Cerys Davies
Cefndir
Mae addysgu Cerys Davies yn tynnu ar ei phrofiad helaeth o weithio fel gweithiwr cyfreithiol proffesiynol, fel swyddog heddlu gyda Gwasanaeth Heddlu Dyfed Powys, ac fel cyfreithiwr gweithredol, ar ôl arbenigo mewn Cyfraith Cyflogaeth. Astudiodd y Gyfraith ym mhrifysgolion Rhydychen, Caerdydd a De Cymru, ac enillodd ei chymhwyster TAR o PCYDDS.
Mae ei chefndir proffesiynol a’i gyrfa addysgu ddilynol wedi llunio ei hymrwymiad pedagogaidd i wneud yr hyn y mae’r myfyrwyr yn ei ddysgu o’r Gyfraith yn real ac yn berthnasol. Mae Cerys yn medru’r Gymraeg yn rhugl ac yn eiriolwr brwd dros hyrwyddo’r iaith mewn cyd-destunau addysgol a chyfreithiol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn sicrhau bod myfyrwyr, ochr yn ochr ag ennill gwybodaeth, yn datblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Pynciau Arbenigol
- Fel Uwch Ddarlithydd a Rheolwr Rhaglen y Gyfraith, mae Cerys yn addysgu ar draws y tair lefel ar raglenni israddedig y Gyfraith a'r Gyfraith gyda Throseddeg ac ar draws y Lefel Sylfaen ac Uwch ar raglenni astudio CILEX.
- Mae'r modylau cyfredol ac a addysgwyd yn flaenorol yn cynnwys: Sylfeini a Sgiliau Cyfreithiol Ymgyfreitha Troseddol Ymgyfreitha Sifil Trawsgludo Cyfraith ac Arfer Busnes Datrys Anghydfod Eiddo a Chleientiaid Preifat Egwyddorion Arfer Cyfreithio
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Athrawes Gymwysedig
Cymwysterau
- TAR
- Cyfreitheg MA (Oxon)