Prentisiaeth mewn Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu (BEng Anrh)
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae maes peirianneg gweithgynhyrchu wedi esblygu’n sylweddol, gan ddod yn fwy cymhleth oherwydd y cynnydd mewn defnyddiau newydd a phrosesau uwch. Gyda’r angen cynyddol i reoli cadwyni cyflenwi integredig a rhwydweithiau byd-eang, mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi i fyfyrwyr y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ffynnu yn yr amgylchedd deinamig hwn.
Mae’r rhaglen Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu yn cynnig sylfaen gynhwysfawr mewn peirianneg fecanyddol, gan ganolbwyntio ar sut y gellir cymhwyso’r wybodaeth hon i dechnolegau a defnyddiau gweithgynhyrchu. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn archwilio technegau dylunio a gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur cyfoes, ochr yn ochr ag offer rhifiadol hanfodol. Mae’r cyfuniad hwn o theori a chymhwysiad ymarferol yn eich paratoi ar gyfer yr heriau sy’n wynebu tirwedd peirianneg yr oes sydd ohoni.
Un o elfennau allweddol y rhaglen hon yw dysgu creu mantais gystadleuol drwy gynllunio a strategaeth weithgynhyrchu effeithiol. Byddwch yn astudio sut i weithredu mesurau rheoli ansawdd a phrosesau gweithgynhyrchu dylunio sy’n cynhyrchu cynhyrchion sy’n bodloni manylebau manwl gywir. Drwy ddeall y berthynas rhwng rheoli prosiectau a gweithgynhyrchu, byddwch yn datblygu ymagwedd systematig at fynd i’r afael â phrosiectau, gan eich galluogi i droi cysyniadau cymhleth yn ganlyniadau diriaethol.
Yn ogystal â sgiliau technegol, mae’r cwrs yn pwysleisio pwysigrwydd bod yn ymwybodol o risg, yn ymwybodol o gost, ac yn ymwybodol o werth. Byddwch yn dysgu am gyfrifoldebau moesegol, cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â’r diwydiant mecanyddol a gweithgynhyrchu. Mae’r ddealltwriaeth gyfannol hon o’ch cyfrifoldebau proffesiynol yn hanfodol mewn byd lle mae cymhlethdod gweithgynhyrchu yn aml yn plethu ag ystyriaethau byd-eang.
Nodweddir tirwedd peirianneg weithgynhyrchu fodern gan farchnad sy’n newid yn gyflym, gan herio argraffiadau traddodiadol o’r sector. Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi i addasu i’r newidiadau hyn, gan sicrhau eich bod yn barod i fodloni gofynion y dyfodol.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen BEng (Anrh) achrededig yn llwyddiannus, byddwch wedi cyflawni’r gofynion academaidd angenrheidiol ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig yn rhannol. Ar ben hynny, bydd angen i chi ymgymryd â dysgu ychwanegol i fodloni’r safonau a amlinellir gan Safonau’r DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol (UK-SPEC). Nid yn unig mae’r llwybr hwn yn eich paratoi’n syth ar gyfer cyfleoedd yn y maes ond hefyd mae’n gosod y llwyfan ar gyfer datblygiad proffesiynol hirdymor.
Trwy waith prosiect, fe gewch brofiad ymarferol, gan wella’ch sgiliau peirianneg wrth wneud cyfraniadau sylweddol i’r maes. Bydd y wybodaeth a’r profiad a gewch yn eich grymuso i chwarae rhan hanfodol wrth lunio dyfodol gweithgynhyrchu, lle mae arloesedd a chyfrifoldeb yn mynd law yn llaw.
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Rhan amser
- Cyfunol (ar y campws)
- Saesneg
Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru. Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hymagwedd at ddysgu ac addysgu yn pwysleisio cymhwysiad ymarferol, meddwl beirniadol a chydweithio. Trwy gyfuniad o wybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol, byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ragori ym maes peirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn yn egwyddorion peirianneg fecanyddol, mathemateg, a gwyddor defnyddiau. Byddwch hefyd yn dysgu dylunio drwy gymorth cyfrifiadur (CAD) a hanfodion prosesau gweithgynhyrchu, gan eich paratoi ar gyfer astudiaethau uwch mewn cymwysiadau peirianneg a datrys problemau.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth ddyfnach a’r defnydd o ddynameg, thermodynameg, a dadansoddi straen. Byddwch yn cymryd rhan mewn rhaglennu peirianneg ac offeryniaeth, wrth edrych yn ogystal ar drin defnyddiau swmp a thechnolegau gweithgynhyrchu uwch i ehangu eich sgiliau technegol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn arbenigo mewn meysydd megis peirianneg offer ac asedau, dulliau cyfrifiannu, a rheoli prosiectau. Byddwch yn ymgymryd ag aseiniad ymchwil mawr dan arweiniad prosiect, gan gymhwyso’r holl sgiliau a ddysgwyd gennych i ddatrys problemau peirianneg cymhleth, wrth ystyried hefyd eich cyfrifoldebau moesegol, cymdeithasol, ac amgylcheddol.
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
testimonial
Staff
Ein Pobl
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
112-128 Pwyntiau Tariff UCAS
TGAU
TGAU Mathemateg neu Ffiseg gradd B (neu 4) neu gyfwerth.
Os yw’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’r brentisiaeth, fe allech ystyried:
- ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hon wedi’i chynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi gan ei bod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudiaethau â chymorth.
Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn mynd ymlaen yn awtomatig i’r opsiwn gradd lawn amser lle bo ar gael yn y pwnc hwn.
- Tystysgrif mewn Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hon ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf cwrs gradd baglor llawn amser, tair blynedd.
Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau TystAU yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o opsiwn gradd baglor llawn amser yn y pwnc hwn.
Mae’r llwybrau hyn yn ddelfrydol os nad ydych yn gweithio yn y sector, rydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y brentisiaeth hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Fe allwn wneud cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn “Cynigion Cyd-destunol”. I gael cyngor a chymorth penodol gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau am ragor o wybodaeth ynglŷn â gofynion mynediad.
-
Bydd y rhaglen hefyd yn ystyried agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg a bydd yn galluogi myfyrwyr i ennill ystod o sgiliau, sy’n berthnasol i ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.
Rydym wedi paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth mewn cwmnïau bach a mawr. Enghreifftiau o gwmnïau sydd wedi cyflogi graddedigion blaenorol yw Corus, Ford, Schaeffler, Robert Bosch a Visteon.
-
Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu Ddwyieithog
Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac mae modiwlau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg naill ai’n llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch yn dewis astudio’ch cwrs naill ai’n llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Mae argaeledd modiwlau cyfrwng Cymraeg yn cael ei adolygu’n rheolaidd a gall amrywio bob blwyddyn yn dibynnu ar staffio, diddordebau ymchwil, amserlenni, galw myfyrwyr, ac isafswm niferoedd cofrestru, felly ni ellir gwarantu modiwlau penodol bob amser, cysylltwch â ni i drafod mwy.
Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig
A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
I wneud cais, rhaid i chi fod yn gweithio mewn rôl berthnasol a bod gennych gefnogaeth eich cyflogwr.
Dechreuwch drwy gofrestru eich diddordeb trwy ein tudalen Ceisio am Brentisiaethau. Ar ôl adolygu eich gwybodaeth, bydd y Tîm Prentisiaethau yn cysylltu â chi i gadarnhau eich cymhwysedd a’ch tywys drwy’r broses ymgeisio. I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â’r Tîm Prentisiaethau.