Skip page header and navigation

Peirianneg Drydanol ac Electronig gyda Blwyddyn Sylfaen (Rhan amser) (BEng Anrh)

Abertawe
8 Mlynedd Rhan amser
0 - 32 Pwyntiau UCAS

Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae peirianneg drydanol ac electronig yn dod yn hynod bwysig ac yn cael lle amlwg ym mhob maes, gan gynnwys - ond heb fod yn gyfyngedig i - gerbydau trydan, gweithgynhyrchu, cynhyrchu pŵer, rhwydweithiau trawsyrru a dosbarthu, dyfeisiau clyfar, systemau cyfathrebu a gwybodaeth. Er mwyn cefnogi’r angen i leihau allyriadau carbon, rhaid i’r genhedlaeth newydd o beirianwyr allu deall y technolegau presennol a’r rhai sy’n dod i’r amlwg.

Mae cynaliadwyedd bywyd modern yn dibynnu ar leihau allyriadau carbon trwy gynyddu effeithlonrwydd ynni dyfeisiau trydanol a defnyddio cerbydau trydan. Trwy’r rhaglen radd hon, byddwch yn dod i ddeall agweddau allweddol ar ystod o gysyniadau, egwyddorion, a thechnolegau sy’n gysylltiedig â pheirianneg drydanol ac electronig, y mae gan rai ohonynt le blaenllaw yn y ddisgyblaeth.

Byddwch yn dysgu cymhwyso technolegau, technegau ac offer priodol i ddatrys problemau neu i fodloni set o ofynion a nodi problemau neu dasgau, a dylunio atebion gyda dogfennaeth briodol, sy’n dangos y gallu i ddefnyddio tystiolaeth ategol ac i gyfathrebu’n effeithiol.

Bydd y rhaglen hon hefyd yn meithrin trafodaeth ar gymwysiadau, cysyniadau, egwyddorion, technegau a damcaniaeth ac yn datblygu eich dealltwriaeth o’r dulliau meintiol a’r egwyddorion mathemategol sy’n gysylltiedig â pheirianneg drydanol ac electronig. Byddwch hefyd yn dysgu am integreiddio agweddau dylunio, technoleg a masnachol priodol er mwyn datblygu a thargedu atebion amgylcheddol gynaliadwy ac arloesol i broblemau.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
8 Mlynedd Rhan amser
Gofynion Mynediad:
0 - 32 Pwyntiau UCAS

Pam dewis y cwrs hwn

01
Tybir bod gan y myfyrwyr sy'n dymuno astudio'r rhaglen Peirianneg Drydanol ac Electronig ddiddordeb mewn datblygiad trydanol neu electronig, er y gall eu cefndiroedd gynnwys astudio ffiseg a mathemateg.
02
Mae’r cynllun gradd hwn wedi’i gynllunio i greu graddedigion sydd â’r medrau addas i weithio yn y diwydiant peirianneg drydanol ac electronig yn y DU.
03
Caiff myfyrwyr gyswllt eang â thechnolegau modern gan gynnwys electroneg pŵer a gyriannau, prosesyddion signal digidol, systemau cyfathrebu digidol uwch, C, C++, Java, PLCs a systemau rheoli.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y cwrs BEng hwn yn datblygu gwybodaeth o’r peirianneg trydanol ac electronig sydd eu hangen ar gyfer sefydliadau diwydiannol modern.  

Bydd myfyrwyr yn astudio egwyddorion trydanol ac electronig, microbroseswyr a mathemateg. Mathemateg, dylunio cylched, prosesu signalau digidol, electroneg pŵer a dylunio system electronig.

Mae’r rhaglen hefyd yn cwmpasu cysyniadau electronig fel damcaniaeth egwyddorion trydanol, a pheiriannau a gyrwyr trydanol. Is-set o’r thema electroneg yw datblygu systemau wedi’i fewnblannu a chaiff hyn ei gefnogi gan gyflwyniad i raglennu cyfrifiadurol, peirianneg cyfrifiadurol a microbroseswyr. Hefyd, ymdrinnir â offeryniaeth a rheolaeth offer trydanol hefyd.

Rhoddir pwyslais ar ymarferion ymarferol i atgyfnerthu’r cysyniadau damcaniaethol a drafodir mewn darlithoedd. Gwneir defnydd helaeth o becynnau meddalwedd o safon ddiwydiannol, fel Matlab, Xilinx, Mentor Graffics a Visual Development Studio Microsoft.

Mae gan yr Ysgol systemau prosesu signal digidol a datblygu synthesis digidol o’r radd flaenaf ac mae hyn yn bosibl o ganlyniad i roddion offer gan Xilinx a Texas Instruments. Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad uniongyrchol o’r dechnoleg orau a ddefnyddir yn y diwydiant ar hyn o bryd.

Nod cyffredinol y rhaglen hon yw datblygu myfyrwyr sydd â’r sgiliau i weithio ym maes peirianneg drydanol ac electronig. Trwy nifer o gysylltiadau diwydiannol, mae’r ysgol wedi sefydlu galw cryf am y rhaglen hon yn y diwydiant. Mae gan gyflogwyr feddwl mawr o’r arbenigedd a’r sgiliau a ddatblygir gennych, o ddylunio a gweithredu datrysiadau i broblemau diffiniedig yn rhan o dîm.

Gorfodol

Dadansoddi a Datrys Problemau

(20 credydau)

Cyflwyniad i Electroneg

(20 credydau)

Cyflwyniad i Fathemateg a Gwyddoniaeth

(20 credydau)

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Gorfodol

Cyflwyniad i Systemau Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Prosiect Integreiddio

(20 credydau)

Gorfodol

Microgyfrifiaduron, Perifferolion a Rhyngwynebu

(20 credydau)

Mathemateg

(20 credydau)

Sgiliau Astudio ar gyfer Electroneg

(10 credydau)

Sgiliau Gweithdy ar gyfer Electroneg

(10 Credydau)

Gorfodol

Hanfodion Systemau Cyfrifiadurol

(10 credydau)

Egwyddorion Trydanol ac Electronig

(20 credydau)

Signalau a Systemau

(10 credydau)

C Mewnblanedig

(20 credydau)

Gorfodol

Electroneg I

(20 credydau)

Trawsddygiaduron a Chyflyru Signalau

(20 credydau)

Peirianneg a Rheoli Prosiectau

(20 Credydau)

Gorfodol

Peirianneg Drydanol

(20 credydau)

Prosiect Grŵp

(20 credydau)

Systemau Gwybodaeth Dosbarthedig

(20 credydau)

Gorfodol

Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy Cymhwysol

(20 credydau)

Electroneg II

(20 credydau)

Electroneg a Gyriannau Ynni

(20 credydau)

Gorfodol

Dylunio Systemau Electronig

(20 credydau)

Priosect Annibynnol

(40 credyd)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Ein Pobl

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 0-32 o bwyntiau tariff UCAS 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu.

    cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.

    Llwybrau mynediad amgen

    Ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen am y ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.

    Cyngor a Chymorth Derbyn

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn ’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein

    Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  

  • Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol cyfrifiadura ac electroneg. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o asesiadau ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniadau ac arholiadau. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

    Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.

    Teithiau astudio (Dewisol) – Ymweliadau diwydiannol wedi’u trefnu gan ysgolion yn y DU neu yn Ewrop.

    (Tua £50 ar gyfer teithiau o fewn y DU / Tua £200 ar gyfer teithiau o fewn Ewrop)

    Cydnabyddir, er enghraifft, y gallai’r union gostau’n gysylltiedig â thaith maes amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Dylai fod gan ymgeiswyr i’r rhaglen hon feddwl technegol ac efallai y byddant wedi astudio peirianneg, cyfrifiadureg neu’r gwyddorau o’r blaen.

    Byddant yn ceisio dod yn arbenigwyr a all ddeall agweddau caledwedd, meddalwedd a chyfathrebu systemau trydanol ac electronig. Byddai disgwyl i raddedigion y rhaglen hon chwilio am waith fel peirianwyr trydanol, peirianwyr electronig, peirianwyr cynnal a chadw trydanol, ac ati.

    Yn y rolau hyn, gallent ddisgwyl gael eu cyflogi mewn nifer o sectorau diwydiant gan gynnwys awyrofod, modurol, dosbarthu, gweithgynhyrchu, ac ati.