Skip page header and navigation

Cefndir

Mae gan Darren brofiad helaeth ym meysydd gwaith ieuenctid a chymuned, addysg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae’n weithiwr ieuenctid â chymwysterau proffesiynol, yn ogystal ag athro ac asesydd dyslecsia.  Fel gweithiwr ieuenctid mae ganddo brofiad o weithio yn y sectorau a gynhelir a gwirfoddol, gwaith rhyngwladol ac addysg awyr agored. Mae gan Darren hefyd lawer o brofiad ym maes Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) ac mae wedi bod yn uwch reolwr mewn llywodraeth leol gyda chyfrifoldeb am Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant. Mae hefyd wedi gweithio i Lywodraeth Cymru i gyflawni nifer o brosiectau sy’n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol gan gynnwys canllawiau i ysgolion ac awdurdodau lleol, datblygu prosiectau a ariennir gan Ewrop i wella cefnogaeth i ddysgwyr, a datblygu rhwydweithiau strategol. 

Pynciau Arbenigol

  • Gwaith Ieuenctid a Chymuned
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Dyslecsia
  • Addysg Heblaw yn yr Ysgol
  • Polisi Cyhoeddus
  • Addysg Awyr Agored
  • Ieithoedd Modern

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Addysg Ddewisol yn y Cartref yng Nghymru

Trefniadau ariannu Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Moderneiddio Gwaith Ieuenctid

Addysg Heblaw yn yr Ysgol

Cymwysterau

  • Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus
  • PG/Dip Gwaith Ieuenctid a Chymuned
  • Diploma Ôl-raddedig Addysgu ac asesu Dysgwyr â Dyslecsia
  • Prifysgol Bangor.  ATS
  • AMBDA
  • TAR Addysg Uwchradd Ieithoedd Modern, (gydag Addysg Gorfforol)
  • SAC
  • BA (Anrh)Ffrangeg a Sbaeneg

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg, Sbaeneg

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

Cyngor y Gweithlu Addysg
Cymdeithas Dyslecsia Prydain