Iechyd Meddwl ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Plant a Phobl Ifanc (Rhan-amser) (MA)
Nid yw Cefnogi Plant Byth Wedi Bod yn Bwysicach
Mae plant a phobl ifanc yn wynebu heriau iechyd meddwl heddiw yn fwy nag erioed. Ar yr un pryd, mae cynnydd yn y galw am weithwyr proffesiynol medrus a allai gefnogi’r rhain sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Mae’r MA rhan-amser hon yn dod â’r ddau faes hanfodol ynghyd mewn un cymhwyster. Dyma’r unig gwrs ôl-raddedig yng Nghymru i wneud hynny, ac un o’r ychydig raglenni yn y DU gyda’r ffocws clir integredig hwn.
Ar Gyfer Pwy Mae’r Cwrs Hwn?
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i bobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, neu’r rhain sydd am wneud hynny. P’un a ydych chi’n athro, cynorthwyydd addysgu, gweithiwr cymorth ADY, ymarferydd CAMHS, gweithiwr ieuenctid, addysgwr y blynyddoedd cynnar, neu ymarferydd chwarae, mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio gyda chi mewn golwg. Mae’n croesawu gweithwyr proffesiynol o bob rhan o addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.
Pa Fuddion Byddwch Chi’n Eu Cael o’r Cwrs?
Byddwch chi’n adeiladu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich gwaith. Byddwch chi’n dysgu sut i ddefnyddio strategaethau seiliedig ar dystiolaeth, deall polisïau allweddol, a chefnogi plant a phobl ifanc mewn ffordd ystyrlon sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Opsiynau Astudio Hyblyg
Gallwch chi astudio rhan-amser dros 36 mis neu gallwch chi ddewis astudio ar ein cwrs llawn amser sy’n cwmpasu 18 mis. Cynhelir dosbarthiadau yn yr hwyr a dyddiau Sadwrn ar ein campws Caerfyrddin, gan ei gwneud hi’n haws i barhau i weithio wrth astudio.
Yn ogystal, gallwch chi adael gyda Thystysgrif Ôl-raddedig neu Ddiploma Ôl-raddedig os ydych chi’n dewis peidio â chwblhau’r MA lawn. Mae’r cwrs yn darparu llwybr clir i astudio doethuriaeth yn PCYDDS hefyd.
Manylion y cwrs
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn rhoi sylfaen ymarferol drylwyr mewn iechyd meddwl plant ac Anghenion Dysgu Ychwanegol. Byddwch chi’n archwilio pynciau megis ADHD, awtistiaeth, dyslecsia, trawma a llesiant emosiynol. Yn ogystal, byddwch chi’n dysgu sut i gynllunio a chyflwyno ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ar draws addysg, iechyd, a lleoliadau gofal cymdeithasol.
Byddwch chi’n datblygu sgiliau ymchwil cryf ochr yn ochr â gwybodaeth bwnc arbenigol i werthuso polisi, cwestiynu arfer, ac arwain newid yn eich gweithle. Mae addysgu yn digwydd ar gampws Caerfyrddin gyda sesiynau yn yr hwyr a dyddiau Sadwrn.
Gorfodol
(30 credyd)
(30 credyd)
(30 credyd)
(30 credyd)
(60 credyd)
Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.
Staff
Ein Pobl
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2
-
neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
Fodd bynnag, bydd ymgeiswyr sydd â chymhwyster a phrofiad galwedigaethol hefyd yn cael eu hystyried.
Cyngor a Chymorth Derbyn
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Nid oes arholiadau ysgrifenedig traddodiadol ar y cwrs hwn. Mae pob aseiniad wedi’u cynllunio i adlewyrchu’r math o waith byddwch chi’n ei wneud fel ymarferydd.
Yn ogystal, byddwch chi’n cwblhau amrywiaeth o dasgau, gan gynnwys astudiaethau achos ysgrifenedig, gwerthusiadau beirniadol, cynigion ymchwil, ac adroddiadau academaidd. Byddwch chi’n cynhyrchu allbynnau ymarferol hefyd megis fideo fer sy’n codi ymwybyddiaeth am niwroamrywiaeth, adnodd ymyrraeth ar gyfer cefnogi llythrennedd, yn ogystal â chyflwyniadau proffesiynol i gynulleidfaoedd gwahanol.
Mae’r cwrs yn gorffen gyda Phrosiect Annibynnol, lle byddwch chi’n cynhyrchu aseiniad ysgrifenedig, portffolio, a chyflwyniad, pob un sy’n canolbwyntio ar faes sy’n bwysig i’ch arfer eich hun.
Mae gweithgareddau ffurfiannol rheolaidd megis adborth gan gyfoedion, trafodaethau grŵp a thasgau ymarfer yn eich helpu i adeiladu sgiliau a pharatoi gyda hyder trwy gydol y cwrs. -
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Mae’r ffi ddysgu yn cwmpasu cost lawn eich astudiaethau. Mae nifer fach o gostau ychwanegol y gall rhai myfyrwyr ddewis eu talu.
Gwerslyfrau (dewisol, £20 i £100): Gallwch chi ddewis prynu gwerslyfrau i gefnogi eich astudiaethau. Mae’r rhan fwyaf o’r deunyddiau darllen ar gael trwy lyfrgell y brifysgol neu ar-lein, felly nid oes angen hyn.
Cynadleddau ymchwil (dewisol, £50 i £500): Efallai cewch chi gyfle i fynychu cynadleddau ymchwil perthnasol. Nid yw’r rhain yn orfodol, ond gallan nhw fod yn rhan werthfawr o’ch datblygiad proffesiynol. Mae costau’n amrywiol gan ddibynnu ar y digwyddiad a’r lleoliad.
Gwiriad DBS (dewisol, £49.50): Os yw eich Prosiect Annibynnol yn cynnwys gwaith uniongyrchol gyda phlant neu bobl ifanc, efallai bydd angen gwiriad DBS arnoch, er nad yw hyn yn ofynnol bob amser.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r cymhwyster hwn yn agor drysau ar draws ystod eang o rolau a sectorau. Dyma le gallai’r cwrs fynd â chi.
- Gweithio fel cydlynydd ADY, neu arbenigwr cynhwysiant mewn ysgol neu awdurdod lleol, gan arwain cefnogaeth i blant ag anghenion ychwanegol.
- Symud ymlaen i weithio fel ymarferwr CAMHS, gan ddefnyddio gwybodaeth arbenigol i asesu a chefnogi anghenion iechyd meddwl plant ar draws iechyd ac addysg.
- Ymgymryd â rôl gweithiwr cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc mewn ysgol gymunedol neu leoliadau gofal cymdeithasol.
- Adeiladu gyrfa gyda sefydliadau yn y trydydd sector megis Mind Cymru, Barnardo’s Cymru neu’r NSPCC.
- Gweithio fel swyddog lles addysg, gweithiwr ieuenctid, neu ymarferwr cymorth teulu gyda sylfaen dystiolaeth ddyfnach y tu ôl i’r arfer.
- Cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa academaidd wrth symud ymlaen i astudio Doethuriaeth mewn Addysg (EdD) neu Ddoethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol (DProf) yn PCYDDS.