleth cefnogi plant a theuluoedd. Fe wnaethant fyfyrio ar bwysigrwydd diogelu, gweithio aml-asiantaeth a sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed, tra’n cydnabod yr heriau a’r gwobrau o wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl. Fe wnaethant hefyd annog myfyrwyr i ennill cymaint o brofiad ymarferol â phosibl a’u sicrhau bod llwybrau gyrfa yn aml yn dod yn gliriach dros amser.

Hyder, arweinyddiaeth a thwf proffesiynol

Canolbwyntiodd rhanddeiliaid eraill ar sut mae hyder yn parhau i ddatblygu unwaith y bydd graddedigion yn mynd i mewn i’r gweithle.

Adfyfyriodd Joanne Maguire, sydd bellach yn Uwch Weithiwr yng Nghanolfan Cymorth Cynnar Blynyddoedd Cynnar Cyngor Abertawe, ar fynd o fod yn fyfyrwraig i fod mewn rôl arwain yn cefnogi plant a theuluoedd. Siaradodd am sut mae ei gyrfa wedi datblygu dros amser, gan fagu hyder trwy brofiad ymarferol ac ymgymryd â heriau newydd.

Tynnodd Jo sylw at bwysigrwydd bod yn agored i gyfleoedd a chydnabod eich potensial eich hun, hyd yn oed yn gynnar yn eich gyrfa. Pwysleisiodd fod llawer o’r sgiliau allweddol a ddatblygwyd yn ystod gradd Blynyddoedd Cynnar, megis cyfathrebu, empathi a deall datblygiad plant, yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer symud ymlaen i rolau uwch.

Yn yr un modd, trafododd Natasha Young sut roedd ei gradd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gweithio gyda phlant a theuluoedd, ond pwysleisiodd fod dysgu yn parhau ymhell y tu hwnt i’r brifysgol. Anogodd Natasha, sydd bellach yn Ddarlithydd Blynyddoedd Cynnar a Rheolwr Rhaglen ar BA Addysg a Gofal Blynyddoedd (3 blynedd)BA Plentyndod, Addysg a Chymdeithas PCYDDS, cyn-fyfyrwyr i ymddiried ynddynt eu hunain, gofyn cwestiynau a magu hyder dros amser. 

Dod o hyd i’ch llwybr eich hun

Llinyn clir a redodd trwy gydol y digwyddiad oedd unigolrwydd taith pob myfyriwr graddedig.

Siaradodd Caitlin Davies am lywio ei llwybr ei hun ar ôl graddio, gan nodi ei bod yn normal i gynlluniau newid. I Caitlin, mae’r daith honno wedi arwain at reoli ei meithrinfa ei hun, cyflawniad sy’n adlewyrchu ei brwdfrydedd a’r sylfaen gadarn a adeiladwyd yn ystod ei hastudiaethau. Tynnodd sylw hefyd at y rôl bwysig a chwaraeodd lleoliadau wrth lunio ei gyrfa, gan esbonio sut y gwnaethant helpu i fagu ei hyder a chaniatáu iddi gymhwyso’r hyn yr oedd wedi’i ddysgu mewn lleoliadau go iawn.

Gan annog myfyrwyr i beidio â chymharu eu hunain ag eraill, pwysleisiodd fod pob rôl, boed yn un wedi’i seilio ar arfer, un academaidd neu un sy’n canolbwyntio ar gymorth, yn chwarae rhan bwysig wrth wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.

Adleisiodd Lowri Evans, myfyriwr graddedig,  y neges hon, gan adfyfyrio ar sut roedd ei phrofiadau yn ystod ac ar ôl ei gradd wedi siapio ei chyfeiriad proffesiynol. A hithau bellach yn gweithio fel Swyddog yr Iaith Gymraeg yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, siaradodd Lowri am sut roedd hi wedi disgwyl gweithio ym maes addysgu meithrin neu flynyddoedd cynnar yn wreiddiol. Yn lle hynny, mae ei gyrfa wedi mynd â hi i faes gweithio gydag oedolion ifanc mewn lleoliadau coleg, cyfeiriad nad oedd wedi ei ystyried yn wreiddiol ond sydd bellach yn rhoi llawer o foddhad iddi. Anogodd fyfyrwyr i fod yn agored i newid, gan bwysleisio ei fod yn hollol normal i lwybrau gyrfa esblygu.

Cyngor gan raddedigion i fyfyrwyr

Ar draws y digwyddiad, daeth sawl neges allweddol i’r amlwg o brofiadau’r graddedigion:

  • Nid oes un llwybr gyrfa penodol: gall teithiau gyrfa ar ôl graddio fynd i sawl cyfeiriad, ac mae’n normal i gynlluniau newid dros amser
  • Mae profiad ymarferol yn amhrisiadwy: mae lleoliadau, gwaith rhan-amser a chyfleoedd ymarferol yn helpu i fagu hyder a rhoi theori ar waith mewn lleoliadau go iawn
  • Mae hyder yn datblygu dros amser: mae llawer o raddedigion yn tynnu sylw at y ffaith bod hunan-gred yn tyfu trwy brofiad, adfyfyrio a chymorth yn y gweithle
  • Mae eich sgiliau yn drosglwyddadwy: gall gwybodaeth am ddatblygiad plant, cyfathrebu ac empathi agor drysau ar draws ystod eang o rolau
  • Mae dysgu parhaus yn allweddol: boed trwy astudiaeth bellach neu ddatblygiad proffesiynol, nid yw dysgu yn stopio ar ôl graddio

Roedd y digwyddiad wedi rhoi sicrwydd ac ysbrydoliaeth i fyfyrwyr sy’n astudio yn PCYDDS ar hyn o bryd, gan ddangos bod gyrfaoedd yn datblygu, diddordebau’n newid, a bod llwyddiant yn edrych yn wahanol i bawb.

Mae tîm Blynyddoedd Cynnar PCYDDS yn  parhau i fod yn falch o’i raddedigion a’r gwahaniaeth y maent yn parhau i’w wneud ar draws lleoliadau, gwasanaethau a chymunedau. Mae digwyddiadau fel hyn nid yn unig yn dathlu cyflawniadau cyn-fyfyrwyr, ond hefyd yn helpu myfyrwyr presennol i weld y posibiliadau niferus sydd o’u blaenau.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon