Skip page header and navigation

Cefndir

Pensaer sy’n ymarfer yw Dr Paul Harries sydd â dros 30 mlynedd o brofiad mewn ymarfer ac addysgu. Ef yw Pennaeth Ysgol Pensaernïaeth Abertawe ac mae’n un o Gyfarwyddwyr BCHN Architects.

Mae cael pensaer sy’n ymarfer mewn rôl arweiniol mewn Ysgol Pensaernïaeth yn gyffredin ar gyfandir Ewrop, efallai yn llai yn y DU. Mae’n ategu amcanion y cyrsiau BSc a MArch mewn Pensaernïaeth i sicrhau bod addysg ac ymarfer yn cyd-fynd yn agos – gyda’r bwriad o greu graddedigion sydd â sylfaen ddamcaniaethol gadarn a’r gallu i berfformio yn ymarferol.

Mae gan Paul amrywiaeth eang o brofiad mewn dylunio, gan gynnwys  cynllunio meistr, dylunio mewnol a dylunio ystod eang o fathau o adeiladau. Mae llawer o’i adeiladau wedi derbyn gwobrau dylunio - gan gynnwys pum Gwobr RIBA. Mae wedi darlithio, addysgu, gweithredu’n feirniad gwadd, dilyswr cwrs ac arholwr allanol mewn sawl Ysgol Bensaernïaeth, yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mae’n dysgu’r MArch Stiwdio a’r MArch Dulliau Ymchwil ar gyfer Penseiri.

Pynciau Arbenigol

  • Moderniaeth Ewropeaidd Estheteg Pensaernïol ac Ideoleg.
  • Dylunio adeiladau cyfoes mewn cyd-destunau hanesyddol.

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Mae gan Paul dros 30 mlynedd o brofiad mewn ymarfer, ac ar hyn o bryd mae'n un o Gyfarwyddwyr BCHN Architects. Mae'n arbenigo mewn dylunio adeiladau addysgol, gan ddatblygu dulliau cydweithredol o ddylunio ynghyd â phwyslais ar atebion pensaernïol cynaliadwy. Hyfforddodd yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru a threuliodd flynyddoedd cynnar ei yrfa yn gweithio yn Llundain mewn ymarfer preifat a'r sector cyhoeddus.

Ymgymerodd Paul â'i PhD trwy Ymchwil dan y teitl 'Modernism and Style – The Aesthetics of Cultural Incorporation'. Ei brif ddiddordeb ymchwil yw effaith syniadau sy'n ganolog i egwyddorion y Mudiad Modern mewn Pensaernïaeth yn y DU. Mae wedi gweithredu’n Arholwr Allanol mewn wyth prifysgol ac wedi eistedd ar bum panel dilysu cwrs gradd mewn gwahanol brifysgolion.

Cymwysterau

  • Pensaer Siartredig RIBA
  • Pensaer Cofrestredig ARB
  • PhD Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd
  • BArch (Rhag) Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd
  • BSc (Anrh) Prifysgol Cymru, Caerdydd

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

Pensaer Cofrestredig (ARB) Bwrdd
Cofrestru Penseiri
Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain

Addysgu Academaidd

Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol

Gwobrau RIBA:
2021 Gwobr Ranbarthol RIBA No. 4 Restaurant, Yr Amwythig
2019 Gwobr Ranbarthol RIBA Ysgol Fusnes Coleg Wrekin, Wellington
2010 Rhestr Fer Gwobr RIBA Ysgol Gynradd Upper Arley, Upper Arley
2008 Gwobr RIBA Ysgol Gynradd St Judes, Wolverhampton
2005 Rhestr fer Gwobr RIBA Mansers Antiques, Yr Amwythig
2001 Gwobr RIBA Ffreutur Myfyrwyr, Coleg Concord, Acton Burnell

Gwobrau'r Ymddiriedolaeth Ddinesig:
2018 Gwobr Ranbarthol yr Ymddiriedolaeth Ddinesig
Ysgol Gynradd Pentref Lawley, Telford
2017 Gwobr Ranbarthol yr
Ymddiriedolaeth Ddinesig
Ysgol Gynradd Gymunedol Fordbridge, Solihull
2017 Gwobr Ranbarthol yr Ymddiriedolaeth Ddinesig
Ysgol Gynradd Coleshill Heath, Solihull
2016 Gwobr Ranbarthol yr Ymddiriedolaeth Ddinesig Canolfan Pentref Pelsall, Walsall
2013 Gwobr Ranbarthol yr Ymddiriedolaeth Ddinesig
Tŷ Gwernevy, Powys
2009 Gwobr yr Ymddiriedolaeth Ddinesig (Com)
Ysgol Gynradd St Judes, Wolverhampton
2005 Gwobr yr Ymddiriedolaeth Ddinesig 2005

Mansers Antiques, Yr Amwythig
2003, Gwobr yr Ymddiriedolaeth Ddinesig (Com)
Coleg Concord, Ffreutur Myfyrwyr, Acton Burnell
1998 Gwobr yr Ymddiriedolaeth Ddinesig Ysgol Gynradd Heavers Farm, De Llundain

Gwobr SCALA

Adeilad Dinesig y Flwyddyn SCALA 2007 Ysgol Gynradd St Jude's, Wolverhampton

Cyhoeddiadau Proffesiynol

  • ‘Meaning in Architecture: Post-modernism, Hustling and the Big Sell’ yn Canter, Krampen and Stea ‘Environmental Perspectives, Paul Harries, Alan Lipman, Stephen Purden, Routledge 2025
  • 'Making Hay: the sun shines', Adolygiad adeiladu o Gastell y Gelli gan Dr Paul Harries. Touchstone The Journal for Architecture in Wales. 2024.
  • Adolygiad o’r llyfr 'The Architecture of Defiance' gan Jonathan Adams - Adolygiad llyfr gan Dr Paul Harries ar gyfer Touchstone, The Journal for Architecture in Wales.2023
  • 'Freedom and Form', Adolygiad Llyfr, A3 Times, Rhif 10, Cyfrol 4, 1988
  • 'Old Wine in New Bottles', Adolygiad o Arddangosfa, Building Design, Hydref, 1986.
  • 'Working Hard at Looking Good' (gydag Alan Lipman), Space and Society, 1984
  • 'The Marketing of Meaning: Aesthetics Incorporated' (gydag Alan Lipman a Steve Purden),
  • Environment and Planning B, 1982, Cyfrol 9, tt. 457-466.
  • Cyflwyniad Cynhadledd - Ysgol Wanwyn Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru 2018, Portmeirion – 'Glannau Abertawe: Ysgol Pensaernïaeth Abertawe'.
  • Cyflwyniad Cynhadledd - Cynhadledd Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru 2017, Caerdydd – Equipping the next generation: How will architecture education respond to change in the next ten years.'
  • Cyflwyniad Cynhadledd - Cynhadledd Eco Build Llundain Excel 2017 – How could the Wellbeing of Future Generations Act frame architectural education.'
  • Cyflwyniad Cynhadledd - Cynhadledd Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru 2016, Caerdydd – Tyfu'r Proffesiwn Pensaernïol yng Nghymru.
  • Podlediad: Remodelling Existing Buildings - Podlediad 2 - 13.08.25 - https://www.youtube.com/watch?v=3uM4gpWanC
  • Gwobrau RIBA Cymru 2017 – Cadeirydd y panel beirniadu rhanbarthol.

Ar Gael i Oruchwylio Myfyrwyr Doethurol

Nac ydw