Skip page header and navigation

Peirianneg Fodurol (Llawn amser) (PGCert)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser

Dechreuodd PCYDDS Abertawe gynnig un o’r cyrsiau gradd Peirianneg Fodurol cyntaf yn yr 1990au, ac maen nhw wedi datblygu enw arbennig o dda yn y diwydiant. 

Bydd astudio gradd PGCert ym maes Peirianneg Fodurol yn datblygu’r arbenigedd penodol sydd ei angen arnoch wrth ddylunio, datblygu, peiriannu, gweithgynhyrchu ac optimeiddio cerbydau.

Mae’r cwrs yn cynnig cyfuniad da o elfennau damcaniaethol ac ymarferol dan arweiniad athro yn ogystal â chyfleoedd prosiect rhagorol sy’n ymwneud yn benodol â Moduro, aseiniadau sy’n ymwneud yn benodol â Moduro, a modiwlau ar amrywiaeth eang o bynciau sy’n gysylltiedig â Moduro, ac mae’r cwrs yn dal i alluogi’r myfyrwyr i deilwra eu hastudiaethau er mwyn bodloni eu hanghenion a’u dyheadau gyrfa eu hunain. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Peirianneg gymhwysol sy’n canolbwyntio ar ei defnydd Modurol a’r gofynion penodol ar gyfer graddedigion yn y sector hwn.
02
Adeilad campws newydd sbon gyda'r holl dechnoleg ddiweddaraf a chyfleusterau gweithdy pwrpasol.
03
Staff sy’n arbenigo mewn peirianneg fodurol ac sydd â phrofiad ac arbenigedd o’r diwydiant.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn ddatblygiad naturiol o lwyddiant y rhaglenni israddedig Peirianneg Fodurol a gynigir gan PCYDDS, nod y rhaglen Meistr ddiweddaraf yw datblygu eich dealltwriaeth ymhellach, gan ddefnyddio’r cysylltiadau cryf rhwng y Brifysgol a’r Diwydiant fel sylfaen. 

Mae’r cynlluniau gradd Modurol yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr gael profiad o’r byd peirianneg a datblygiad modurol gyda chyfuniad o ddysgu cymhwysol a damcaniaethol.

Yn seiliedig ar egwyddorion peirianneg fecanyddol, mae myfyrwyr yn datblygu’r themâu hyn gyda ffocws penodol ar beirianneg a gweithgynhyrchu cerbydau trwy brosiectau ac enghreifftiau cymhwysol.

Mae myfyrwyr wedi cael gwaith gyda chwmnïau modurol fel McLaren Automotive, Jaguar Land Rover, Ford, Honda R&D, Ricardo, MAHLE a llawer mwy. 

Ymddygiad Deinamig Cerbydau Uwch

(20 credydau)

Perfformiad ac Allyriadau Peiriannau

(20 credydau)

Mecanweithiau Methiant Deunyddiau

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd 2.1 neu uwch mewn disgyblaeth briodol. Mae natur y rhaglen yn golygu y bydd ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd yn cael eu hystyried.

    Cymwysterau cyfwerth

    Byddwn yn ystyried y rhain wrth gynnig lle ar y rhaglen.  Er enghraifft, byddai ymgeisydd sydd â HND da ac o leiaf pum mlynedd o brofiad perthnasol yn cael ei ystyried. Byddai disgwyl i’r ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth i gefnogi ei gais.

    Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Byddwn yn ystyried eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd. Byddwn yn chwilio am dystiolaeth o brofiad personol, proffesiynol ac addysgol er mwyn asesu gallu unigolion i fodloni gofynion y rhaglen.

  • Mae sawl fformat yn cael ei ddefnyddio er mwyn asesu, gan gynnwys arholiadau a gwaith cwrs arferol yn ogystal â dulliau asesu eraill sy’n fwy ‘diwydiannol’, fel gwaith maes wrth ymyl y trac, tasgau yn y gweithdy, asesiadau sy’n defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol, ac arholiadau llafar a seminarau grŵp.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion llwybrau Peirianneg Fodurol PCYDDS wedi cael gwaith mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau peirianneg o fewn y Diwydiant Peirianneg Fodurol a thu hwnt.

    Mae myfyrwyr wedi cael gwaith gyda chwmnïau modurol fel McLaren Automotive, Jaguar Land Rover, Ford, Honda R&D, Ricardo, MAHLE a llawer o rolau peirianneg eraill o safon uchel.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau