Busnes Cymhwysol (Rheolaeth) (Llawn amser) (BA Anrh)
Astudiwch egwyddorion clasurol rheolaeth a’u perthnasedd cyfredol a gwerthuswch yr heriau a’r cyfleoedd sydd wedi codi yn yr hyn sy’n amgylchedd busnes sydd wedi’i globaleiddio, ei ddigideiddio ac felly’n amrywiol a modern ar y llwybr Busnes Cymhwysol (Rheoli). Datblygwch sgiliau entrepreneuraidd a fydd yn cynorthwyo wrth reoli’n effeithiol yn yr economi digidol, yn ogystal â meithrin mentergarwch o fewn sefydliadau sefydledig.
Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn eich galluogi i ddylunio a gweithredu fframweithiau a strategaethau rheoli i weddu’r sefyllfaoedd busnes unigryw y byddwch yn cael eich hunain ynddynt, waeth i ba sefydliad rydych yn gweithio.
Datblygwch a chryfhewch sgiliau sy’n gysylltiedig â chyfathrebu, cysylltiadau â gweithwyr, rheoli gweithleoedd amrywiol a newid cyfundrefnol effeithiol.
Cynyddwch eich dealltwriaeth o sefydliadau, eu rheolaeth, yr economi a’r amgylchedd busnes, wrth i chi ennill gwybodaeth a sgiliau busnes penodol. Datblygwch agwedd bositif a beirniadol tuag at newid a menter wrth gyfoethogi ystod eang o sgiliau a phriodoleddau a fydd yn eich galluogi i ddod yn ddinesydd byd-eang effeithiol.
Mae’r rhaglen hon wedi’i llunio’n benodol i fodloni anghenion gweithwyr proffesiynol prysur y diwydiant ac arweinwyr busnes uchelgeisiol, gan ddefnyddio addysgu a dysgu ar-lein i greu profiad dysgu hynod o ddiddorol a chymdeithasol.
Cyflwynir y rhaglen drwy Swyddfa Cymru-Ducere gan ddefnyddio arbenigedd a pherthnasedd diwydiannol Arweinwyr Byd-eang Ducere. I gael rhagor o wybodaeth am Ducere, ewch i Ysgol Fusnes Fyd-eang Ducere.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall egwyddorion clasurol rheolaeth a’u perthnasedd i gyd-destun yr oes sydd ohoni, ond hefyd byddant yn gwerthuso’r heriau a’r cyfleoedd sydd wedi codi mewn amgylchedd busnes sydd wedi’i globaleiddio a’i ddigideiddio’n helaeth, ac felly sy’n amrywiol iawn.
Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu setiau sgiliau entrepreneuraidd a fydd yn cynorthwyo wrth reoli’n effeithiol yn yr economi ddigidol sy’n symud yn gyflym, yn ogystal â meithrin gallu entepreneuraidd o fewn sefydliadau sefydledig.
Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn rhoi i fyfyrwyr y gallu i lunio a gweithredu fframweithiau a strategaethau rheoli sy’n gweddu i’r senarios busnes unigryw y maent yn eu cael eu hunain ynddynt, waeth i ba sefydliad y maent yn gweithio.
Bydd myfyrwyr yn gweithio’u ffordd drwy brofiad dysgu unigryw sy’n cynnwys gweithgareddau dysgu pwrpasol a chynnwys fideo unigryw gan sefyll ar ysgwyddau cannoedd o arweinwyr mwyaf llwyddiannus ac ysbrydoledig y byd, o Arlywyddion a Phrif Weinidogion i enillwyr Gwobrau Nobel ac academyddion blaenllaw, a chaiff myfyrwyr eu cefnogi wrth ddatblygu eu craffter busnes.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
88 pwynt UCAS ynghyd â 2 TGAU/TAG Lefel O o’r DU Gradd A–C mewn Mathemateg a Saesneg; neu brofiad gwaith* sylweddol ynghyd â 2 TGAU/TAG Lefel O o’r DU Gradd A–C mewn Mathemateg a Saesneg.
*Bydd profiad gwaith yn cael ei ystyried fesul ymgeisydd.
-
Mae’r dulliau asesu’n amrywio o fodwl i fodwl ond gallwch ddisgwyl ystod o asesiadau gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau a dadansoddiadau. Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd â thasgau o’r“byd go iawn” sy’n dangos gallu myfyriwr i gymhwyso’i wybodaeth a’i sgiliau’n ystyrlon.
-
Nid oes costau ychwanegol gyda’r cwrs hwn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Bydd graddedigion yn datblygu galluoedd gan gynnwys:
- Adnabod cyfleoedd i wella busnes
- Llunio strategaethau i greu timau amrywiol o gefndiroedd amrywiol
- Defnyddio technolegau modern i gynyddu effeithiolrwydd sefydliadau i’r eithaf
- Trwy ddata mawr a gwasanaethau data modern eraill, adnabod tueddiadau a fydd yn debygol o effeithio ar sefydliadau
Gweithredu dulliau a setiau sgiliau entrepreneuraidd o fewn sefydliadau sefydledig i helpu cwmnïau gyda’u hymdrechion arloesi. Mae cyfleoedd gyrfaol yn cynnwys:
- Rheolwr Prosiectau
- Arbenigwr Strategaeth
- Rheolwr Gweithrediadau
- Perchennog Busnes