Skip page header and navigation

Code

MAE DY NWYDDAU PCYDDS RHAD AC AM DDIM YN DISGWYL AMDANAT

Ni yw dy ddewis cadarn di. I ddiolch i ti, hoffen ni anfon siwmper neu grys-t am ddim atat ti.

Dewisa dy ddilledyn, y maint a'r lliw, ac fe gawn ni fe'n barod i ti.

Dewisa dy ddilledyn

Hawlia dy nwyddau prifysgol rhad ac am ddim erbyn 21 Awst.

Nwyddau UWTSD yn cynnwys crys chwys llwyd golau a chrys-T du, sydd ar gael fel rhan o'r cynnig nwyddau am ddim i fyfyrwyr sy'n dewis UWTSD fel eu dewis cadarn.

DYMA DY GYNLLUN DI

Dros yr haf, byddwn yn anfon diweddariadau defnyddiol, dyddiadau allweddol a chanllawiau i dy helpu i baratoi ar gyfer diwrnod canlyniadau a thu hwnt.

Byddwn hefyd yn dy gyflwyno i'r bobl, y lleoedd a'r cyfleoedd sy'n gwneud PCYDDS yn gymuned mor groesawgar.

DEWISA DY DDILLEDYN

Dewisa'r dilledyn, y maint a'r lliw yr hoffet ti ei gael yn ein siop ar-lein. Ar ôl i ti osod dy archeb, byddwn ni'n gofalu am y gweddill.

Dewisa dy ddilledyn

PAM DEWIS PCYDDS?

Dysgu ymarferol

DYSGU YMARFEROL

Byddi di'n adeiladu profiad ymarferol trwy gydol dy astudiaethau.

Dy adnabod wrth dy enw

DY ADNABOD WRTH DY ENW

Gyda dosbarthiadau llai, nid dim ond myfyriwr arall fyddi di.

Cymuned gefnogol

CYMUNED GEFNOGOL

Ymuna â phrifysgol lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd i lwyddo.

CWESTIYNAU CYFFREDIN

Oes gennyt gwestiwn am dy ddilledyn? Fe gei di atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin isod.

PWY ALL HAWLIO'R DILLEDYN AM DDIM?

Myfyrwyr sydd wedi gwneud PCYDDS yn ddewis cadarn. Mae'r cynnig wedi'i gyfyngu i un eitem am ddim i bob ymgeisydd.

A YW'R DILLEDYN AM DDIM?

Ydy. Mae'r dilledyn a'r postio am ddim. Dyma'n ffordd ni o ddweud diolch i ti am ein dewis ni.

PRYD BYDDAF YN EI DDERBYN?

Byddwn yn dy ddiweddaru ynglŷn â hynny ar ôl i ti gyflwyno dy hawliad.

DYDW I DDIM WEDI DERBYN FY NGHERDYN. GA' I HAWLIO'R DILLEDYN O HYD?

Cei. Os wyt ti wedi gwneud PCYDDS yn ddewis cadarn, gelli di barhau i hawlio dy ddilledyn am ddim ar-lein.