Skip page header and navigation

Rheolaeth Chwaraeon Moduro (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
90 o Bwyntiau UCAS

Ydych chi’n angerddol am fyd deinamig chwaraeon moduro - nid dim ond ar y trac, ond tu ôl i’r llen hefyd? Os ydych chi’n ffynnu mewn amgylcheddau sy’n symud yn gyflym ac mae gennych awydd i siapio dyfodol chwaraeon trwy strategaeth ac arweinyddiaeth ddoeth, gall ein BSc Rheolaeth Chwaraeon Moduro eich gweddu i’r dim.

Mae’r rhaglen hon yn eich gwahodd i archwilio calon chwaraeon moduro – o ddiwylliant tîm a llywodraethu byd-eang i’r grymoedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sy’n siapio’r chwaraeon. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o sut mae sefydliadau chwaraeon moduro yn gweithredu, a sut mae arweinyddiaeth – wrth ei arfer yn gyfrifol – yn gallu bod yn effeithiol ac yn gynhwysol.

P’un a oes gennych uchelgais i sbarduno newid o fewn timau chwaraeon moduro, llunio strategaethau ar gyfer digwyddiadau cynaliadwy, neu gerfio lle i’ch hun ym maes rheoli ar draws sectorau, mae’r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd ar draws y diwydiant chwaraeon moduro.

Yn fyfyriwr Rheolaeth Chwaraeon Moduro yn PCYDDS, cewch y cyfle i weithio’n uniongyrchol gyda’n timau rasio mewnol, gan ennill profiad ymarferol wrth ochr y trac o reolaeth tîm. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
90 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gweithiwch gyda’n timau rasio mewnol i gael profiad wrth ochr y trac o reoli tîm.
02
Enillwch ddealltwriaeth feirniadol o sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth wedi’u teilwra i sefydliadau chwaraeon moduro sy’n gweithredu o fewn cyd-destunau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ehangach.
03
Adeiladwch sylfaen gref ar gyfer cyfleoedd gyrfa amrywiol ar draws timau, digwyddiadau, marchnata, gweithrediadau chwaraeon moduro a thu hwnt.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trwy gydol y radd, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn busnes, rheolaeth a thechnoleg, gan gymhwyso’r rhain yn uniongyrchol i’r diwydiant chwaraeon moduro. Bydd pob blwyddyn yn datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a hyder, gan eich paratoi ar gyfer arfer proffesiynol ac astudio ymhellach.

Yn y flwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i egwyddorion craidd peirianneg fecanyddol a pheirianneg ddylunio. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer Dylunio drwy gymorth Cyfrifiadur a dadansoddi data. Bydd y sylfaen hon yn eich paratoi ar gyfer pynciau uwch ac yn rhoi’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnoch ar gyfer profiad ymarferol yn y maes.

Gorfodol 

Hanfodion Marchnata

(20 credydau)

Pobl a Sefydliadau

(20 credydau)

Sylfaen Cyfreithiol a Sgiliau

(20 credyd)

Sgiliau Peirianneg

(20 credyd)

Cyflwyniad i Fusnes Chwaraeon Moduro

(20 credyd)

Technoleg Pwerwaith

(10 credyd )

Technoleg Chwaraeon Moduro

(10 credyd )

Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar gerbydau rasio perfformiad uchel a’u gofynion reidio a thrin. Byddwch yn astudio dynameg cerbydau, perfformiad ac effeithlonrwydd trenau pŵer, ac aerodynameg. Defnyddir offer efelychu uwch fel Dynameg Hylif Cyfrifiadurol (CFD) a Dadansoddi Elfennau Meidraidd (FEA) i ymchwilio a gwella dylunio cerbydau.

Gorfodol 

Marchnata ar waith

(20 credydau)

Cyfraith Contract

( credydau)

Seilwaith, Dylunio a Gweithredu Chwaraeon

(20 credydau)

Rheoli Arloesi a Newid mewn Chwaraeon Modur

(20 credyd)

Rheoli Digwyddiadau Chwaraeon Modur

(20 credyd)

Prosiect Dylunio Grŵp

(10 credyd )

Rheoli Prosiectau

(10 credyd )

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymchwilio i feysydd arbenigol fel dylunio trenau pŵer, a rheolaeth drydanol. Byddwch yn gweithio ar brosiectau annibynnol a grŵp, gan gymhwyso’ch gwybodaeth i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd go iawn ym myd Chwaraeon Moduro. Mae’r cwrs hefyd yn ymdrin ag agweddau amgylcheddol dylunio a thechnoleg, gan eich paratoi ar gyfer ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth. 

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Materion Cyfoes mewn Rheolaeth

(20 credydau)

Rheoli ac Arwain Sefydliadau Chwaraeon

(20 credydau)

Cynaliadwyedd, Moeseg a Chynhwysiant Peirianneg

(10 credyd )

Logisteg a Gweithrediadau Chwaraeon Modur

(20 credyd)

Rheolaeth Peirianneg

(10 credyd )

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Students walking on carmarthen campus

Dewch i ymweld â ni mewn Diwrnod Agored

Darganfyddwch fwy am eich cwrs, cwrdd â myfyrwyr presennol, y tîm addysgu, ac archwilio ein campws a’n cyfleusterau proffesiynol. 

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 90 o bwyntiau tariff UCAS  

    • e.g.Safon Uwch: A/B, BTEC: DDM, IB: 30

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.  

    TGAU  

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.  

    Llwybrau mynediad amgen  

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.   

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd.  

    • Uwch Dystysgrif Genedlaethol (HNC). Mae hwn yn gwrs un flwyddyn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor amser llawn tair blynedd.   

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau HNC yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen am y ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.   

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.  

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  

  • Mae gan y cwrs ystod o strategaethau asesu o arholiadau traddodiadol, adroddiadau technegol, cyflwyniadau a thraethodau

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.  

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae graddedigion y radd hon mewn sefyllfa dda i adeiladu gyrfaoedd mewn meysydd fel llywodraethu, rheolaeth pencampwriaethau a digwyddiadau, marchnata a strategaeth chwaraeon moduro.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau