Andrew Fillis
Cefndir
Ar ôl graddio gyda BA mewn Actio o’r Ysgol Ddrama, The Arden School of Theatre mewn cydweithrediad â The Royal Exchange a Phrifysgol Manceinion, gweithiodd Andrew fel actor ar y llwyfan a’r sgrin – yn fwyaf nodedig fel y dyn drwg Gary Stanlow yn Brookside ar C4.
Sefydlodd Andrew ei gwmni theatr ei hun hefyd – The NRG Theatre Company a chynhyrchodd ac ymddangosodd mewn pum taith genedlaethol yn ogystal â mynd i ŵyl Fringe Caeredin. Bu’r cwmni ar daith hefyd gydag amrywiaeth o berfformiadau i ysgolion, nosweithiau comedi a digwyddiadau adloniant.
Dros yr 19 mlynedd diwethaf, mae Andrew wedi bod yn hyfforddi actorion - yn gyntaf yn The Arden School of Theatre lle cyflawnodd ei gwrs TAR hefyd. Yna daeth yn Bennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig a Phennaeth Actio yn The Academy of Live and Recorded Arts. Yn 2013 fe wnaeth eu harwain i ennill Gwobr Ysgol Ddrama y Flwyddyn, Stage 100.
Yn 2016, ymunodd Andrew â Phrifysgol Swydd Stafford gan addysgu ar y cwrs Actio ar gyfer y Llwyfan a’r Sgrin, gan gyflwyno’r modylau Actio ar gyfer y Camera.
Pynciau Arbenigol
- Actio
- Cyfarwyddo
- Actio ar gyfer y Camera
- Actio Llais
- Datblygiad Personol Hyfforddi gan gynnwys Deallusrwydd Emosiynol
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Mae Andrew hefyd wedi dilyn cyrsiau mewn Busnes i’r Celfyddydau, Cyfathrebu a Deallusrwydd Emosiynol y mae'n tynnu arnynt wrth hyfforddi pobl ar gyfer datblygiad personol.
Cymwysterau
- Actio BA - The Arden School of Theatre / Prifysgol Manceinion
- TAR - Prifysgol Fetropolitan Manceinion
- City & Guilds 7407 Addysg Ôl-orfodol – Coleg Dinas Manceinion