Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Llawn amser) (BA Anrh)
Adeiladwch eich sgiliau ar gyfer y gweithle drwy astudio ein rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Mae’r rhaglen hon wedi’i llunio i ffocysu’n benodol ar gyflogadwyedd a dilyniant gyrfaol, ac i’ch helpu i ddatblygu sgiliau a rhinweddau eraill sy’n cyfoethogi eich gallu i ddadansoddi’n feirniadol a herio gwybodaeth, dadleuon a thybiaethau, i fframio ac ymdrin â phroblemau, cwestiynau neu faterion, i weithio mewn timau a dysgu i gyfathrebu’n effeithiol – gofynion cyffredin mewn sefyllfaoedd academaidd a chyflogaeth.
Mae sgiliau cyflogadwyedd, yn cynnwys ymwybyddiaeth busnes a chwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, sgiliau ymchwil a chymhwyso technoleg gwybodaeth, yn rhan annatod o’r rhaglen ac yn drosglwyddadwy gan eich galluogi i symud ymlaen i ystod o lwybrau gyrfaol.
Cewch eich cyflwyno i ddulliau, strategaethau a sgiliau sy’n cael eu hystyried yn hanfodol ar gyfer gwaith ac ymgyfarwyddo â rôl trafod a dadlau ym mhroses a datrysiad problemau, gan ddatblygu eich deallusrwydd emosiynol a’ch gallu i weithio’n effeithiol yn annibynnol ac mewn tîm ar y ffordd.
Mae’r cwrs yn darparu ystod o brofiadau dysgu a luniwyd i’ch helpu i ennill a chymhwyso gwybodaeth. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu, wedi’u cyflwyno mewn amgylchedd dysgu cefnogol. Byddwch hefyd yn datblygu fel ymarferydd adfyfyriol, yn gallu diffinio a chyflawni targedau personol a phroffesiynol.
Fel arfer bydd myfyrwyr yn ymuno â lefel 5 a lefel 6 y rhaglen hon ar ôl cwblhau’r Dyst AU Sgiliau Cyflogadwyedd lefel 4 yn llwyddiannus er ei fod yn bosibl ymuno â lefel 5 ar ôl cwblhau cymhwyster lefel 4 arall yn llwyddiannus.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn darparu cyfleoedd i uwchsgilio a phrofiad dysgu sydd â ffocws ar y gweithle gan sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial ac yn ei dro, i drawsnewid y cymunedau maent yn byw ac yn gweithio ynddynt.
O ganlyniad i natur hyblyg ac eang y rhaglen, bydd graddedigion yn gymwys i fynd i weithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau a sectorau gan gynnwys rhai dielw, cyhoeddus a phreifat.
Lluniwyd y rhaglen yn seiliedig ar ofynion y diwydiant ac mae’n ymgorffori’r sgiliau cyflogadwyedd sy’n ofynnol i gael gyrfaoedd llwyddiannus gan drafod a datblygu medrau allweddol trwy gydol y cwrs.
Caiff strategaethau dysgu sy’n canolbwyntio ar y dysgwr eu mabwysiadu trwy gydol y rhaglen i sicrhau cydbwysedd rhwng damcaniaeth ac arfer sy’n bersonol ac yn gydweithredol. Bydd dysgwyr yn ennill sgiliau trosglwyddadwy sy’n defnyddio technoleg ar gyfer dysgu yn ogystal â sgiliau academaidd, proffesiynol a llythrennedd sy’n rhan o astudio ar y lefel hwn.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(30 credydau)
(20 credydau)
(30 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon yn denu ymgeiswyr o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau o ran cyflogaeth a chymwysterau academaidd ffurfiol.
Nid yw’r rhaglen hon yn gofyn i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau ffurfiol; bydd yr adran derbyniadau’n asesu addasrwydd ymgeiswyr trwy gyfweliad trylwyr a phrawf ysgrifenedig.
-
Gosodir gwaith cwrs a phrofion ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Ymarferion gosod ymarferol yn y dosbarth
- Chwarae rôl (e.e. ffug gyfweliadau)
- Cyflwyniadau (e.e. cynlluniau busnes)
- Portffolios o waith
- Prosiectau ymchwil
- Traethodau
- Adroddiadau
Gan fod y rhaglen yn denu dysgwyr o ystod o gefndiroedd, gydag amrywiaeth o brofiad gwaith a phersonol, mewn llawer o achosion mae’r asesiadau’n darparu hyblygrwydd i’r myfyriwr ddefnyddio eu cefndir a’u profiad i wneud y dysgu’n berthnasol i’w profiad gwaith blaenorol; bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ddatblygu prosiectau sy’n berthnasol i’w dyheadau gyrfa.
-
Mae’r holl gostau ychwanegol a restrir yn yr adran yn ddangosol.
Costau angenrheidiol
Bydd angen mynediad ar ddysgwyr i galedwedd a meddalwedd cyfrifiadurol addas: tua £500.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Mae cysylltiadau gydag amrywiaeth o sefydliadau yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat a siaradwyr gwadd a chyfleoedd mentora rheolaidd wedi’u hymgorffori yn y rhaglenni TystAU a BA i amlygu’r ystod o swyddi a llwybrau gyrfa sydd ar agor i’r myfyrwyr.
Mae cymryd rhan yn nigwyddiadau ‘Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd’ a ‘Gŵyl Dechrau Busnes yr Haf’ yn ogystal â mynychu a chysylltiadau gyda sesiynau Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru yn galluogi myfyrwyr i siarad gyda, a dysgu gan entrepreneuriaid llwyddiannus.