Skip page header and navigation

Arfer Proffesiynol (Rhan amser) (MA)

Dysgu o Bell
3 blynedd yn rhan-amser
O leiaf 5 mlynedd o brofiad priodol sy’n seiliedig ar waith neu waith gwirfoddol.

Mae’r MA Arfer Proffesiynol (Dysgu o Bell, Rhan-amser), yn rhaglen meistr hyblyg, sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd a gynlluniwyd ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd eisiau cyfoethogi eu harbenigedd, datblygu eu sgiliau arwain, ac ennill cymhwyster ffurfiol heb gymryd seibiant gyrfa.

Wedi’i chyflwyno 100% ar-lein, mae’r rhaglen ran-amser hon yn caniatáu i chi gymhwyso’r hyn y byddwch yn ei ddysgu yn uniongyrchol i’ch gweithle, gan gyfoethogi eich datblygiad personol a phroffesiynol.

Mae’r radd meistr seiliedig ar waith hon yn hyblyg iawn, gan alluogi i chi deilwra eich astudiaethau i’ch nodau gyrfaol. Gydag ystod o fodylau mewn arweinyddiaeth„ hyfforddi, mentora, rheoli newid, a thrawsnewid digidol, gallwch siapio eich profiad dysgu i weddu eich diwydiant ac uchelgeisiau. P’un a ydych yn gweithio mewn busnes, gofal iechyd, addysg, gwasanaethau cyhoeddus, neu’r sector dielw, mae’r rhaglen hon yn rhoi i chi’r sgiliau ymarferol a mewnwelediadau strategol i gyfoethogi eich arfer proffesiynol.

Un o brif fanteision y rhaglen MA dysgu o bell hon yw ei bod yn Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL), sy’n caniatáu i chi ennill credyd academaidd ar gyfer eich profiad, hyfforddiant, neu gymwysterau proffesiynol blaenorol. Gall hyn gyflymu eich cynnydd a gwneud eich gradd meistr yn fwy fforddiadwy.

Trwy gydol y cwrs, byddwch yn ymgysylltu ag addysgu a arweinir gan ymchwil, astudiaethau achos byd go iawn, a phrosiectau astudio annibynnol, gan ddod i’w anterth mewn prosiect ymchwil yn y gwaith sy’n alinio gyda’ch amcanion gyrfaol. Byddwch yn graddio gyda sgiliau meddwl beirniadol, datrys problemau, ac arweinyddiaeth sy’n gallu agor drysau i rolau uwch, cyfleoedd ymgynghori, neu astudiaethau academaidd pellach.

Os ydych chi’n chwilio am radd meistr hyblyg, sy’n berthnasol i’r diwydiant, sy’n gadael i chi astudio unrhyw bryd, unrhyw le, yr MA Arfer Proffesiynol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw’r dewis delfrydol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
3 blynedd yn rhan-amser
Gofynion mynediad:
O leiaf 5 mlynedd o brofiad priodol sy’n seiliedig ar waith neu waith gwirfoddol.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Hyblyg ac Ar-lein: Dyluniwyd r gyfer gweithwyr proffesiynol, gyda darpariaeth sydd ar-lein yn llwyr a nifer o bwyntiau derbyn.
02
Dysgu yn y Gwaith: Cymhwyso eich astudiaethau’n uniongyrchol i’ch arfer proffesiynol.
03
Llwybr Dysgu wedi’i Deilwra: Dewiswch fodylau sy’n berthnasol i’ch nodau gyrfaol, gan gynnwys arweinyddiaeth, hyfforddi a rheolaeth.
04
Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL): Enillwch gredydau ar gyfer profiad a chymwysterau blaenorol.
05
Modylau sy’n Berthnasol i’r Diwydiant: Datblygwyd mewn cydweithrediad ag arbenigwyr y diwydiant i alinio gyda heriau proffesiynol y byd go iawn.
06
Hunangadarnhad: Byddwch yn profi taith o hunanddarganfyddiad ac yn teimlo ymdeimlad o hunangadarnhad.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen hon yn datblygu adfyfyrio beirniadol, arweinyddiaeth, a sgiliau ymchwil wedi’u teilwra i’ch sector proffesiynol. Byddwch yn ymgysylltu â’r canlynol:

  • Arfer proffesiynol cyfoes a strategaethau arweinyddiaeth.
  • Dysgu yn y gwaith a modylau astudio annibynnol.
  • Methodoleg ymchwil wedi’u cymhwyso i heriau’r gweithle.
  • Ystyriaethau moesegol a phroffesiynol yn eich maes.

