Jenny Day
Cymrawd Ymchwil
Cefndir
Mae Jenny yn ysgolhaig llenyddol, yn arbenigo mewn barddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg o’r oesoedd canol a’r cyfnod modern cynnar. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn ysgolheictod y cyfnodau hyn, yn y cysylltiadau rhwng y Sistersiaid a lleygwyr Cymru (beirdd ac ysgolheigion, yn arbennig), mewn proffwydoliaeth, ac mewn arfau a rhyfel. Ar ôl cwblhau ei BA a’i doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth bu’n gweithio ar gyfres o brosiectau ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, a bellach y mae’n arwain ei phrosiect ei hun ar Gutun Owain, bardd ac ysgolhaig o’r bymthegfed ganrif.
Pynciau Arbenigol
- Barddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg o’r oesoedd canol a’r cyfnod modern cynnar
- Proffwydoliaeth yng Nghymru
- Y Sistersiaid yng Nghymru
- Cwlt y seintiau yng Nghymru, a bucheddau'r seintiau
- Rhyfel ac arfau yng Nghymru yn yr oesoedd canol
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Ar gyfer y prosiect ‘Gutun Owain: Bardd y ffin a Dyn y Dadeni’, mae Jenny yn golygu cerddi Gutun Owain ac yn astudio natur ei ysgolheictod a’i gysylltiadau â’i noddwyr dysgedig, er mwyn archwilio rôl gogledd-ddwyrain Cymru ac ardal Croesoswallt yn natblygiad y Dadeni Dysg yng Nghymru. Gweithiodd ar sawl prosiect cynharach yn y Ganolfan. Yn fwyaf diweddar, bu’n golygu cerddi darogan a briodolir i Fyrddin, o’r oesoedd canol diweddar a’r cyfnod modern cynnar, ac yn astudio eu harwyddocâd ar gyfer prosiect ‘Barddoniaeth Myrddin’ <myrddin.cymru>. Fel aelod o dîm y prosiect ‘Tirweddau Sanctaidd’, cyn hynny, bu’n golygu’r cerddi a ganodd Gutun Owain i ddau o abadau Glyn y Groes, gan archwilio’r hyn y mae’r farddoniaeth yn ei ddweud wrthym am yr abaty Sistersaidd pwysig hwn. Gweithiodd cyn hynny ar y prosiectau ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’, ‘Llif a Llifogydd’ a ‘Barddoniaeth Guto’r Glyn’, a bu’n aelod o dîm golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru.
Cymwysterau
- BA
- MA
- PhD
Ieithoedd a Siaradwyd
Cymraeg a Saesneg
Addysgu Academaidd
Dolen i Broffil Orcid
Cyhoeddiadau Proffesiynol
- '"What will there be for us …?": Myrddin and Gwenddydd as commentators on the Tudor era and the Civil War', in 'Myrddin: The Welsh Merlin and His Afterlives'/'Llais ac Adlais Myrddin', ed. David Callander, Jenny Day and Llewelyn Hopwood (Cardiff: University of Wales Press, forthcoming)
- Poems by Gutun Owain and descriptions of his manuscripts, on the <gutunowain.cymru> website (2026- )
- 'Poetry and Commemoration at Valle Crucis Abbey' (with Martin Crampin, Ann Parry Owen and Eurig Salisbury) (Aberystwyth, 2026) <https://shop.wales.ac.uk/product/poetry-and-commemoration-at-valle-crucis/>
- '"Beuno tŷ Sain Bened': Y Seintiau a Hunaniaeth yn y Canu i’r Abadau". Dwned: Cylchgrawn Hanes a Llên Cymru'r Oesoedd Canol, 29 (2025), 55-91 <https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/3269/>
- Buchedd Dewi (Peniarth 27ii) [a new edition and translation of a late-medieval version of the Welsh Life of St David] (2025) <saints.wales>
- ‘The Houses of the Old Cross’: Valle Crucis Abbey in the poems of Gutun Owain. Cîteaux – Commentarii cistercienses, 73 (2023), 255-75. <https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/2399/>
- Poems 8, 9, 10, 11 etc. on <myrddin.cymru> (The Poetry of Merlin project website)
- Buchedd Martin [a new edition and translation of the Welsh Life of St Martin] (2020) <saints.wales>
- ‘Ewin o ddur, onn a ddwg: y Rhest Gwaywffon a’r Beirdd’, Dwned, 25 (2019), 11–45 <http://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/1286>
- ‘Llachar fy nghleddau, lluch ydd ardwy—glew: Rhai Agweddau ar Ddelweddaeth y Cleddyf ym Marddoniaeth yr Oesoedd Canol’, Dwned, 23 (2017), 41–77 <http://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/902>
- ‘Agweddau ar Gwlt Martin o Tours mewn Llenyddiaeth Gymraeg hyd c.1525’, Llên Cymru, 40 (2017), 3–39 <https://doi.org/10.16922/lc.40.2>
- ‘Weapons and Fighting in Y Gododdin’, Studia Celtica XLIX (2015), 121–47
- ‘Brigandines in Two Fifteenth-century Request Poems’, Studia Celtica XLVII (2013), 167–182
- ‘ “Arms of stone upon my grave”: Weapons in the Poetry of Guto’r Glyn’, in D.F. Evans, B.J. Lewis and A. Parry Owen (eds.), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Essays on Guto’r Glyn and Fifteenth-century Wales (Aberystwyth, 2013), 233–81
- ‘Shields in Welsh Poetry up to c.1300: Decoration, Shape and Significance’, Studia Celtica XLV (2011), 27–52
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Jenny wedi cyhoeddi nofelau yn y Gymraeg ac yn Saesneg: 'The Banner of David' (1992), 'The Tenth String' (1997), 'Gwyrth y Gwirionyn' (1998).
Mae Jenny yn goruchwylio myfyrwyr doethurol hefyd, ym meysydd hagiograffeg, astudiaethau llawysgrifau, proffwydoliaeth a llenyddiaeth ganoloesol ar hyn o bryd.
Mae Jenny yn goruchwylio myfyrwyr doethurol hefyd, ym meysydd hagiograffeg, astudiaethau llawysgrifau, proffwydoliaeth a llenyddiaeth ganoloesol ar hyn o bryd.
Ar Gael i Oruchwylio Myfyrwyr Doethurol
Ydw