Skip page header and navigation

Riham Ghaleb - Pensaernïaeth (BSc Anrh)

Profiad Riham yn PCYDDS

Riham

Enw: Riham Ghaleb

Cwrs: BSc Pensaernïaeth

Tref eich cartref: Abertawe

Profiad Riham ar BSc Pensaernïaeth

Arch 5

Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?

Fy hoff beth am y campws oedd pa mor hawdd roeddwn i’n gallu gwneud ffrindiau agos a dod o hyd i gymunedau clos ar y campws bach.   Roedd hi’n gyffyrddus a theimlais fod fy hyder yn tyfu pob tro yr oeddwn i’n siarad â’m cyd-ddisgyblion a chyflwyno iddynt.  Yn ogystal, roeddwn i wrth fy modd â’r llyfrgell, yn enwedig yr ystafelloedd astudio preifat.  Roedden nhw’n llefydd mor gyfleus i mi weithio gyda ffrindiau mewn gofod mwy tawel â ffocws gyda chymaint o wybodaeth yn hygyrch i ni.  

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais PCYDDS gan fod y campws yn agos at fy nghartref, felly roeddwn i’n gallu bod yn agos at fy nheulu a’m ffrindiau.  Yn ogystal, mae’r campws mewn lleoliad hyfryd sy’n agos at y dref a chaffis/bwytai cyfagos. Roedd y cyfleusterau hyn bob amser wedi rhoi cyfle i mi fwynhau fy hun ar ôl diwrnod yn y brifysgol.  

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Treuliais i lawer o’m amser rhydd gyda fy ffrindiau, fy nheulu a’m ffrind gorau.  Yn ogystal, rwyf wedi teithio, ac yn ddiweddar, ymwelais i â lleoliad fy mreuddwydion.  Roedd yn gymaint o uchafbwynt gan fy mod i’n gallu gweld a deall pensaernïaeth mewn gwlad wahanol wrth ymweld â’m chwaer a’m nithoedd.  Yn ogystal, treuliais i amser ar rai hobïau megis prosiectau celf personol, darllen a gemau fideo. Rwyf bob amser yn dod yn ôl atyn nhw pan rwyf eisiau ymlacio a mwynhau fy hun. 

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Rwy’n gobeithio dod o hyd i swydd ym maes pensaernïaeth er mwyn ehangu fy set sgiliau a’m profiad.  Byddai’n braf hefyd dysgu mewn amgylchedd mwy ymarferol y mae fy astudiaethau wedi fy mharatoi ar ei gyfer.  Rwy’n hynod gyffrous i gamu ymhellach o fewn y proffesiwn, nawr rwyf wedi cwblhau cam cyntaf fy nhaith.  Yn ogystal, rwyf yn gobeithio teithio hyd yn oed yn fwy yn y blynyddoedd nesaf a dysgu gwersi bywyd newydd ar yr un pryd.  

Beth yw eich hoff beth am y cwrs? 

Un o’m hoff bethau am y cwrs oedd y bobl a’r amgylchedd o’m cwmpas yn ystod fy astudiaethau.  Roedd teimlo’n gartrefol ymhlith fy nghyd-myfyrwyr mor bwysig yn fy nhaith brifysgol ac fe wnaeth fy helpu i ennill cymaint o hyder dros y blynyddoedd.   Rwyf hefyd wedi defnyddio’r adnoddau a oedd ar gael ar fy nghwrs, ac roedden nhw’n ddefnyddiol iawn.  

Arch award 3

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn i’n argymell PCYDDS achos fy mod i wedi cael profiad cadarnhaol, gwneud ffrindiau oes ac ennill hunan hyder yn ystod y tair blynedd.  Mae’r lleoliad yn cyfrannu at fy nheimladau cadarnhaol am PCYDDS ac mae llawer i’w wneud sy’n holl bwysig i fyfyriwr prifysgol.  

Gwybodaeth Gysylltiedig