Mae Rheoli Arloesi Rhyngwladol yn gymhwyster ôl-raddedig sy’n rhoi cyfle unigryw i archwilio dulliau cyfoes o ddatblygu cynnyrch a’r heriau technegol sy’n gysylltiedig â rheoli arferion o’r fath yn y byd rhyngwladol modern.
Am ddim* *Yn amodol ar gyllid Diminimus
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Dysgu o bell
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r llwybrau rheoli arloesi rhyngwladol wedi’u cynllunio er mwyn rhoi cipolwg ar dueddiadau yn y diwydiant modern a’r dulliau a ddefnyddir i sicrhau bod cynnyrch yn bodloni gofynion defnyddwyr mewn byd modern.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r sector i sicrhau ein bod bob amser yn gyfoes yn ein harferion addysgu ac yn bodloni gofynion diwydiant sy’n newid o hyd.
(60 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Accommodation
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
- Rhaid bod â phrofiad lefel 6 neu gyfwerth
- Rhaid bod â rôl mewn Diwydiant ar hyn o bryd
-
Mae’r dulliau asesu ar gyfer y cwrs hwn yn adlewyrchu arferion o fewn y sector sy’n amrywio o gynhyrchu adroddiadau technegol i gyflwyno syniadau allweddol drwy gyflwyniadau.
Mae’r dulliau asesu wedi’u dewis yn ofalus er mwyn cefnogi gallu pob dysgwr a rhoi profiad iddynt o ymarfer tasgau byd go iawn sydd eu hangen mewn rolau diwydiannol.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modiwlau fel y Prosiect Mawr ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Ar hyn o bryd mae ein myfyrwyr yn cyflawni rolau o fewn busnesau bach a chanolig ac yn gobeithio dilyn y llwybr angenrheidiol i ychwanegu at eu sgiliau i gefnogi dilyniant gyrfa yn eu rolau presennol tra’n paratoi ar gyfer gofynion y sector yn y dyfodol.