Bydd astudio ein Tystysgrif AU Sgiliau Busnes ar gyfer y Gweithle yn Llundain yn rhoi cyfle i chi ennill dealltwriaeth ymarferol a dadansoddol o fusnes a rheolaeth wrth i chi ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r radd hon wedi’i llunio er mwyn rhoi gwybodaeth eang am sefydliadau busnes, eu dulliau rheoli a’r amgylcheddau y maent yn gweithredu o’u mewn.
Bydd modylau’r rhaglen yn eich cyflwyno i ddisgyblaethau busnes allweddol fel cyllid, rheoli adnoddau dynol, marchnata a datblygiad proffesiynol.
Bydd sgiliau fel rheoli prosiectau, entrepreneuriaeth, creadigrwydd, hyfforddi, mentora, meddwl yn feirniadol a chyfathrebu’n cael eu hintegreiddio ar draws y modylau.
Mae gan y rhaglen thema gyflogadwyedd gref a welir yn y ffordd y caiff ei chyflwyno drwy’r defnydd o brosiectau byw ac ymgynghoriaeth.
Er nad yw’n arbenigo mewn disgyblaeth benodol, bydd y rhaglen hon yn rhoi gwybodaeth eang i chi yn y meysydd pwnc mwyaf cyffredin o fewn busnes a rheolaeth.
Byddwch yn ennill mewnwelediad helaeth i gymhwysiad damcaniaethol ac ymarferol theorïau a fframweithiau rheoli. Byddwch hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr o ystod o sectorau a diwydiannau, gan ganiatáu i chi ddatblygu eich profiad gwaith ymarferol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen wedi’i chreu’n benodol, o ran ei chynnwys a’i darpariaeth hyblyg, i roi’r hyder i chi ragweld problemau a dod o hyd i atebion, i weithio’n annibynnol a gyda phobl eraill, i gynllunio pethau cyn dechrau arni a chwblhau’r hyn rydych wedi’u dechrau, yn fyr, i ddatblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt!
Mae’r addysgu yn seiliedig ar brosiectau, gan gysylltu theori ag ymarfer a sicrhau bod pob modiwl yn cael ei roi yn ei gyd-destun mewn sefyllfaoedd a heriau go iawn yn y gweithle.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Llundain
Fel prif ddinas, mae gan Lundain gymaint o amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr fydd yn addas ar eich cyfer chi ac yn yr ardal lle’r hoffech chi fyw yn Llundain. Mae ein tîm llety wrth law ac ar gael i’ch arwain trwy eich opsiynau.
Gwybodaeth allweddol
-
.
-
.
-
.
-
.
-
.