Rheolaeth Chwaraeon (Llawn amser) (BA Anrh)
Mae ein rhaglenni Rheolaeth Chwaraeon yn canolbwyntio ar y datblygiadau diweddar yn y byd chwaraeon lleol, rhanbarthol a rhyngwladol a byddant yn rhoi i chi ystod o sgiliau – Hyfforddi, Mentora, Arweinyddiaeth a Rheolaeth – felly gallwch ddilyn ystod eang o yrfaoedd o fewn y maes.
Mae chwaraeon yn debygol o chwarae rôl flaenllaw wrth ddatblygu adfywiad ôl-Covid trwy’r effaith gymdeithasol a gaiff gweithgarwch corfforol, gan wella iechyd y genedl, y cynnydd mewn athletau hamdden, a manteision economaidd cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr. Mae’r datblygiadau hyn yn argoeli’n dda i ragolygon gwaith hir dymor ein graddedigion, o ymyraethau hyfforddi ac iechyd i arwain prosiectau a rheoli timau datblygu.
Mae’r rhaglen Rheolaeth Chwaraeon yn gofyn i chi ddod yn ddysgwr annibynnol fel bod gennych yr aeddfedrwydd i gasglu gwybodaeth, dadansoddi cynnwys ac adnabod argymhellion allweddol ar gyfer gwahanol randdeiliaid. Mae’r rhain yn nodweddion hanfodol ar gyfer gweithio yn y sector a chânt eu datblygu yn ystod eich astudiaethau.
Rydym yn darparu amrywiaeth o brofiadau sy’n hyrwyddo eich gallu i gaffael, dehongli, darparu, cyflwyno ac adfyfyrio ar eich profiadau.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Ffocws cyffredinol y llwybr hwn yw darparu rhaglen astudio hyblyg sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth helaeth am faterion a chysyniadau rheolaeth chwaraeon. Gwneir hyn yng nghyd-destun yr amgylchedd diwydiant chwaraeon ehangach ac i gynhyrchu graddedigion a chanddynt y sgiliau a’r galluoedd perthnasol i’w galluogi i gyfrannu’n effeithiol yn sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol y diwydiant chwaraeon, iechyd a ffitrwydd.
Bydd y rhaglen yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd ym maes rheolaeth chwaraeon a hamdden yn y dyfodol. Datblygir sgiliau a gwybodaeth gyrfa gynnar drwy astudio caffael sgiliau, prosesau hyfforddi a chyfarwyddo wrth gyflwyno damcaniaethau a materion allweddol sy’n effeithio ar y diwydiannau chwaraeon a hamdden. Bydd y rhaglen yn datblygu fesul cam gan adeiladu ar fodylau sylfaen. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth am reolaeth trwy fodylau cymhwysol a seiliedig ar waith maes sy’n gysylltiedig â rheolaeth o safbwynt chwaraeon.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
Tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
BA - 80 o bwyntiau UCAS
HND - 32 o bwyntiau UCAS gan gynnwys 60 o bwyntiau ar gyfer Safon Uwch neu gyfwerth
Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau. -
Nod y strategaeth asesu fydd cynorthwyo â datblygiad cytbwys cymwyseddau a gwybodaeth allweddol y diwydiant. Bydd yr asesiadau hefyd yn ceisio cynnal datblygiad mewn rheoli TGCh, cyfathrebu, rhifedd, datrys problemau, rhyngweithio mewn timau, arfarnu beirniadol, hunanreolaeth ac arweinyddiaeth. Bydd y strategaethau’n cynnwys cydbwysedd o aseiniadau, astudiaethau gwaith maes, asesiadau ymarferol a, lle bo’n briodol, arholiadau.
-
£150 ar gyfer cit i fyfyrwyr Rheolaeth Chwaraeon a thaith addysg..
-
Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor.
-
Mae gan y rhaglen gyfradd gyflogadwyedd uchel ar gyfer graddedigion sydd mewn gwaith o fewn chwe mis i gwblhau’r radd, gan gynnwys ym meysydd:
- Datblygu Chwaraeon Cymunedol
- Sefydliadau Chwaraeon Cenedlaethol
- Rheolaeth Chwaraeon / Cyfleusterau Hamdden
- Atyniadau Hamdden
- Timau Chwaraeon Proffesiynol
- Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol
- Swyddogion Ysgolion a Chlybiau
- Rheolaeth Iechyd a Ffitrwydd
- Y Cyfryngau Chwaraeon
- Diwydiannau cysylltiedig eraill (gwasanaethau cyhoeddus)
Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig.