Busnes Cymhwysol (Entrepreneuriaeth) (Llawn amser) (BA Anrh)
Oes gennych chi uchelgais i ddechrau eich busnes eich hun neu oes gennych awch i ddatblygu menter bresennol? Mae’r llwybr Busnes Cymhwysol (Entrepreneuriaeth) wedi’i lunio’n benodol ar eich cyfer chi. Mae’n cynnig sylfaen eang o sgiliau busnes wedi’u teilwra at anghenion entrepreneuriaid ac arweinwyr busnes sydd ag awydd i greu gwell dyfodol drwy arweinyddiaeth busnes eithriadol.
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ymateb i anghenion presennol a’r dyfodol yn y diwydiant, felly gallwch ddysgu i lywio amgylchedd gwaith sy’n cael ei aflonyddu a’i globaleiddio’n fwy a datblygu gyrfa fel entrepreneur, swyddog gweithredol uwch neu entrepreneur cymdeithasol.
Archwiliwch sgiliau sy’n hanfodol i fusnesau newydd, fel datblygu a dilysu cysyniad, arweinyddiaeth hyblyg a chodi cyfalaf.
Cynyddwch eich dealltwriaeth o sefydliadau, eu rheolaeth, yr economi a’r amgylchedd busnes, wrth i chi ennill gwybodaeth a sgiliau busnes penodol. Datblygwch agwedd bositif a beirniadol tuag at newid a menter wrth gyfoethogi ystod eang o sgiliau a phriodoleddau a fydd yn eich galluogi i ddod yn ddinesydd byd-eang effeithiol.
Wrth i chi weithio trwy brofiad dysgu unigryw sy’n cynnwys gweithgareddau dysgu wedi’u teilwra a chynnwys fideo unigryw, cewch eich cefnogi wrth i chi ddatblygu eich craffter busnes.
Cyflwynir y rhaglen drwy Swyddfa Cymru-Ducere gan ddefnyddio arbenigedd a pherthnasedd diwydiannol Arweinwyr Byd-eang Ducere. I gael rhagor o wybodaeth am Ducere, ewch i Ysgol Fusnes Fyd-eang Ducere.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen yn darparu sylfaen eang o sgiliau busnes wedi’u teilwra at anghenion entrepreneuriaid ac arweinwyr busnes sydd ag awydd i greu gwell dyfodol drwy arweinyddiaeth busnes eithriadol, boed hynny fel entrepreneur, uwch-swyddog gweithredol neu entrepreneur cymdeithasol.
Bydd myfyrwyr yn gweithio’u ffordd drwy brofiad dysgu unigryw sy’n cynnwys gweithgareddau dysgu pwrpasol a chynnwys fideo unigryw gan sefyll ar ysgwyddau cannoedd o arweinwyr mwyaf llwyddiannus ac ysbrydoledig y byd, o Arlywyddion a Phrif Weinidogion i enillwyr Gwobrau Nobel ac academyddion blaenllaw, a chaiff myfyrwyr eu cefnogi wrth ddatblygu eu craffter busnes.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
Tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
88 pwynt UCAS ynghyd â 2 TGAU/TAG Lefel O o’r DU Gradd A–C mewn Mathemateg a Saesneg; neu brofiad gwaith* sylweddol ynghyd â 2 TGAU/TAG Lefel O o’r DU Gradd A–C mewn Mathemateg a Saesneg.
*Bydd profiad gwaith yn cael ei ystyried fesul ymgeisydd.
-
Mae’r dulliau asesu’n amrywio o fodwl i fodwl ond gallwch ddisgwyl ystod o asesiadau gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau a dadansoddiadau. Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd â thasgau o’r“byd go iawn” sy’n dangos gallu myfyriwr i gymhwyso’i wybodaeth a’i sgiliau’n ystyrlon.
-
Nid oes costau ychwanegol gyda’r cwrs hwn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd graddedigion yn datblygu galluoedd gan gynnwys:
- Adnabod cyfleoedd busnes mewn amrywiaeth o gyd-destunau
- Prototeipio ystod o fodelau busnes arloesol yn gyflym
- Dilysu potensial cysyniadau entrepreneuraidd yn effeithiol
- Defnyddio technolegau modern i adeiladu a thyfu mentrau newydd
- Gweithio gyda sefydliadau sefydledig i weithredu’n fwy effeithiol.
Mae cyfleoedd gyrfaol yn cynnwys:
- Entrepreneur
- Intrapreneur
- Arbenigwr Strategaeth
- Ymgynghorydd
- Perchennog Busnes.