Mae strwythur y rhaglen yn hyblyg iawn, gan alluogi i fyfyrwyr deilwra eu dysgu.

Modylau Craidd:

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus (20 credyd)
  • Cydnabod ac Achredu Dysgu (RAL) (20 credyd)
  • Ymchwil yn y Gwaith (20 credyd)
  • Ymchwil mewn Gweithleoedd (10 credyd)

Modylau Dewisol (enghreifftiau):

  • Arweinyddiaeth a Newid (30 credyd)
  • Hyfforddi a Mentora (30 credyd)
  • Rheoli Prosiectau yn y Gwaith (30 credyd)
  • Dilysrwydd a Rôl yr Arweinydd (30 credyd)
  • Rheolaeth Ariannol ar gyfer y Sector Cyhoeddus (30 credyd)

Rhaid i fyfyrwyr gwblhau cyfanswm o 180 credyd i raddio gydag MA.

Dewisol

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

(20 credydau)

Cymhwyso Dysgu yn y Gweithle

(15 credydau)

Cydnabod ac Achredu Dysgu (CAD) gyda Cydnabod Dysgu Blaenorol drwy Brofiad (RPEL)/Cydnabod Dysgu Tystysgrifedig Blaenorol (RPCL)

(20 + (40-160 cais credyd))

Dewisol

Dilysrwydd a Rôl yr Arweinydd

(30 credydau)

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

(20 credydau)

Hyfforddi a Mentora

(30 credydau)

Ymgymryd ag Ymchwil mewn Gweithleoedd

(15 credydau)

Ymchwil Seiliedig ar Waith

(20 credydau)

Rheoli Prosiectau Seiliedig ar Waith

(30 credydau)

Arweinyddiaeth a Newid

(30 credydau)

Hyfforddi yn y Gweithle

(20 credyd)

Dewisol

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

testimonial

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf 5 mlynedd o brofiad priodol sy’n seiliedig ar waith neu waith gwirfoddol. 

    Llwybrau mynediad amgen 

    • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (PGCert). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn.  

    Ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau PGCert yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen ar gyfer gweddill y radd Meistr. 

    Mae’r rhain yn lwybrau delfrydol os ydych chi’n dychwelyd i astudio ar ôl bwlch, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os nad ydych wedi cyflawni’r graddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer lle ar y radd hon. 

    Cyngor a Chymorth Derbyn 

    I gael cyngor a chefnogaeth benodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Fel darpar fyfyriwr bydd y Tîm Derbyn yn trefnu cyfarfod i drafod yr opsiynau sydd ar gael i chi. Mae hyn fel arfer yn digwydd ar-lein ar amser sy’n gyfleus i chi.  

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  

  • Defnyddir amrywiaeth o asesiadau i herio dysgwyr. Mae ffocws academaidd cryf o fewn y rhaglen ochr yn ochr â datblygu sgiliau ymarferol.

  • Cwrs Cyfrwng Cymraeg yw hwn.  

    Golyga hyn bod y cwrs hwn ar gael yn llawn yn Gymraeg (360 Credyd/100%).   

    Os byddwch yn dewis astudio eich cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eich astudiaethau. 

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

     Yn ogystal, mae llawer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.  

  • Nid oes unrhyw gostau ychwanegol gofynnol ar gyfer y cwrs. Mae opsiwn i gynnal asesiad Seicometrig Insights.

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaeth. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar ein gwefan.

  • Mae graddedigion yn dilyn rolau mewn: 

    • Arweinyddiaeth a rheolaeth ar draws diwydiannau 
    • Sector cyhoeddus a sefydliadau dielw 
    • AD a datblygu talent 
    • Hyfforddi ac ymgynghori

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau