Bydd y cwrs Cyfiawnder Troseddol a Phlismona (MA) yn archwilio’r modd y mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithredu. Mae’n rhoi cipolwg ar sylfeini damcaniaethol plismona ynghyd â dealltwriaeth o ddamcaniaethau troseddegol trosedd.
Mae gan y tîm sy’n cyflwyno’r rhaglen hon gyfoeth o brofiad proffesiynol ac academaidd ac mae’n gallu dod â’r profiad hwnnw i’r ystafell ddosbarth.
Bydd myfyrwyr yn cael gwybodaeth am ddatblygiadau rhyngwladol mewn ymchwil troseddegol a chyfiawnder troseddol ac effaith ffactorau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ar blismona, trosedd a pholisi cyfiawnder troseddol.
Bydd myfyrwyr hefyd yn astudio materion cyfoes, megis seiberdroseddu, terfysgaeth a phlismona ymatebol.
Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i fanteisio ar y cyfleoedd sydd wedi’u datblygu gyda nifer o sefydliadau ar gyfer lleoliadau a gwaith gwirfoddol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen hon yn archwilio sylfeini damcaniaethol plismona a damcaniaethau troseddegol trosedd a’r modd y mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithredu.
Bydd myfyrwyr yn cael gwybodaeth am ddatblygiadau rhyngwladol mewn ymchwil troseddegol a chyfiawnder troseddol ac effaith ffactorau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ar blismona, trosedd a pholisi cyfiawnder troseddol.
Bydd myfyrwyr hefyd yn astudio materion cyfoes, megis seiberdroseddu, terfysgaeth a phlismona ymatebol.
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(60 credydau)
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob disgyblaeth cyn belled â bod ganddyn nhw radd a/neu gymwysterau proffesiynol. Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad proffesiynol, profiad o arweinyddiaeth a phlismona a allai gael eu derbyn ar raglen meistr yn ôl disgresiwn cyfarwyddwr y rhaglen.
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 21 oed ac yn meddu ar un neu fwy o’r canlynol:
- Gradd anrhydedd gydnabyddedig (o leiaf 2:2) neu gymhwyster cyfatebol.
- Cymhwyster proffesiynol.
- Gall ymgeiswyr sydd dros 25 oed ac nad ydynt yn bodloni’r meini prawf uchod gael eu derbyn ar y cwrs ar yr amod bod eu profiad proffesiynol yn cael ei ystyried yn briodol.
Gellir ystyried rhai eithriadau o fodiwlau a addysgir a chaiff penderfyniadau eu gwneud yn unigol yn unol â phroses Achredu Dysgu drwy Brofiad Blaenorol (RPEL) PCYDDS.
-
Mae’r modiwlau a’r asesiadau wedi’u cynllunio ar y cyd gan dîm y rhaglen, i sicrhau eu bod yn ffurfio cyfanwaith cydlynol.
Prif bwrpas y cynllun asesu yw galluogi myfyrwyr i ddangos yn unigol eu bod wedi bodloni nodau’r rhaglenni ac wedi cyflawni’r deilliannau dysgu i’r safon sy’n ofynnol ar gyfer lefel yr astudiaeth. Bydd asesu hefyd yn cael ei ddefnyddio i roi adborth i fyfyrwyr i’w cynorthwyo gyda dysgu dilynol.
-
Fel sefydliad, rydym yn ceisio gwella profiad y myfyriwr yn barhaus ac o ganlyniad, efallai y bydd costau ychwanegol i’r myfyriwr ar weithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg.
Lle bo modd, bydd y costau hyn yn cael eu cadw mor isel â phosibl a bydd y gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae gan dîm y rhaglen gysylltiadau helaeth â sefydliadau sy’n gweithio yn y maes ac mae llawer o fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio yn y diwydiant trwy gysylltiadau a wnaed drwy’r tîm.
Ceir ffocws galwedigaethol i gynnwys y rhaglen, ac mae’n defnyddio astudiaethau achos go iawn o sefydliadau cyfredol. Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i rannu eu profiad gwaith eu hunain a chymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn ffyrdd creadigol ac arloesol.