Skip page header and navigation

Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) gyda Blwyddyn Sylfaen (Rhan amser) (BSc Anrh)

Abertawe
7 Mlynedd Rhan amser
0 - 32 Pwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen hon yn pwysleisio tair thema – storio data, dadansoddi data a systemau gwybodaeth. Wrth raddio o’r rhaglen hon, byddwch yn fedrus a gwybodus yn agweddau technegol gwyddor data, yn cynnwys dadansoddi data, delweddu data, casglu data a storio data, gyda phwyslais arbennig ar systemau gwybodaeth.

Mae cyfanswm y data sy’n cael ei gasglu ar draws y byd yn tyfu ac mae pwysigrwydd maes dadansoddi data wedi cynyddu wrth i’r diwydiant geisio cael y gwerth gorau am arian. Mae ein Systemau Data a Gwybodaeth yn ymgorffori’r technegau sydd eu hangen ar gyfer prosesu, dadansoddi a delweddu data ar raddfa fawr i fodloni’r angen hwn.

Fe gewch wybodaeth am sefyllfa gyfredol y diwydiant ac mae pwyslais hefyd ar sgiliau ar gyfer dysgu gydol oes, i roi’r gallu i chi i ddiweddaru eich sgiliau trwy gydol eich gyrfa yn y maes hwn sy’n symud yn gyflym.

Ceir cyfleoedd cyflogaeth o fewn sefydliadau sy’n casglu a phrosesu symiau mawr o ddata, gan weithio fel rhan o dîm yn dadansoddi data drwy ddefnyddio technegau ystadegol a defnyddio dulliau delweddu i gyflwyno’r canlyniadau. Fel arfer gallech ddisgwyl cael eich cyflogi fel dadansoddwr data yn y lle cyntaf.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
7 Mlynedd Rhan amser
Gofynion Mynediad:
0 - 32 Pwyntiau UCAS

Pam dewis y cwrs hwn

01
Wedi’i addysgu gan staff sydd ag ardystiadau academaidd a diwydiannol perthnasol.
02
Mae’r rhaglen yn cynnwys cysyniadau, egwyddorion a thechnegau traddodiadol datblygu meddalwedd, cronfeydd data a systemau gwybodaeth ond yn cymhwyso’r rhain o fewn cyd-destun peiriannu systemau mawr a chymhleth.
03
Trwy ein cysylltiadau diwydiannol, rydym hefyd wedi datblygu strwythur rhaglen i roi i fyfyrwyr y sgiliau diweddaraf ynghyd â gwerthfawrogiad o ofynion y diwydiant.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd myfyrwyr y rhaglen hon yn dysgu am ddylunio cronfeydd, creu a gweinyddu cronfeydd data a datblygu rhaglenni ar gyfer datblygu cymwysiadau a yrrir gan ddata. Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio ystod eang o bynciau cyffredin â nifer o gyrsiau o fewn y Portffolio Cyfrifiadura. Mae’r rhain yn darparu’r sylfaen sydd ei angen ar gyfer blynyddoedd diweddarach ac yn caniatáu hyblygrwydd wrth trosglwyddo ar draws llwybrau yn eich blwyddyn gyntaf.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio modylau sy’n darparu mwy o ddyfnder ar gyfer eich dewis raglen. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect mawr sy’n darparu ffocws ar gyfer eich astudiaethau.

Mae’r cwrs yn ffocysu ar ddylunio, gweithredu, profi a chynnal systemau gwybodaeth ansawdd uchel a chymwysiadau a yrrir gan ddata.

Byddwch yn ffocysu ar gaffael a defnyddio’r arbenigedd sydd ei angen ar ddatblygwr a rhaglennwr systemau gwybodaeth i greu datrysiadau i broblemau mawr a chymhleth.   Bydd yr arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy beiriannu datrysiadau meddalwedd yn rhan o dîm yn uchel iawn eu parch ymhlith cyflogwyr.

Compulsory 

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Cyflwyniad i Fathemateg a Gwyddoniaeth

(20 credydau)

Dadansoddi a Datrys Problemau

(20 credydau)

Cyflwyniad i Raglennu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Compulsory 

Prosiect Integreiddio

(20 credydau)

Cyflwyniad i Systemau Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Gorfodol 

Datblygu Meddalwedd

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credyd)

Gorfodol 

Dadansoddi a Delweddu Data

(20 credydau)

Hanfodion Rhwydwaith a Seiberddiogelwch

(20 credydau)

Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith

(20 credydau)

Rhaglennu Ystadegol

(20 credydau)

Gorfodol 

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credyd)

Datblygu Cymwysiadau Cronfeydd Data

(20 credydau)

Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol

(20 credydau)

Gorfodol 

Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol

(20 credydau)

Peirianneg Defnyddioldeb

(20 credydau)

Warysu Data a Chloddio Data

(20 credydau)

Dewisol

Tueddiadau sy'n dod i'r Amlwg

(20 credydau)

Ymchwil Seiliedig ar Ddiwydiant

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credyd)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Ein Pobl

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 104 pwynt tariff UCAS (260 gynt) gan gynnwys:

    • Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
    • Ddiploma Cenedlaethol BTEC graddau Pas, Pas, Pas; neu
    • Dystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Pas; neu
    • NVQ Lefel 3 - Pas

    Dylai pynciau Safon Uwch gynnwys TGCh, Cyfrifiadura, Mathemateg, Ffiseg neu debyg. Mae TGAU Mathemateg gradd C neu uwch yn ddymunol.

  • Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol datblygiad systemau cyfrifiadura a gwybodaeth. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniadau ac arholiadau. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

    Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

  • Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfaol o fewn chwe mis i raddio.

    Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi ym meysydd datblygu cymwysiadau, dadansoddi systemau busnes, datblygu a gweinyddu cronfeydd data, ymgynghoriaeth a rheolaeth systemau gwybodaeth.