
Rheolaeth Chwaraeon Moduro (Llawn amser) (HND - Diploma Cenedlaethol Uwch)
Mae’r Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Rheolaeth Chwaraeon Moduro, sy’n cyfateb i ddwy flynedd gyntaf gradd, yn rhoi dealltwriaeth i chi o ochr dechnegol chwaraeon moduro tra’n cyflwyno elfennau allweddol o reoli busnes. Mae’r cyfuniad hwn o ddysgu ymarferol ac academaidd yn eich galluogi i raddio gyda chymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant neu symud ymlaen yn uniongyrchol i flwyddyn olaf y rhaglen radd lawn.
Ar y cwrs hwn, byddwch chi’n datblygu cymysgedd o sgiliau busnes, technegol a diwydiant-benodol wedi’u teilwra i fyd rasio a chwaraeon moduro. Byddwch yn astudio meysydd fel marchnata chwaraeon, rheoli digwyddiadau, nawdd, a gweithrediadau tîm, tra hefyd yn archwilio rheoliadau chwaraeon moduro, llywodraethu, a’r dirwedd fusnes fyd-eang.Mae profiad ymarferol yn rhan allweddol o’ch astudiaethau, o drefnu digwyddiadau byw a gweithio gyda thimau neu gylchedau rasio i gydweithio â noddwyr a phartneriaid yn y cyfryngau. Ochr yn ochr â dysgu technegol a rheoli, byddwch hefyd yn meithrin sgiliau cyfathrebu, arwain a dadansoddi sy’n eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd gyda thimau chwaraeon moduro, cyrff llywodraethu, lleoliadau, a chwmnïau sy’n gysylltiedig â chwaraeon moduro.
Bydd gennych fynediad at gyfleusterau arbenigol o’r radd flaenaf gan gynnwys ffordd rolio, amrywiaeth o gerbydau rasio, efelychwyr ar gyfer prosiectau profi, ac offer diagnostig. Mae yna hefyd ystafelloedd cyfrifiaduron 24 awr yn arbennig ar gyfer cyrsiau Chwaraeon Moduro.
Yn fyfyriwr Rheolaeth Chwaraeon Moduro yn PCYDDS, cewch y cyfle i weithio’n uniongyrchol gyda’n timau rasio mewnol, gan ennill profiad ymarferol wrth ochr y trac o reolaeth tîm.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Trwy gydol y radd, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn busnes, rheolaeth a thechnoleg, gan gymhwyso’r rhain yn uniongyrchol i’r diwydiant chwaraeon moduro. Bydd pob blwyddyn yn datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a hyder, gan eich paratoi ar gyfer arfer proffesiynol ac astudio ymhellach.
Yn y flwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i egwyddorion craidd peirianneg fecanyddol a pheirianneg ddylunio. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer Dylunio drwy gymorth Cyfrifiadur a dadansoddi data. Bydd y sylfaen hon yn eich paratoi ar gyfer pynciau uwch ac yn rhoi’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnoch ar gyfer profiad ymarferol yn y maes.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
(10 credyd )
(10 credyd )
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar gerbydau rasio perfformiad uchel a’u gofynion reidio a thrin. Byddwch yn astudio dynameg cerbydau, perfformiad ac effeithlonrwydd trenau pŵer, ac aerodynameg. Defnyddir offer efelychu uwch fel Dynameg Hylif Cyfrifiadurol (CFD) a Dadansoddi Elfennau Meidraidd (FEA) i ymchwilio a gwella dylunio cerbydau.
Gorfodol
(20 credydau)
( credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credyd)
(10 credyd )
(10 credyd )
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb

Dewch i ymweld â ni mewn Diwrnod Agored
Darganfyddwch fwy am eich cwrs, cwrdd â myfyrwyr presennol, y tîm addysgu, ac archwilio ein campws a’n cyfleusterau proffesiynol.
Staff
Ein Pobl
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
80-96 o bwyntiau tariff UCAS
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
TGAU
TGAU Mathemateg neu Ffiseg gradd B neu gyfwerth
Llwybrau mynediad amgen
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
-
Uwch Dystysgrif Genedlaethol (HNC). Mae hwn yn gwrs un flwyddyn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor amser llawn tair blynedd.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau HNC yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen am y ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Mae gan y cwrs ystod o strategaethau asesu o arholiadau traddodiadol, adroddiadau technegol, cyflwyniadau a thraethodau
-
Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac er nad oes unrhyw fodiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd, ym mhob achos gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig
A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i baratoi graddedigion ar gyfer rolau rheoli o fewn timau chwaraeon moduro. Mae ei ddull integredig, sy’n cyfuno modylau rheoli a pheirianneg, yn helpu myfyrwyr i gymhwyso egwyddorion rheoli gyda dealltwriaeth ddofn o gyfraddau amser, costau a phrosesau peirianneg, gan alluogi rheoli tîm yn effeithiol.