Sgiliau Busnes ar gyfer y Gweithle - Astudio ar Benwythnos (CertHE)
Bydd astudio ein Tystysgrif AU Sgiliau Busnes ar gyfer y Gweithle yn Birmingham yn rhoi cyfle i chi ennill dealltwriaeth ymarferol a dadansoddol o fusnes a rheolaeth wrth i chi ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r radd hon wedi’i llunio er mwyn rhoi gwybodaeth eang am sefydliadau busnes, eu dulliau rheoli a’r amgylcheddau y maent yn gweithredu o’u mewn.
Bydd modylau’r rhaglen yn eich cyflwyno i ddisgyblaethau busnes allweddol fel cyllid, rheoli adnoddau dynol, marchnata a datblygiad proffesiynol.
Bydd sgiliau fel rheoli prosiectau, entrepreneuriaeth, creadigrwydd, hyfforddi, mentora, meddwl yn feirniadol a chyfathrebu’n cael eu hintegreiddio ar draws y modylau.
Mae gan y rhaglen thema gyflogadwyedd gref a welir yn y ffordd y caiff ei chyflwyno drwy’r defnydd o brosiectau byw ac ymgynghoriaeth.
Er nad yw’n arbenigo mewn disgyblaeth benodol, bydd y rhaglen hon yn rhoi gwybodaeth eang i chi yn y meysydd pwnc mwyaf cyffredin o fewn busnes a rheolaeth.
Byddwch yn ennill mewnwelediad helaeth i gymhwysiad damcaniaethol ac ymarferol theorïau a fframweithiau rheoli. Byddwch hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr o ystod o sectorau a diwydiannau, gan ganiatáu i chi ddatblygu eich profiad gwaith ymarferol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen wedi’i chreu’n benodol o ran ei chynnwys a’i darpariaeth hyblyg er mwyn rhoi i chi hyder i ragweld problemau a dod o hyd i ddatrysiadau, i weithio’n annibynnol a gyda phobl eraill, i gynllunio pethau cyn dechrau arnynt a chwblhau’r pethau yr ydych wedi‘u dechrau; yn fyr, i ddatblygu’r sgiliau mae cyflogwyr eu heisiau!
Mae’r holl addysgu wedi’i seilio ar brosiectau, gan gysylltu damcaniaeth ag arfer a sicrhau bod pob modwl yn cael ei roi mewn cyd-destun o fewn sefyllfaoedd a heriau go iawn yn y gweithle.
Gallwch wneud cais i astudio’r cwrs hwn yn ystod yr wythnos neu ar benwythnosau.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Birmingham
Mae Birmingham yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr, gan ddenu miloedd o fyfyrwyr y flwyddyn i’r ddinas myfyrwyr ffyniannus hon. Mae amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr ar gael a bydd ein tîm llety yn gallu cynnig arweiniad i chi.
Gwybodaeth allweddol
-
Caiff pob ymgeisydd ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Fel arfer bydd gan fyfyrwyr dan 21 oed o leiaf 1 Lefel A neu Ddiploma/Tystysgrif Genedlaethol BTEC neu gyfwerth. Ymgeiswyr Hŷn – yn aml gellir ystyried profiad yn lle cymwysterau ffurfiol. Mae graddau yn bwysig; fodd bynnag, nid ydym yn cynnig lle ar y cwrs yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig.
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr basio asesiad gydag un o’n hacademyddion er mwyn cael eu derbyn ar y rhaglen.
-
Bydd amrywiaeth o asesiadau yn cael eu defnyddio i herio myfyrwyr. Mae ffocws academaidd cryf i’r rhaglen a hynny ochr yn ochr â datblygu sgiliau ymarferol
-
Caiff pob ymgeisydd ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Fel arfer bydd gan fyfyrwyr dan 21 oed o leiaf 1 Lefel A neu Ddiploma/Tystysgrif Genedlaethol BTEC neu gyfwerth. Ymgeiswyr Hŷn – yn aml gellir ystyried profiad yn lle cymwysterau ffurfiol. Mae graddau yn bwysig; fodd bynnag, nid ydym yn cynnig lle ar y cwrs yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig.
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr basio asesiad gydag un o’n hacademyddion er mwyn cael eu derbyn ar y rhaglen.
-
Ewch i’r adrannau Ffioedd ac Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau am ragor o wybodaeth.
-
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu defnyddio profiadau yn y gweithle i lywio eu hastudiaethau trwy gydol pob modiwl.
Mae canlyniadau penodol yn cynnwys creu portffolios digidol, lle gall myfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o sgiliau allweddol, damcaniaethau a methodolegau i’w defnyddio mewn cyfweliad ac i wella eu gyrfaoedd.