Beverly Cole
Cefndir
Yn sgil yr elfen adnoddau dynol ar swydd Beverley fel Pennaeth Cyllid a Gweinyddu yng Nghymru ar gyfer sefydliad cenedlaethol, deuai i gysylltiad dyddiol â’r anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu a’u trafferthion wrth geisio mynd i’r afael â’r rhain. Arweiniodd hyn, ynghyd ag agwedd reoli ei swydd, a oedd yn cynnwys meithrin twf personol a phroffesiynol ac annog llwyddiant, at ymchwil i botensial a phŵer seicotherapi a newid i arddull rheoli sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn. Yn y pen draw, gwnaeth ei diddordeb cynyddol mewn annog pobl i ddefnyddio eu greddf gynhenid i ganfod potensial a thwf arwain Dr Cole i drosglwyddo ei defnydd o’r dull person-ganolog o fewn y byd busnes i faes clinigol trwy hyfforddi fel seicotherapydd. Mae ei phrofiad gwaith blaenorol, ei chwnsela a’i hymchwil yn llywio ei haddysgu.
Pynciau Arbenigol
- Sgiliau cwnsela ar gyfer darpar gwnselwyr [Lefel 4 - Lefel 7], a'r rhai sy'n dymuno defnyddio technegau cwnsela fel sgiliau cyfathrebu o fewn proffesiynau eraill
- Agweddau damcaniaethol Cwnsela a Seicotherapi
- Methodoleg/dulliau ymchwil ansoddol
- Goruchwyliaeth ymchwil
- Codi ymwybyddiaeth am ymchwil, cynyddu gwybodaeth, gweithgarwch a lledaenu ymchwil o fewn y proffesiwn cwnsela a seicotherapiwtig
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Yn ogystal â'r rolau academaidd hyn, mae Dr Cole yn aelod achrededig o'r BACP ac yn seicotherapydd/goruchwyliwr cwnsela sy’n gweithio yn y GIG, mewn practis preifat, a'r sector gwirfoddol.
Mae diddordebau ymchwil Beverley yn cynnwys Hunan-ymchwiliad Hewristig, Awto-ethnograffeg a Dadansoddiad Ffenomenolegol Dehongliadol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn ymchwil i hyfforddi a goruchwylio seicotherapyddion.
Mae ei gweithgareddau a'i diddordebau seicotherapiwtig ac ymchwil yn helpu i lywio ei haddysgu ar draws portffolios israddedig ac ôl-raddedig.
Cymwysterau
- PhD Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant
- MPhil Prifysgol Fetropolitan Abertawe
- MA Prifysgol Cymru, Casnewydd
- Post Graduate Diploma in Integrative Counselling. University of Wales, Newport
- Diploma Ôl-raddedig mewn Cwnsela Integreiddiol. Prifysgol Cymru, Casnewydd
Ieithoedd a Siaradwyd
Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl
Addysgu Academaidd
Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol
Dolen i Broffil Orcid
Cyhoeddiadau Proffesiynol
- Watling, A. a Cole, B. J. (2025). Metaphorical Metaphor for working with forgiveness. European Journal of Counselling Theory, Research and Practice. In press.
- Noble, H. J. a Cole, B. J. (2024). Falling into Glăveanu’s Gap: A lyric essay searching for resilience through creativity. European Journal for Qualitative Research. 14. 48-61.
- Noble, H. J. a Cole, B. J. (2020). Re-writing the pain: A Lyric Essay. European Journal for Qualitative Research. 10. 16-27.
- Edworthy, A. a Cole, B. J. (2012). ‘Cycles of Self Esteem’. Social Care and Neuro-disability. 3(1). 27–36.