Skip page header and navigation

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi ei rhaglen ar gyfer cyfres darlithoedd y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol ar gyfer 2023–24, gyda nifer o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Graffigyn yn dangos dwsinau o bennau dynol yn llanw’r amlinelliad o fwlb golau sy’n allyrru llinellau du sy’n symboleiddio pelydrau o olau.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd cynulleidfaoedd yn clywed gan athronwyr o fri rhyngwladol ac yn cael cyfle i gymryd rhan mewn sgyrsiau athronyddol ar ystod o bynciau cyfoes mewn athroniaeth.

Mae’r gyfres ddarlithoedd hon yn gydweithrediad cyffrous rhwng yr Adran Athroniaeth yn Y Drindod Dewi Sand a’r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol.

Trefnydd rhaglen y gyfres ddarlithoedd y Sefydliad Brenhinol Athroniaeth yn y brifysgol yw Dr Rebekah Humphreys. Dywedodd hi:

“Hoffwn ddiolch i’r Sefydliad Brenhinol Athroniaeth am eu cefnogaeth sydd wedi rhoi’r cyfle i ni drefnu’r sgyrsiau hyn yn PCYDDS.

“Mae’r Gyfres Darlithoedd hon yn rhoi cyfle unigryw i glywed gan arbenigwyr o bob rhan o’r byd. Mae’n rhoi cyfle i staff, myfyrwyr ac aelodau ein cymunedau Llambed, Caerfyrddin ac Abertawe archwilio pynciau pwysig drwy fewnwelediad y siaradwyr enwog hyn.

“Mae pob darlith yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb felly ymunwch â ni ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod yn rhaglen gyffrous.”

Sgyrsiau Athroniaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llambed 2023 i 24

Rhaglen Ar-lein

Mae’r sgyrsiau’n hygyrch i’r cyhoedd trwy Zoom, ac nid ydynt yn para mwy na 45 munud, gyda 45 munud ychwanegol ar gyfer sgyrsiau am y pwnc. Cynhelir y sgyrsiau rhwng 6pm a 7.30pm (parth amser y DU). (Darperir yr holl ddolenni Zoom yn agosach i’r amser).

Am ragor o fanylion, cysylltwch â r.humphreys@pcydds.ac.uk

Croeso i bawb!

Dydd Mawrth 31 Hydref 2023

Dr Rebekah Humphreys (PCYDDS, Llambed)

‘Anthropomorphism and the shared language of dogs and humans’.

Ymuno â’r Cyfarfod Zoom.

Rhif Adnabod y Cyfarfod: 867 0934 1533
Cod: 772059

Dydd Mawrth 13eg Chwefror 2024

Dr Francesca Marin (Prifysgol Padua (Yr Eidal))

‘Rethinking the concept of “End-of-Life Decisions”: toward a broader bioethical approach to end of life issues’.

Dydd Mawrth 5ed Mawrth 2024 (i’w gadarnhau)

Yr Athro Cysylltiol Elisabetta Lalumera (Adran Astudiaethau Ansawdd Bywyd, Prifysgol Bologna)

‘Choosing Health Concepts’.

Dydd Mawrth 19eg Mawrth 2024

Dr Elisa Caldarola (Prifysgol Turin (Yr Eidal) / Y Ganolfan Graddedigion, CUNY)

‘Understanding Installation Art’.

Dydd Mawrth 23ain Ebrill 2024

Dr Giovanna Miolli (Prifysgol Padua (Yr Eidal) / Pontifical Catholic University of Argentina ym Muenos Aires)

‘Why do we need a feminist metaphilosophy?’

Dydd Mawrth 30ain Ebrill 2024

Athro Emeritws Robin Attfield (Prifysgol Caerdydd).

‘The Ethics of the Climate Crisis and the Case for a Law Against Ecocide’

Rhaglen wyneb yn wyneb (Llambed, Caerfyrddin ac Abertawe)

Croeso i bawb!

Dydd Mercher 17 Ionawr 2024, 7.00 i 9.00 PM

Sgwrs am…Freuddwydion

Salon Breuddwydion, digwyddiad, un sy’n taro’r synhwyrau i gyd: dewiswch freuddwyd cyfranogwr ac yna ei drafod wrth ei weld yn cael ei baentio’n fyw gan yr artist Julia Lockheart. DreamsID.com

Ers miliynau o flynyddoedd, mae breuddwydion wedi bod yn ffynhonnell ymholiad athroniaeth ac wedi cael eu cynrychioli mewn gwaith celf, ac wedi ei ysbrydoli. Bydd y digwyddiad hudolus hwn yn galluogi i gyfranogion ystyried beth mae’n ei olygu i ddod o hyd i ystyr mewn breuddwyd, yn ogystal â chael profiad o ddychwelyd breuddwyd i’w ffurf weledol, gan hefyd ofyn cwestiynau am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn fodau dynol.

Gyda’r Athro Julia Lockheart (PCYDDS) a’r Athro Mark Blagrove (Prifysgol Abertawe)

Amser: 7 i 9pm.
Lleoliad: Noah’s Yard, 38 Uplands Crescent, Uplands, Abertawe, SA2 0PB.

Rhaid cadw lle trwy Eventbrite.

Dydd Mercher 10 Ebrill 2024, 1.00 i 2.30PM

Sgwrs am…Anifeiliaid ac Eco-foeseg

Mae ein defnydd o greaduriaid ar wahân i fodau dynol yn parhau i gael ei ‘guddio’n amlwg’, sy’n peri problemau mawr o ran yr amgylchedd. Bydd y digwyddiad hwn yn archwilio’r materion moesegol ac athronyddol sy’n codi yn sgil rhyngweithiadau rhwng bodau dynol ac anifeiliaid, gan annog sgwrs am bethau fel, eco-therapi, moeseg bwyd, a phrofiad anifeiliaid ar ein planed.

Gyda Dr. Rebekah Humphreys a Dr. Lymarie Rodriguez (PCYDDS)

Lleoliad: Llyfrgell y Sylfaenwyr, PCYDDS, Campws Llambed, Heol y Coleg, Llambed, SA48 7ED.

Nid oes angen cadw lle.

Cinio bwffe rhad ac am ddim i ddilyn am 2.30 (fegan)

Dydd Mercher 24 Ebrill 2024, 1.00 i 2.30PM

Sgwrs am… Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol

Gyda’r Athro Nik Whithead (PCYDDS)

Lleoliad: YSTAFELL TL07, PCYDDS, Campws Caerfyrddin, Heol y Coleg, SA31 3EP.

Nid oes angen cadw lle.

Cinio bwffe rhad ac am ddim i ddilyn am 2.30 (fegan)

Logo swyddogol y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol.

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau