Skip page header and navigation

Rheolaeth Busnes (HND - Diploma Cenedlaethol Uwch)

Abertawe
3 Blynedd Llawn Amser
88 o Bwyntiau UCAS

Bydd astudio ein gradd Rheolaeth Busnes yn Abertawe yn rhoi i chi’r cyfle i ennill dealltwriaeth ymarferol a dadansoddol o fusnes a rheolaeth gan ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r radd hon wedi’i llunio i ddarparu gwybodaeth eang am sefydliadau busnes, eu rheolaeth a’r amgylcheddau y maent yn gweithredu ynddynt.

Bydd modylau rhaglenni yn eich cyflwyno i ddisgyblaethau busnes allweddol fel cyllid, rheoli adnoddau dynol, marchnata a datblygiad proffesiynol.

Mae sgiliau fel rheoli prosiectau, entrepreneuriaeth, creadigrwydd, hyfforddi, mentora, meddwl beirniadol a chyfathrebu yn rhan annatod o’r modylau.

Mae gan y rhaglen thema gyflogadwyedd gref a welir yn y ffordd y caiff ei chyflwyno drwy’r defnydd o brosiectau byw ac ymgynghoriaeth.

Er nad yw’n arbenigo mewn un ddisgyblaeth benodol, bydd y rhaglen hon yn rhoi i chi wybodaeth eang am y meysydd pwnc mwyaf cyffredin o fewn maes busnes a rheoli.

Byddwch yn ennill mewnwelediad helaeth i gymhwysiad damcaniaethol ac ymarferol theorïau a fframweithiau rheoli. Byddwch hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr o ystod o sectorau a diwydiannau, fydd yn eich caniatáu i ddatblygu eich profiad gwaith ymarferol.

Gallwch astudio 40 credyd o’r cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
BMG1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfraniad staff sydd â phrofiad o ddiwydiant, ac y mae eu gwybodaeth yn seiliedig ar ymchwil, at yr addysgu.
02
Y cyfle i astudio dramor.
03
Y cyfle i ymgymryd ag o leiaf dwy interniaeth yn ystod y rhaglen dair blynedd.
04
Sgiliau cyflogadwyedd wedi’u mewnblannu ym mhob modwl.
05
Amrywiaeth y modylau ac asesiadau dilys.
06
Cyfle i astudio rhai modylau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno rhagori mewn gyrfa ym maes Busnes a Rheolaeth. Mae’r rhaglen yn rhannu blwyddyn gyntaf gyffredin, ac yn ystod hon, byddwch yn ymgymryd ag ystod o fodylau gorfodol sy’n cwmpasu nifer o ddisgyblaethau busnes, gan ddarparu dealltwriaeth eang o fusnes a rheolaeth. Mae hyn yn caniatáu i chi, fel myfyriwr, gael dealltwriaeth dda o egwyddorion ystod eang o feysydd pwnc, gan hefyd roi’r cyfle i arbenigo mewn disgyblaeth arbennig (fel marchnata, adnoddau dynol, cyllid a chyfrifeg) os dymunir.

Mae’r rhaglen wedi’i datblygu ar y cyd â chyflogwyr i sicrhau bod y sgiliau cyflogadwyedd perthnasol yn cael eu datblygu ochr yn ochr â thrylwyredd academaidd rhaglen radd.

Mae’r Ysgol Fusnes wedi hen sefydlu perthnasoedd gyda busnesau lleol a rhanbarthol i ddarparu rhaglen o weithgareddau allgyrsiol integredig. Mae hyn yn rhoi i’n myfyrwyr ystod o gysylltiadau, cyfleoedd a phrofiadau sy’n rhan o’r profiad dysgu, ond sydd hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u medrusrwydd ymarferol eu hunain er mwyn gallu trosglwyddo i fyd gwaith. 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Arloesi Entrepreneuraidd

(20 credydau)

Cyllid ar gyfer Busnes

(20 credydau)

Hanfodion Marchnata

(20 credydau)

Pobl a Sefydliadau

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Astudio Dramor Annibynnol Rhyngwladol (L5)

(60 credydau)

Marchnata ar waith

(20 credydau)

Rheoli Perfformiad Ariannol

(20 credydau)

Cyfraith Contract

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Materion Cyfoes mewn Rheolaeth

(20 credydau)

Moeseg Fyd-eang

(20 credydau)

Arwain a Datblygu Pobl

(20 credydau)

Rheolaeth Strategol a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

tysteb

Staff

Ein Pobl

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Gwybodaeth allweddol

  • 88 o Bwyntiau UCAS.

    Mae’r cwrs yn addas ar gyfer y rheini sydd wedi astudio meysydd pwnc eraill cyn cael mynediad i’r cwrs yn ogystal ag ymgeiswyr sydd wedi astudio’r pwnc hwn yn y gorffennol.   Yn benodol, gall ymgeiswyr â phrofiad gwaith, ond fawr ddim cymwysterau ffurfiol, hefyd ymuno â’r rhaglen yn dilyn asesiad o’u tueddfryd.  Mae’r rhaglen yn croesawu ymgeiswyr sydd â dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, UE a chyrff rhyngwladol.

    Derbynnir cymwysterau cyfwerth eraill a bydd y panel derbyn yn ystyried pob cais yn unigol. Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth eich ystod lawn o sgiliau, profiad a chyflawniadau wrth ystyried eich cais.

    Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Mae’r dulliau asesu’n amrywio o fodwl i fodwl ond gallwch ddisgwyl ystod o asesiadau gan gynnwys gwaith cwrs, gwaith ymarferol ac arholiadau. Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd â thasgau dilys o’r“byd go iawn”sy’n arddangos gallu myfyriwr i gymhwyso ei wybodaeth a’i sgiliau’n ystyrlon.

  • Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyriwr

    Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, gyda’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.

    Lleoliad

    Bydd ffi ychwanegol o £1800 ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio’r rhaglen gyda’r lleoliad blwyddyn mewn diwydiant dewisol. Bydd gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau tramor gostau teithio, byw ac efallai costau llety i’w talu. Bydd y swm yn amodol ar y lleoliad a chyflwr presennol y bunt. Bydd costau fisa ychwanegol yn daladwy yn achos myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau yn UDA.

    Costau teithiau maes a lleoliadau

    Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sydd yn ddewisol. Darperir gwybodaeth am gostau ar gyfer teithiau yn y DU ac yn rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.

    Yn achos teithiau maes disgwylir i fyfyrwyr dalu bedair wythnos ymlaen llaw. Yn achos lleoliadau tramor disgwylir iddynt dalu’r costau teithio a chostau fisa dri mis ymlaen llaw.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae ein graddau busnes yn rhoi i fyfyrwyr ystod eang o sgiliau y mae amrywiaeth o gyflogwyr yn chwilio amdanynt. O ganlyniad i natur hyblyg ac eang y rhaglen bydd graddedigion yn gymwys i fynd i weithio mewn ystod o ddiwydiannau a sectorau gan gynnwys y sectorau dielw, cyhoeddus a phreifat. Yn 2015/16 roedd 98% o raddedigion yr Ysgol Fusnes mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach ar ôl chwe mis.

    Mae’r Ysgol Fusnes yn cynnig cymorth pwrpasol i fyfyrwyr ynghylch lleoliadau, a chynigir cyngor sy’n benodol i’r diwydiant gan arbenigwyr yn y ddisgyblaeth. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymgymryd â lleoliadau/interniaethau fel rhan o’u rhaglen radd a/neu yn ychwanegol i’r modylau a addysgir. Hefyd, fe fydd yna gyfleoedd i ymuno â rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) y cyrff sy’n gysylltiedig â’r diwydiant.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau