Skip page header and navigation

Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle (Llawn amser) (BA Anrh)

Birmingham
2 Flynedd Llawn amser
80 o Bwyntiau UCAS

Datblygwyd y rhaglen Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle (BA) (Anrh) mewn ymateb i’r galw gan fyfyrwyr am lwybr priodol i’w ddilyn ar ôl cwblhau’r cwrs Sgiliau ar gyfer y Gweithle (CertHE).

Gydag arddull dysgu hyblyg o ran sut a ble y cyflwynir rhaglenni, bydd y rhaglen hon yn ei gwneud yn haws i fyfyrwyr astudio theori ac arfer rheoli, a hynny o fewn cyd-destun profiad o’r gweithle. 

Mae’r rhaglen hon ar gael i fyfyrwyr Cartref yn unig.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
SCC8
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Dosbarthiadau bach lle cewch y cyfle i ofyn cwestiynau a dysgu’n weithredol.
02
Cyfleoedd i ddysgu mewn ffordd ymarferol drwy waith maes gan ddefnyddio ein lleoliad daearyddol gwych.
03
Ymgysylltu’n weithredol gyda chyflogwyr, yn arbennig trwy ein cyrsiau gwaith maes lle byddwch yn dod i adnabod rheolwyr gwarchodfeydd ac ymgynghorwyr amgylcheddol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle (BA) (Anrh) wedi’i chynllunio i ddilyn y Tystysgrif Lefel 4 Sgiliau Addysg Uwch ar gyfer y Gweithle neu ar gyfer y rhai sy’n trosglwyddo credydau o raglenni eraill sy’n gysylltiedig â busnes.


Ar ôl cwblhau TystAU Sgiliau Busnes ar gyfer y Gweithle, gall dysgwyr symud ymlaen yn syth i Lefel 5 y rhaglen radd hon, sy’n dilyn patrwm tebyg i’r Dystysgrif o ran ei darpariaeth hyblyg, gan ei bod yn cael ei chyflwyno trwy astudio cyfres o fodiwlau unigol yn olynol, ynghyd â hyfforddiant wyneb yn wyneb mewn lleoliad cymunedol cyfleus. Bydd y rhaglen hon yn ei gwneud yn haws i fyfyrwyr astudio theori ac arfer rheoli, a hynny o fewn cyd-destun profiad o’r gweithle.


O ran cynnwys y pwnc, mae’r teitl “ar gyfer y gweithle” yn adlewyrchu sut y caiff pob modiwl ei osod o fewn cyd-destun profiadau personol y dysgwyr yn y gweithle. Mae’r dull cynhwysfawr hwn o gynnal astudiaeth sy’n seiliedig ar brosiect yn sicrhau bod modelau damcaniaethol generig yn cael eu harchwilio o fewn cyd-destun y gweithle bob tro, gan sicrhau perthnasedd parhaus i anghenion cyflogwyr ac i ddilyniant gyrfa.


Mae’r cwrs hwn ar gael fel opsiwn yn ystod yr wythnos neu ar benwythnosau.

Gorfodol

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau

(20 credydau)

Gwaith Tîm a Chyfathrebu Effeithiol

(20 credydau)

Sgiliau Digidol

(20 credydau)

Cyflogadwyedd a Datblygu Gyrfa

(20 credydau)

Menter ac Entrepreneuriaeth

(20 credydau)

Gorfodol

Deall ac Ymgysylltu â Phrofiad y Cwsmer

(20 credydau)

Rheoli Prosiect

(20 credydau)

Datblygu Sgiliau Deallusrwydd Emosiynol

(20 credydau)

Diwylliant Sefydliadol

(20 credydau)

Gorfodol

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Arwain a Gweithredu Newid yn y Gweithle

(20 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Llety Birmingham

Mae Birmingham yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr, gan ddenu miloedd o fyfyrwyr y flwyddyn i’r ddinas myfyrwyr ffyniannus hon. Mae amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr ar gael a bydd ein tîm llety yn gallu cynnig arweiniad i chi. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon ar gael i fyfyrwyr Cartref.


    Cyflawni TystAU Sgiliau ar gyfer y Gweithle (120 credyd) yn llwyddiannus.

  • Mae asesiadau’n amrywio ar draws modylau drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau o adroddiadau maes a labordy i gyflwyniadau, traethodau ac arholiadau i roi’r cyfle i chi wneud yn dda a dangos eich gwybodaeth ddatblygol.

    Rydym yn ymfalchïo mewn rhoi adborth ardderchog ar bob cam o’r cwrs i’ch helpu i wneud cynnydd.

    Rydym yn defnyddio adborth i ddatblygu eich gwybodaeth am y cwrs ac, yn bwysig, eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ehangach wrth ysgrifennu adroddiadau, a chyfathrebu gwyddoniaeth fel y galwch ddangos eich gallu i weithio’n effeithiol yn sector yr amgylchedd ar ddiwedd eich cwrs.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae’r rhaglen Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle (BA) (Anrh) wedi’i chreu i fod yn rhaglen israddedig ddeniadol sydd wir yn ymateb i anghenion newidiol dysgwyr yn y gweithle ac sy’n addas i’r rhai sy’n ceisio gwella eu rhagolygon o ddychwelyd i’r gweithle.

    Lluniwyd y rhaglen er mwyn sicrhau bod gan raddedigion y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sylfaenol priodol a fydd yn eu galluogi i weithio’n effeithiol mewn marchnad fyd-eang sy’n newid yn gyson.  Mae’r gallu i gael effaith uniongyrchol ac i gyfrannu’n barhaus yn y gweithle yn agwedd bwysig.

    O’r herwydd, bydd y myfyrwyr yn fedrus wrth weithio mewn tîm, yn meddu ar sgiliau a fydd yn eu galluogi i gyfathrebu’n effeithiol, yn gallu nodi strategaethau priodol er mwyn datrys problemau sefydliadol, yn gallu cyfrannu at ymarfer myfyriol, ac yn gallu datblygu fel dysgwyr gydol oes yn hyderus.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau