Skip page header and navigation

Meistr Pensaernïaeth (Llawn amser) (MArch)

Abertawe
2 Flwyddyn Llawn amser
Gradd anrhydedd 2:2

MArch Pensaernïaeth – Dylunio â Phwrpas a Llunio’r Hyn sy’n Dod Nesaf. 
Mae pensaernïaeth yn llunio sut rydym yn byw – sut rydym yn cysylltu, sut rydym yn ffynnu, a sut rydym yn ymateb i heriau mwyaf y byd. Mae ein MArch yn eich gwahodd i wthio eich meddwl ymhellach, gan archwilio sut y gall dylunio meddylgar wella bywydau, cryfhau cymunedau, a chreu dyfodol mwy teg a chynaliadwy. 

Byddwch yn archwilio effaith pensaernïaeth ar bobl, llefydd a’r blaned ar y cwrs hwn. Byddwch yn arbrofi, herio rhagdybiaethau, a defnyddio eich creadigrwydd i fynd i’r afael â materion brys megis gwytnwch hinsoddol, cyfiawnder cymdeithasol, a llesiant gofodol. Dyma raglen ar gyfer y rheiny sy’n credu y gall dylunio wneud gwahaniaeth go iawn a pharhaol. 

Ewch â’ch Uchelgeisiau Dylunio Ymhellach 
Gan adeiladu ar eich profiad israddedig, mae’r MArch yn eich helpu i fireinio eich arfer, dyfnhau eich meddwl beirniadol, a llunio eich hunaniaeth bensaernïol.   Mae’n archwilio pa fath o bensaer rydych am fod – gan ddatblygu llais dylunio clir, gwerthoedd cryf a dealltwriaeth flaengar o’r proffesiwn. 

Amgylchedd Stiwdio sy’n Adlewyrchu Arfer
Mae dysgu yn digwydd drwy ddiwylliant stiwdio trochol fel y mae’n ei wneud mewn sefydliadau pensaernïol blaenllaw. Byddwch yn gweithio ar brosiectau dylunio uchelgeisiol, mynd i’r afael â briffiau byw, ac yn cydweithredu â chymunedau a phartneriaid y tu hwnt i’r ddisgyblaeth. Byddwch yn dysgu drwy wneud, prototeipio, profi, ac adfyfyrio – gan ddatblygu’r hyder a’r set sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arfer cyfoes. 

Dylunio fel Arf ar gyfer Newid
Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rheiny sy’n poeni am gymuned, cyfrifoldeb amgylcheddol, a rôl gymdeithasol pensaernïaeth. Rydym yn hyrwyddo dylunio sy’n bwysig – meddylgar, cyd-destunol sydd wedi’i wreiddio mewn cydweithrediad.  Dyma’r lle i chi os ydych yn cael eich gyrru gan y syniad o ddefnyddio pensaernïaeth fel asiant ar gyfer newid cadarnhaol. 

Llwybr Pensaernïol Cyflawn
Rydym yn cynnig llwybrau israddedig ac ôl-raddedig yn yr un sefydliad, gan roi llwybr clir i chi tuag at gymhwyster proffesiynol fel pensaer. Gallwch ddewis astudio’n llawn amser neu’n rhan amser, gan eich caniatáu i lunio eich astudiaethau o gwmpas eich bywyd a’ch uchelgeisiau. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
2 Flwyddyn Llawn amser
Gofynion mynediad:
Gradd anrhydedd 2:2
Achrededig:
arb logo

Pam dewis y cwrs hwn

01
Prosiectau byw: Byddwch yn gweithio ar friffiau byw gyda chymunedau go iawn. Bydd hyn yn gwneud eich gwaith yn fwy perthnasol, ac yn rhoi’r cyfle i chi wneud gwahaniaeth wrth i chi astudio.
02
Dysgu Cydweithredol: mae ein stiwdio yn ofod a rennir lle mae syniadau’n cael eu cyfnewid bob dydd. Byddwch yn dysgu gan eich tiwtoriaid, eich cyd-fyfyrwyr, a’r gymuned brifysgol ehangach.
03
Dylunio Beirniadol: Rydym yn canolbwyntio ar syniadau yn ogystal ag adeiladau. Byddwch yn archwilio moeseg, gwleidyddiaeth a phobl fel rhan o’ch proses ddylunio.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ein Hathroniaeth

Rydym yn credu mewn dysgu drwy greu, meddwl beirniadol a chydweithredu. Byddwch yn cael eich annog i feddwl dros eich hun, herio’r norm, a dylunio mewn ffyrdd sy’n greadigol, ystyrlon a chyfrifol. 

Beth Byddwch yn ei Ddysgu

Blwyddyn Un 

Byddwch yn dechrau drwy archwilio’r syniadau a’r gwerthoedd sy’n llywio pensaernïaeth heddiw. Bydd prosiectau stiwdio yn eich helpu i feddwl am lefydd a phobl go iawn. Byddwch yn dysgu sut i wneud ymchwil, datblygu eich dull dylunio eich hun, a meddwl am sut mae dylunio yn cysylltu â diwylliant, moeseg a’r amgylchedd.

Blwyddyn Dau 

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect dylunio personol. Byddwch yn gweithio gydag eraill i brofi syniadau, a chynhyrchu darn mawr o waith sy’n dangos pwy ydych chi fel dylunydd. Yn ogystal, byddwch yn myfyrio ar eich meddwl dylunio, paratoi ar gyfer bywyd yn y gwaith, ac adeiladu eich sgiliau mewn cyfathrebu ac adfyfyrio beirniadol. 

Technoleg Uwch

(20 Credyd)

Dylunio Pensaernïol A: Cydweithredu (Ymchwil a Briff)

(20 Credyd)

Materion Cyfoes

(20 Credyd)

Dylunio Pensaernïol B: Cydweithredu (Datrysiad Dylunio)

(20 Credyd)

Dylunio Pensaernïol C: Ymchwil Dylunio

(20 Credyd)

Traethawd Ymchwil Dylunio A: Ymchwil a Briff

(20 Credyd)

Traethawd Ymchwil Dylunio B: Datblygu Dylunio

(20 Credyd)

Traethawd Ymchwil Dylunio C: Datblygu Dylunio

(20 Credyd)

Traethawd Ymchwil Dylunio D: Datganiad o Fwriad a Phenderfyniad Dylunio

(20 Credyd)

Dulliau Ymchwil ar gyfer Penseiri

(20 Credyd)

Astudiaethau Proffesiynol

(20 Credyd)

Deall Pensaernïaeth drwy Ymchwil

(20 Credyd)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni. 

Staff

Ein Pobl

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd 2:2  

    • neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS. 

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 

  • Cyflwyniadau dylunio stiwdio, adroddiadau a phortffolio. 

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.

  • Argraffu fformat bach.

    Deunyddiau gwneud modelau.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Cydnabyddir y cwrs hwn fel gwrs ARB Rhan 2 a fydd yn cynnig llwybr i Ran 3 a chymhwyster llawn fel Pensaer. 

Mwy o gyrsiau Pensaernïaeth, Adeiladu ac Amgylchedd

Chwiliwch am gyrsiau