Skip page header and navigation

Samantha McGrath - Patrwm Arwyneb a Thecstilau (BA)

Sam yn PCYDDS

Sam McGrath 3

Enw: Samantha McGrath

Cwrs: BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Astudiaethau Blaenorol: Coleg Saint Michael’s – Astudiaethau Amgylcheddol a Chysylltiadau Rhyngwladol Ysgol Uwchradd Kennebunk

Tref eich cartref: Kennebunk, Maine

Profiad Sam ar BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Sam McGrath 2

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Fy hoff beth am y campws oedd pa mor hygyrch oedd popeth roeddwn i eu hangen. Roedd yr holl weithdai a chyfleusterau yr oeddwn i eu hangen o fewn yr un adeilad, ac roedd y cyfleusterau eraill roeddwn i eu hangen at ddibenion eraill o fewn pellter cerdded 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais PCYDDS gan fy mod yn gwerthfawrogi maint bach y dosbarth, gan ganiatáu sylw agos gan fy narlithwyr, ynghyd â’r gymuned a  brwdfrydedd a brofais. Roeddwn i’n teimlo bod gan y darlithwyr fy lles pennaf mewn golwg ac roeddent yn hynod gefnogol.

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Y tu allan i fy astudiaeth rwy’n mwynhau treulio amser gyda fy ffrindiau, rhedeg a mynd i’r gampfa, mynd i’r traeth a dod o hyd i siopau coffi newydd. Rwyf hefyd yn mwynhau darllen, peintio a gwnïo pan nad ydw i  yn y Brifysgol.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Pan fyddaf yn graddio, rwy’n gobeithio gorffen fy ngradd amgylcheddol ac yna dod o hyd i swydd ym maes dylunio cynaliadwy. Rwy’n gobeithio gweithio mewn stiwdio lle gallaf i greu eitemau a chanolbwyntio ar fy nghrefftwaith.  

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Fy hoff beth am y cwrs yw’r amrywiaeth eang o sgiliau technegol rwyf wedi’u dysgu a sut roedd hawl gen i arbrofi ac archwilio. 

Sam McGrath 1

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn, mi fyddwn i’n argymell PCYDDS oherwydd bod y sylw a’r gefnogaeth gan y darlithwyr yn meithrinamgylchedd lle rwy’n teimlo y gallaf ffynnu. Mae PCYDDS yn annog arbrofi ac yn darparu’r adnoddau ac offer sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus. Rwyf hefyd yngwerthfawrogi’r pwyslais y mae PCYDDS yn ei roi ar gynnal cydbwysedd a phwysigrwydd iechyd meddwl.

News

Mae myfyrwraig drydedd flwyddyn mewn Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn adlewyrchu ar y Graduate Symposium, gan archwilio sgyrsiau diwydiant, briffiau byw, a theithiau gyrfa cyn-fyfyrwyr. O interniaethau a chyngor ar eiddo deallusol i lwybrau gyrfa ysbrydoledig, roedd y digwyddiad yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr, hyder a chyfeiriad ar gyfer bywyd ar ôl graddio.

A girl smiling next to artwork on display

Mae myfyrwyr o'r cwrs Patrymau Arwyneb a Thecstilau yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yn cychwyn ar waith cydweithredol newydd cyffrous gyda'r brand Prydeinig eiconig Laura Ashley, a lansiwyd i ddathlu yr hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd y dylunydd yn 100 oed.

Surface Pattern Students

Cynhaliodd Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) arddangosfa o waith myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau a  ddatblygwyd mewn ymateb i friff byw yn y diwydiant gan frand eiconig o Brydain, sef Laura Ashley.

Surface Pattern Students, Lecturers and Laura Ashley team